Gwesty Bae Oxwich, Gŵyr

Mae traeth Bae Oxwich yn aml yn cyrraedd y brig ar restrau cenedlaethol – felly pam dewis cerdded heibio iddo pan allwch chi aros a chrwydro ychydig? Saif Gwesty Bae Oxwich ar lwybr yr arfordir a gallwch fynd am dro bendigedig i’r gorllewin i gyfeiriad Pen Pyrod neu i’r dwyrain tua Bae’r Tri Chlogwyn a’r Mwmbwls. Lleolir y gwesty ar ochr orllewinol, gysgodol y bae prydferth hwn, gyda thraethell freuddwydiol o’i flaen a thwyni tywod a choetiroedd dwys y tu ôl iddo.

Mae tipyn o hwyl i’w gael ar y dŵr yma, heb sôn am gyfleoedd i fwynhau bywyd gwyllt wrth fynd am dro hamddenol, gyda gwarchodfa natur genedlaethol Bae Oxwich yn cynnig cynefin delfrydol ar gyfer adar, ystlumod a blodau gwyllt, a digon o forloi llwyd a dolffiniaid yn y môr gerllaw.

Teulu’n cerdded ar hyd y llwybr wrth ymyl y traeth â gardd y gwesty yn y cefndir
Lôn wledig â wal a gardd y gwesty ar un ochr

Mae Gwesty Bae Oxwich Bay eiliadau o’r traeth

Mansion House, Llansteffan, Sir Gaerfyrddin

Gall Llansteffan gael ei disgrifio fel un o fannau cudd prydferthaf Cymru, yn union fel yr hafan hyfryd yma o’r 19eg ganrif, sy’n dipyn o gyfrinach hefyd. Wedi’i osod mewn gerddi hardd sy’n ymestyn dros bum erw, gyda golygfeydd ysgubol dros aber yr afon Tywi a Bae Caerfyrddin, mae yn y Mansion House yn Llansteffan ystafelloedd gwely urddasol. 

Cofiwch aros i gael swper hefyd. Maen nhw’n gweini bwydydd cyfoes gyda’r pwyslais ar gynnyrch lleol mewn ystafell fwyta ysblennydd. O ddilyn llwybr yr arfordir fe ddowch chi at leoliad dramatig Castell Llansteffan a Chraig Ddu, sydd dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – lle mae afonydd Tâf, Tywi a’r Gwendraeth yn cwrdd.

Ynyshir, ger Machynlleth, Ceredigion

Weithiau, gall grwydro ychydig bach oddi ar y llwybr dalu ar ei ganfed. Prin filltir i mewn o’r arfordir o Gastell Glandyfi ar yr Afon Ddyfi mae Gwesty Ynyshir ger Machynlleth, bwyty seren Michelin ag ystafelloedd aros. Mae’r fwydlen flasu ryfeddol yn siŵr o dynnu dŵr o’r dannedd, gan wneud defnydd hynod o gigoedd Cymreig, yn cynnwys cig eidion Waygu lleol a hwyaid o Abergwaun.

Ar ôl bwyd, gallwch ymlacio wedyn yn un o’r chwe ystafell wely chwaethus yn y tŷ o’r 1750au neu un o’r ystafelloedd gardd sy’n cyfuno cyffyrddiadau modern a thraddodiadol yn hyfryd.

Y darn 60-milltir o Lwybr Arfordir Cymru yng Ngheredigion yw un o’r mwyaf amrywiol; mae’r daith o Aberystwyth i Ynyslas yn daith diwrnod bendigedig, gan gwmpasu clogwyni, twyni tywod ac aber llydan y Dyfi.

 

Chef yn paratoi bwyd mewn cegin agored.
Cwrs yn defnyddio cynnyrch lleol yn Ynyshir ger Machynlleth.
Ynyshir, Eglwys Fach yn cuddio rhwng y coed – yn y pellter.

Bwyd seren Michelin yn Ynyshir

Gwesty Portmeirion, Penrhyndeudraeth, Gwynedd

Trodd Clough Williams-Ellis, pensaer ysbrydoledig Pentref Portmeirion, y fila Fictoraidd hon yn westy yn 1925. Heddiw, cewch brofi cyfuniad o rai o’r nodweddion gwreiddiol – yn cynnwys lle tân Eidalaidd addurnedig – â bar ac ystafell fwyta yn arddull Terence Conran o 2005.

Digon hawdd cael eich rhyfeddu gan adeilad ysblennydd Gwesty Portmeirion, ond peidiwch ag anghofio am yr ardal ehangach; mae llwybr saith milltir o Fin y Don, ger mynedfa pentref Portmeirion, i Draeth Morfa Bychan. Cewch gyfle i groesi’r Cob ym Mhorthmadog – morglawdd o’r 18fed ganrif – pentiroedd creigiog, pentref pysgota prydferth Borth y Gest, a morfeydd heli sy’n enwog am adar gwyllt.

Pwll nofio allanol â golygfeydd dros yr afon.

Pwll â golygfa yng Ngwesty Portmeirion

Y Bull, Biwmares, Sir Fôn

Bar cysurus yw calon Gwesty’r Bull, Biwmares. Prin fu’r newidiadau i’r lle ers gweini’r jygiau cyntaf o fedd yn ystod y 1400au, er iddo gael ei ddefnyddio fel Pencadlys militaraidd yn ystod y Rhyfel Cartref, fel man cyfarfod i’r Crynwyr a lle ar gyfer cyfarfodydd helfeydd lleol. Mae’r trawstiau gwreiddiol i’w gweld yn yr 13 ystafell wely o hyd, ac ym mhob un mae baddon moethus a nodweddion trawiadol yn cynnwys gwely melfed coch ystafell y Suite.

Dafliad carreg i ffwrdd o’r gwesty mae Castell Biwmares ac Eryri gerllaw hefyd. Mae cerdded ar hyd yr arfordir godidog a dramatig o Benmon hyd at Afon Menai yn werth gwneud. Mewn gwirionedd, mae Llwybr Arfordir Sir Fôn yn disgyn yn gyfan gwbl o fewn yr Ardal o Brydferthwch Naturiol Arbennig. (ABNA).

Gwaith celf tapestri o darw ar wal hen dafarn.
Tu fewn i dafarn hen gyda soffas cyfforddus.

Tu mewn chwaethus y Bull ym Miwmares

Neuadd Bodysgallen, Llandudno, Conwy

Plasty hanesyddol a gerddi yn Llandudno yw Neuadd Bodysgallen, rhyw filltir o Gyffordd Llandudno. Fel plasty urddasol, mae’n lle rhyfeddol ac unigryw. Cewch ddewis o ystafelloedd moethus â gwelyau pedwar poster a golygfeydd dros y parc, bythynnod yn drwch o rosod hardd yn edrych i lawr dros y parterre o’r 17eg ganrif a bythynnod sba rhamantus yn hen adeiladau’r fferm. Cofiwch drio’r te prynhawn yn yr ystafelloedd cyhoeddus moethus. Taith gerdded 5.5 milltir o gwmpas Pen y Gogarth yw’r daith glan môr glasurol, a chan ei bod wedi’i phalmantu bob cam, mae’n addas ar gyfer coetsis a chadeiriau olwyn.

Plasty a gwesty hanesyddol Neuadd Bodysgallen a’r gerddi.

Y gerddi eang o gwmpas Gwesty a Sba Neuadd Bodysgallen

Tafarn y Kinmel Arms, Llansansior, Abergele, Conwy

O gerdded ond ddwy filltir o awel y môr ar arfordir Gogledd Cymru, fe ddowch ar draws y dafarn gain hon a’i bwyty arobryn. Mae’r perchnogion, Lynn a Tim, wedi gwneud pob ymdrech i wneud i chi deimlo’n gartrefol yn nhafarn y Kinmel Arms yn Abergele. Mae’r ystafelloedd cartrefol yn cynnwys cyffyrddiadau celfyddydol, gyda gwelyau derw cadarn, llestri bwrdd Tsieina ac offer dringo hanesyddol yn addurno’r waliau yn y bar. Ar y fwydlen, mae cynhwysion lleol yn nodwedd bwysig.

Mae’n werth mentro allan a chrwydro o gwmpas pentref hynod Gymreig a hyfryd Llansansior. Neu beth am fentro ar hyd y llwybr 10-milltir fendigedig ar hyd y morgloddiau a’r prom o Abergele i Brestatyn.

Dau berson yn syllu allan ar y môr â’r mynyddoedd yn y cefndir

Dau berson yn syllu allan ar y môr â’r mynyddoedd yn y cefndir

Straeon cysylltiedig