O glogwyni gwyntog a bywyd gwyllt Sir Benfro, i lannau prysur Bae Abertawe, draw i gefn gwlad heddychlon Sir Gâr, anelwch am y gorllewin i ddadebru, i ymlacio, ac i greu atgofion oes.

Gwyliau teuluol anturus yn y gorllewin

Mae’r golygfeydd rhyfeddol, y traethau ysblennydd a’r llond gwlad o bethau i’w gwneud ym mhob tywydd yn golygu bod teuluoedd wedi heidio ar eu gwyliau i’r gorllewin ers cenedlaethau lawer.

Mae gan Sir Gâr bob math o bethau i’r holl deulu eu gwneud. Mae Castell Carreg Cennen yn lle heb ei ail am bicnic. Mae’r adfeilion dirgel, y twneli tanddaearol, a’r golygfeydd godidog yn gwneud i fan hyn ymddangos fel rhywle allan o stori i lygaid ifanc. Ewch ar daith gyffrous drwy fwynglawdd danddaearol, neu roi cynnig ar olchi aur mewn padell ym Mwyngloddfeydd Aur Dolaucothi. Am ychydig oriau mwy hamddenol, mae gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lefydd agored rif y gwlith sy’n berffaith am bicnic a chyfle i chwarae.

Beth am fwynhau gwyliau bach yn Sir Benfro, lle mae rhai o atyniadau teuluol gorau’r Deyrnas Unedig? Bydd pawb wrth eu boddau ar saffari cerdded yn y Manor Wildlife Park. Mae anturiaethau lu hefyd yn eich aros yn Heatherton World of Activities, gan gynnwys gwibgertio, golff gwyllt a saethyddiaeth.

Castell Carreg Cennen a Thraeth Pentywyn yn Sir Gâr, Bae y Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr, Gorllewin Cymru

Ar wyliau ym Mae Abertawe, fe gewch chi bopeth y byddwch chi’n ei ddisgwyl wrth gael hoe mewn dinas, yn ogystal â milltiroedd dirifedi o hwyl glan môr. Mae taith i’r Mwmbwls a’r pier yn sicr o fod yn hwyl – lle llawn arcedau, hufen iâ, a llefydd i bysgota am grancod. Ewch i LC Abertawe i fwynhau’r llithrenni dŵr a’r peiriannau creu tonnau, neu i Sw Trofannol Plantasia lle mae’r goedwig law dan do yn ddelfrydol ar ddiwrnodau gwlyb neu i chwythu stêm am brynhawn. Yn Abertawe hefyd fe ddewch chi ar draws sawl amgueddfa ardderchog, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Tref arfordirol dros gopa bryn glaswelltog.
Pentref glan môr gyda thraeth caregog, pier a phromenâd.

Y Mwmbwls, Abertawe, West Wales

Ymhlith llefydd aros gwych i deuluoedd mae:

Mae ein tudalennau am lety sy'n hygyrch i bawb yn y Gorllewin rhoi rhagor o syniadau i chi. Mae gan sawl lle Wi-Fi da dros ben – sy’n ddelfrydol i gyfuno eich gwyliau i’r teulu ac ychydig bach o waith.

Anturiaethau awyr agored: llwybrau gwyllt a gwefr yr arfordir

Does dim ffordd well o fwynhau’r gorllewin na thrwy grwydro yn yr awyr agored. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Llwybr Arfordir Penfro, lle cewch chi fwynhau golygfeydd dramatig dros glogwyni, syfrdanu at y bwâu naturiol a’r creigiau yn y môr, a tharo ar sawl harbwr bach tlws. Beth am daith fach mewn cwch i rai o’r ynysoedd i edmygu’r bywyd gwyllt, fel Ynys Sgomer, sy’n enwog am adar y pâl?

Ewch am dro ar hyd traethau penigamp Gŵyr neu i ddysgu am dreftadaeth ddiwydiannol Castell-nedd Port Talbot. Dilynwch lwybrau hynafol yr Heol Aur ar droed, neu seiclo ffordd Rufeinig Sarn Helen. Yn wir, mae gan Sir Gâr lwybrau seiclo rif y gwlith. Neu ewch ati i drefnu penwythnos iachusol ac ymlacio mewn steil.

1 / 9
A small fishing boat in gorgeous blue seas, with a colourful harbour village in the background.
Harbyrau lliwgar

Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

2 / 9
A beach with a mobile sauna, and a group of people getting ready to go surfing.
Sawna a syrffio

Grŵp o ffrindiau yn mwynhau sawna ar draeth Niwgwl, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

3 / 9
A harbour village surrounding a boat-filled estuary - houses one side, walkers on a path on the other.
Pentrefi llwybr arfordirol

Solfach, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

4 / 9
A group of people at a cliffside campsite round a firepit.
Bae Tri Chlogwyn

Parc Gwyliau Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr, Gorllewin Cymru

5 / 9
A couple walking up concrete steps on an island, watched by puffins.
Ynysydd llawn bywyd gwyllt

Pâl ar Ynys Sgomer, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

6 / 9
A woman walking at Bosherton lily ponds.
Llynoedd Lili Bosherston

Ystagbwll, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

7 / 9
Drone view of lake and green valley and trails in Afan Forest Park.
Llwybrau coedwig

Parc Coedwig Afan, Pen-y-bont ar Ogwr, Gorllewin Cymru

8 / 9
Pre-historic standing stones silhouetted with a glowing sun behind a hill.
Tirweddau hynafol

Maen Hirion Preseli, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

9 / 9
Dark skies above a remote reservoir and dam.
Awyr dywyll

Llyn Brianne a Chaergrawnt, Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru

Am ddiwrnod o gyffro a gwefr, rhowch gynnig ar arfordira. Drwy drefnu i fynd gyda darparwr arbenigol, cymwys, fe fyddwch chi’n sicr o gael antur sy’n llawn hwyl ond yn ddiogel hefyd.

Bydd syrffwyr yn heidio i fannau poblogaidd fel traethau Llangynydd a Niwgwl. Mae dyfrffyrdd yr ardal hefyd yn wych i gaiacio a phadlfyrddio, neu trefnwch ddiwrnod i’r brenin yng Nghanolfan Gweithgareddau Llys-y-frân. Fe gewch chi logi offer chwaraeon dŵr neu roi cynnig ar ddringo a thaflu bwyeill.

Arfordira ger Tyddewi, syrffio oddi ar draeth Niwgwl, a chaiacio ger Saundersfoot, Gorllewin Cymru

Ymhlith yr opsiynau llety wrth anturio mae:

 

Dihangfa ddiwylliannol i barau neu ffrindiau

Trefnwch hoe foethus i chi’ch hun yn y gorllewin. Mae yma lwybrau llenyddol i’w dilyn, wedi’u hysbrydoli gan Dylan Thomas a Richard Burton, neu os am wyliau bach rhamantus, beth am ymlacio mewn orielau celf, amgueddfeydd, cestyll a gerddi?

I gael egwyl sy’n cyfuno’r ddinas a glan môr, mae Gwesty Morgans (4*) ger glannau Abertawe yn lle delfrydol. Fe gewch chi wledda mewn steil (Slice, The Shed), mwynhau sioe yn Theatr y Grand Abertawe, a llymeitian coctels yn y marina. Gerllaw, mae traeth Langland yn lle gwych i syrffio, i chwarae golff, ac i fynd am dro ar yr arfordir. Cadwch fwrdd yn y Beach House yn Oxwich – sy’n fwyty seren Michelin – lle cewch chi bryd bythgofiadwy o fwyd.

Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Caerfyrddin a Chlwb Golff Bae Langland, Penrhyn Gŵyr, Gorllewin Cymru

Ymhlith llefydd moethus i aros mae:

gwesty wedi’i amgylchynu gan goed.
Eglwys gadeiriol fawr gyda chennin Pedr yn y blaendir.
Pwll gorwel uwchben traeth a phentref tlws.

The Grove of Narberth, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, St Brides Spa, Saundersfoot, Gorllewin Cymru

Cildraethau tywodlyd bach rhwng clogwyni garw uchel.

Cildraeth Church Doors / Skrinkle Haven, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Straeon cysylltiedig