A chithau yng nghanol dolydd ir Dyffryn Tywi, mae’n ymddangos bod gwyrddni ym mhobman o’ch cwmpas yn Llandeilo, Sir Gâr. Ar ddiwrnod braf o haf, mae’r gwyrddni hwn yn amlycach fyth. Ewch am dro drwy’r dref, sy’n llawn gwelyau blodau a pherlysiau a’r rheini’n denu gwenyn rif y gwlith. Cymerwch gip dros reiliau’r promenâd ac fe welwch chi randiroedd llethrog sy’n ymuno â chefn gwlad.

plasty ac ymwelwyr ar ddiwrnod braf o hydref.
castell gyda thŵr crwn a chefn gwlad o’r awyr.

Tŷ Newton a Chastell Dinefwr, Dinefwr, Sir Gâr, Gorllewin Cymru

Cyrraedd Llandeilo

I gael taith heb gar, beth am fynd i Landeilo ar y trên, gan gyrraedd ar lwybr Calon Cymru o Amwythig. A honno’n troelli drwy fryniau a dyffrynnoedd Powys, mae’n daith hynod o braf sy’n para ychydig o dan dair awr.

Beth i’w weld a’i wneud

Mae Llandeilo yn sefyll ar gyrion dyffryn afon eang, gyda chestyll a llwybrau cerdded yn britho’r fro. I gael tro byr, dilynwch y llwybr y tu ôl i’r stesion at y bont droi. Ar yr ochr arall, mae traeth cerigos bas sy’n lle gwych i badlo, i gael picnic, ac i daflu cerrig. Mae llwybrau cysgodol Coed y Castell i’w canfod ym mhen arall y dref, o dan Barc Penlan.

llwybr gyda rheiliau yn arwain at bont droi.
bandstand a pharc gyda choed a bryniau yn y cefndir.

Pont droi a Parc Penlan, Llandeilo, Sir Gâr, Gorllewin Cymru

Bydd y rheini sy’n hoff o lwybrau hirach wrth eu boddau yma, gyda llwybrau sy’n amrywio o rai dwyawr i chwech awr, gan basio cestyll, gerddi a phlastai. Parc Dinefwr yw’r agosaf o’r rhain, gyda Chastell Carreg Cennen, Gerddi Aberglasne, Parc Gwledig Gelli Aur a Chastell y Dryslwyn i gyd o fewn eich cyrraedd.

Wrth i chi gerdded, trowch eich golygon fry ac rydych chi bron yn sicr o weld silwét trawiadol barcud coch yn troelli uwch eich pen. Mae Gorsaf Fwydo’r Barcud Coch yn agos mewn car, ac felly hefyd Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, llwybrau cerdded y Mynydd Du, a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ble i aros

I aros yn y dref ei hun, fe allwch chi ddewis rhwng gwesty’r Cawdor neu’r Plough. Os bydd gennych chi gi’n gwmni, mae’r ddau le’n croesawu cŵn. Lle aros gwych arall gyda chŵn, ond mewn man mwy gwledig, yw Pond View Lodges, sydd ychydig dros filltir y tu allan i’r dref. Mae yno dwbas twym, tyllau tân, setiau teledu a Wi-Fi. I gefnu’n llwyr ar y byd digidol ym mhrydferthwch cefn gwlad, beth am drefnu i aros yn Erwain Escapes, sef un caban pren yng nghanol dôl o flodau gwyllt gyda llosgwr coed, bath suddedig a thwll tân.

Os byddwch chi’n gyrru, efallai y byddwch chi am aros y tu allan i’r dref yn un o’r llefydd niferus sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn llonyddwch Parc Dinefwr. Mae Cariad Cottage a Deer Lodge yn llefydd clyd, llawn cymeriad, tra bo lle i wyth gysgu ym Mhenparc a deuddeg yn Home Farm House. Mae lle i hyd at ddau gi ym mhob eiddo hefyd.

Ble i fwyta

Mae Llandeilo yn lle penigamp am gaffis, gyda digonedd o lefydd i fwynhau paned dda, pryd canol bore, cinio a theisennau. Mae Pitchfork and Provision yn lle braf, golau, gyda iard. Mae’n gweini danteithion wedi’u pobi, bwydydd caffi arferol, a choffi rhagorol. Mae Diod, sydd â dau le yn y dref, a Flows on Market Street hefyd yn llefydd heb eu hail am hoe cyn ac ar ôl cerdded, tra bo The Duffnutts Co yn arbenigo mewn coffi a thoesenni. Am bryd fin nos, ewch i dafarn hynaf y dref, y Ceffyl Gwyn, neu i westy enwog y Cawdor. Dewis arall yw galw tacsi ar gyfer y daith ugain munud i fwyty Y Polyn, sy’n cael ei argymell gan Michelin.

[alt] arwydd ar biler.
[alt] meinciau a pharasol y tu allan i gaffi.

Pitchfork and Provision a Chaffi Flows, Llandeilo, Sir Gâr, Gorllewin Cymru

Ble i siopa

Yn wych o annibynnol, heb olwg o siop gadwyn yn unman, mae cyfres o siopau ac orielau braf yn rhoi egni arbennig i’r stryd fawr a’r heolydd y tu hwnt iddi. Mae gan Deli Pitchfork and Provision, sy’n orlawn o deisennau a danteithion, bopeth y byddech chi’i angen ar gyfer picnic penigamp (mae Parc Penlan yn nhop y dref yn lle gwych i daenu’ch blanced bicnic). Dros y ffordd, mae Heavenly (enw addas dros ben) yn lle sy’n gwerthu dim byd ond siocled.

arddangosfa gyda phicwarch, torch aur a bara mewn cewyll pren.
arddangosfa mewn ffenestr ac arwydd y tu allan i siop siocled.

Pitchfork and Provision a siop siocled Heavenly, Llandeilo, Sir Gâr, Gorllewin Cymru

Os ydych chi’n aros mewn lle hunanarlwyo, mae digonedd o lefydd i lenwi’r oergell. Dydd Gwener yw diwrnod marchnad yn Llandeilo, ac mae gan y stryd fawr siop gigydd a becws (Popty, yn hen adeilad swyddfa’r post). Mae Y Pantri Glas ac Umami yn arbenigo mewn bwydydd cyflawn ac yn gwerthu ffrwythau a llysiau sydd wedi’u tyfu’n lleol, ynghyd â bwydydd organig.

y tu allan i fecws

Popty, Llandeilo, Sir Gâr, Gorllewin Cymru

Yn The Little Welsh Dresser, mae hoffter y perchennog o ddodrefnu ac uwchgylchu wedi arwain at greu siop wych sy’n gwerthu nwyddau cartref ac anrhegion, a honno hefyd yn cynnig gweithdai paent sialc arbennig. I lawr Stryd y Brenin gyferbyn ag eglwys brydferth Teilo Sant, mae rhagor o drysorau i’w canfod. Mae Peppercorn yn llawn dop o nwyddau cegin, llyfrau coginio a chynhwysion gwych. Yn Toast (yn Llandeilo y sefydlwyd y brand cenedlaethol hwn), mae rhoi rhagor o demtasiwn gyda’i ddillad a’i nwyddau cartref rhagorol, tra bo gwaith Ann Goodfellow yn oriel gelf gyfoes Ivy House yn atyniadol dros ben.

arddangosfa mewn ffenestr siop gyda llyfr mawr, blanced, ffotograff a basged.
ffenestr siop gyda chrochenwaith.
ffenestr gyda’r gair ‘boutique’.

The Little Welsh Dresser, Peppercorn ac oriel gelf gyfoes Ivy House, Llandeilo, Sir Gâr, Gorllewin Cymru

 

Rywfaint tua’r cyrion, ond yn sicr yn werth ymweld â hi, y mae canolfan hen bethau The Works ar Heol yr Orsaf. Cofiwch chi, fe allech chi golli prynhawn cyfan yn crwydro drwy’r ddrysfa o hen bethau dros sawl llawr. Y drws nesaf, mae gan Davies & Co garthenni Cymreig traddodiadol mewn gofod cyfoes.

y tu mewn i siop hen bethau.

Canolfan hen bethau The Works, Llandeilo, Sir Gâr, Gorllewin Cymru

Straeon cysylltiedig