Golygfeydd godidog, bywyd gwyllt bendigedig ac arfordir llawn cilfachau sy’n gallu rhoi cymaint o loches – neu gyn lleied – ag y dymunwch rhag tonnau Môr Iwerydd.

Ffordd ardderchog o ganfod yr arfordir

Mae arfordira yng Nghymru yn beth go arbennig. Ein harfordir ni ysbrydolodd bobl i gychwyn y gamp yma. Mewn mannau eraill mae’r arfordir yn ymestyn yn raddol i’r môr, gallech feddwl fod arfordira’n wastraff amser, bron...does dim yn eich rhwystro rhag dianc allan o'r tonnau'n hawdd unrhyw bryd - ond yng Nghymru, rhaid mynd amdani. Rydych chi yn ei chanol hi, gyda'r clogwyni mawreddog y tu cefn i chi, a thonnau’r Iwerydd yn rhuthro tuag atoch. Fan hyn mae arfordira yn her go iawn.

Yn y pen draw, mae arfordira’n ffordd ardderchog o deithio ar hyd yr arfordir. Dyna yw hanfod y peth i mi. Mae rhai pobl yn gwirioni ar neidio oddi ar glogwyni, a dyna sut maen nhw’n hyrwyddo’r gamp, am wn i. Os ydych chi’n chwilio am gyffro wrth blymio o ben craig 7 metr o uchder, mae croeso i chi wneud hynny, wrth gwrs.

Criw yn arfordira rhwng clogwyni yn Sir Benfro.
Criw yn arfordira yn Sir Benfro.

Arfordira ger Tyddewi, Sir Benfro

Ond gogoniant arfordira yw’r daith ei hun, a’r cyfle i ddarganfod arfordir rhyfeddol Cymru."

Rydych chi reit ar lan y môr lle mae’r tonnau’n torri, a byddwch yn dringo ac yn sgrialu ac yn llamu tan na fedrwch fynd dim pellach, cyn nofio’n wyllt drwy’r dŵr garw.

Rydyn ni’r hyfforddwyr wrth ein bodd pan fo’r môr yn arw, ac ar ddiwrnodau felly efallai na fyddwn yn trefnu un naid fawr o gwbl. Yr hyn sy’n eich taro yw grym y môr; wrth i chi gael eich taflu o gwmpas gan y tonnau, yn defnyddio’r sgiliau yr ydych wedi’u dysgu i gadw’n ddiogel. Mae’n brofiad gwefreiddiol. Ar adegau fe gewch eich gwthio o dan y dŵr a’ch troi ar ben i waered cyn i chi ddod i’r wyneb. Fel arfer mae pobl yn gwenu fel gât wrth ddod allan o’r dŵr – mae’n brofiad gwirioneddol fythgofiadwy.

Ar ddiwrnodau eraill bydd y tywydd yn fwyn a gallwch nofio at ogofâu cul a gweld mor brydferth y maent y tu mewn – welwch chi byth mohonynt fel arall.

Mynd i’r afael â byd natur

Mae arfordira’n ffordd wych o ymgolli mewn byd natur a chael gweld harddwch anhygoel bywyd y môr; fe ddewch i werthfawrogi amrywiaeth ryfeddol ein harfordir. Cewch weld yr arfordir yn ei holl ogoniant, ac o safbwynt hollol wahanol i’r arfer. Wrth gerdded ar lwybr fyddech chi byth yn gweld yr holl ogofâu bychain a chywreinrwydd y creigiau. Fel hyfforddwr, dwi’n adnabod rhai rhannau o’r arfordir yn well na fi fy hun! Ond dyma beth mae pobl yn chwilio amdano mewn hyfforddwr, y math yma o brofiad.

Criw yn neidio i'r tonnau wrth arfordira yn Sir Benfro.

Arfordira ger Tyddewi, Sir Benfro

Gallaf ddeall pam y gallai swnio’n frawychus, ond y peth rhyfeddol am arfordir Cymru yw gallwch chi deilwra arfordira i bob lefel. Rydych chi mewn siwt nofio lawn, gyda chymorth hynofedd a helmed, felly rydych chi'n gynnes, yn gyfforddus ac yn gymharol ddiogel, ac mae mor syml y gall unrhyw un ei wneud. Does dim rhaid i chi fedru nofio hyd yn oed – rydyn ni wedi rhoi gwersi nofio i rai pobl wrth arfordira, credwch neu beidio. Ac mae hynny'n sicr yn fwy cyffrous na dysgu mewn pwll cyffredin!

Mae pobl fel arfer yn synnu at beth allan nhw ei gyflawni, a chyn lleied o sgil sydd ei angen. Felly os ydych chi’n petruso rhywfaint, dwi'n eich annog i roi cynnig arni – dwi'n siŵr y byddwch chi wrth eich bodd.

Unigolyn yn neidio i'r tonnau wrth arfordira yn Sir Benfro.

Arfordira ger Tyddewi, Sir Benfro

Byddwch yn ddiogel!

Gall arfordir Cymru fod yn llawer o hwyl ac mae’n darparu cyfleoedd gwych ar gyfer gweithgareddau anturus, ond darllenwch am y risgiau a gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi o flaen llaw.

Straeon cysylltiedig