Pen Pyrod

Mae’n debyg mai dyma’r olygfa fwyaf eiconig o Benrhyn Gŵyr gyda’i bentir creigiog yn nadreddu i Fae Rhosili; mae’r gair ‘Worm’ o'i enw Saesneg Worm's Head, sy’n golygu mwydyn, yn dod o’r enw Llychlynnaidd am neidr y môr. Mae’r daith gerdded i Ben Pyrod yn antur gwerth chweil ar ddiwrnod braf, ond cofiwch gadw golwg ar ragolygon y llanw sy’n cael eu nodi ar fwrdd ger y llwybr – does ond posib ei gyrraedd am gyfnod o ddwy awr bob ochr i’r llanw isel. Caiff hyd yn oed pobl leol eu dal gan y llanw: bu’r bardd Dylan Thomas yn sownd yno tan hanner nos unwaith pan oedd yn blentyn.

Y traethau gorau

Caiff traeth Rhosili ei gynnwys ar sawl rhestr o draethau gorau’r byd, a hynny am reswm da: mae’r tywod euraidd yn ymestyn am dair milltir (4.8 cilometr) lle ceir clogwyni tal a Phen Pyrod ar un pen i’r traeth, twyni ar y pen arall, a llongddrylliad yn y canol. Yn yr haf, gallwch wylio paragleidwyr yn hedfan uwchlaw Twyni Rhosili. Mae Bae’r Tri Chlogwyn llawn cystal am ei harddwch naturiol; mae’r afon yn Pennard Pill yn torri drwy ochr coediog y bryn cyn cyrraedd bae hardd. Wrth edrych tua’r bae, fe welwch hefyd olion Castell Pennard a thri clogwyn garw. Nid yw Bae’r Tri Chlogwyn yn lle delfrydol i nofio gan mor gryf yw’r cerrynt yno; mae hefyd yn bell i’w gyrraedd ar droed – ond mae hynny’n ei wneud yn lle tawel a hyd yn oed yn fwy arbennig.

Y traethau mwyaf cyfleus

Mae’r ddau draeth cyntaf y dewch ar eu traws ar y ffordd allan o’r Mwmbwls tuag at Benrhyn Gŵyr yn draethau addas ar gyfer plant ifanc. Mae i draethau Caswell aLangland gyfleusterau fel maes parcio, lle sy’n gwerthu hufen iâ, toiledau a siopau. Maent hefyd yn draethau Baner Las sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r daith uwchlaw’r traethau, rhwng y ddau draeth, hefyd yn daith gerdded dda er mwyn rhoi blas i chi o gerdded yr arfordir. Ymhellach ar hyd y penrhyn, mae gan draeth Porth Einon yr un cyfleusterau ond bod teimlad llai twristaidd i’r lle.

Y traethau cudd

Mae Bae Pobbles wedi ei guddio tu ôl i’r Tri Chlogwyn enwog a rhaid yw cerdded cryn bellter dros glogwyni a thwyni er mwyn cyrraedd yno, ac am y rheswm hwnnw mae’n aml yn cael ei anghofio. Yr un yw hanes Mewslade, sydd ger Pen Pyrod a Rhosili ac sydd felly’n cael ei anwybyddu. Y traeth tawelaf ohonynt i gyd, fodd bynnag, yw Bae Blue Pool, lle ni ellir ei gyrraedd ond drwy daith dros y twyni o Fae Broughton sydd mewn cornel yn y gogledd-orllewin. Mae’r Blue Pool yn bwll plymio naturiol poblogaidd gan rai sy’n mwynhau nofio yn y gwyllt.

Bod yn actif – yn y môr

Mae Penrhyn Gŵyr yn lle poblogaidd i syrffio ers degawdau. Pan mae’r tonnau ar eu gorau, Bae Langland yw hoff le pencampwraig syrffio’r Deyrnas Unedig, Gwen Spurlock, i syrffio, ond traeth Llangynydd yw’r lle i fynd er mwyn bod yn sicr o weld tonnau. Mae Gower Surfing yn cynnig cyrsiau drwy’r flwyddyn ym Mae Caswell, ac ym Mae Rhosili yn yr haf. Mae Stand Up Paddle Gower yn cynnig sesiynau padlfyrddio ar eich sefyll mewn llefydd ar hyd yr arfordir, tra bo amryw o gwmnïau yn cynnig sesiynau arfordira.

Young family day at the beach Rhossili Beach & Worm's Head Gower Peninsula
Syrffwyr Gŵyr

Bod yn actif – ar dir sych

Er bod Penrhyn Gŵyr yn enwog am ei draethau, mae digon i’w wneud heb wlychu eich traed hefyd. Gallwch farchogaeth ceffylau ar y traethau neu ar hyd y rhostir, dringo ac abseilio ar y clogwyni ger y môr neu ddysgu sgiliau goroesi’n y gwyllt yn y coedwigoedd. Gall beicwyr mynydd ddod o hyd i filltiroedd caregog ar hyd Twyni Rhosili a Chomin Cefn Bryn, tra bydd beicwyr ffordd wrth eu bodd gyda’r lonydd tawel ar ochr ogleddol y Penrhyn.

Mynd am dro

Ag ystyried maint yr ardal, mae amrywiaeth eang o olygfeydd i’w cael o Benrhyn Gŵyr. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn yr arfordir, lle gallwch weld y clogwyni danheddog a’r traethau bychain i’r de, a’r morfeydd heli yn y gogledd. Mae Ffordd Gŵyr yn torri drwy’r canol am 35 milltir (56km). Mae gan Gyngor Sir Abertawe a’rYmddiriedolaeth Genedlaethol eu rhestrau o’u hoff deithiau cerdded. Does gennym ni ddim ffefryn fel y cyfryw, dim ond fod tafarn yn aros amdanom ni ar ddiwedd y daith. A sôn am dafarndai...

Horses cantering along the shoreline
Llangennith, Gower Peninsula
Traeth Llangynydd

Ble i dorri syched

Mae nifer o’r llwybrau cerdded neu feicio ym Mhenrhyn Gŵyr yn tueddu i orffen yn nhafarn The King Arthur yn Reynoldston. Dyma dafarn glud â thanllwyth o dân agored ger Cefn Bryn, man uchaf Penrhyn Gŵyr. Mae’r Britannia Inn yn Llanmadog hefyd yn dafarn leol dda sydd wedi ennill gwobrau, ac mae’r ardd gwrw yn edrych dros Gilfach Tywyn. Mae unrhyw dafarn sy’n gweini peint o’r cwrw lleol Gower Gold hefyd gwerth ymweld â hi. Sefydlwyd bragdy Gower Brewery yn 2011 ac maent bellach wedi ymestyn i fod â thair tafarn ragorol ym Mhenrhyn Gŵyr – The King's Head yn Llangynydd, The Ship Inn y, Mhorth Einon, a The Rake & Riddle ym Mhen-clawdd.

Ble i fwyta

Enillodd y Beach House, sydd yn edrych dros draeth Bae Oxwich, wobr Bwyty’r Flwyddyn yng Nghymru gan yr AA ar ôl bod ar agor am flwyddyn. Mae’r cogydd, Hywel Griffith, yn arbenigo mewn cynhwysion tymhorol a lleol: caiff y pysgod eu mewnforio gan y cychod bychain sydd i’w gweld yn arnofio ar y môr tu draw i’r teras, daw’r llysiau o ffermydd lleol, a’r cig oen o’r morfeydd heli ychydig filltiroedd i ffwrdd. Mae Penrhyn Gŵyr hefyd yn gartref i gocos a bara lawr. Mae’r gwymon ar gyfer y bara lawr yn cael ei gasglu o’r glannau tra bo’r cocos yn dod o’r aber dywodlyd ym Mhen-clawdd ar yr arfordir gogleddol. Os gwelwch chi’r rhain ar fwydlen yn unrhyw le ym Mhenrhyn Gŵyr, ewch amdani.

Hanes a threftadaeth

Cafodd yr olion hynaf o gorff dynol ym Mhrydain eu darganfod ym Mhenrhyn Gŵyr, yn dyddio’n ôl dros 30,000 o flynyddoedd: Dynes Goch Paviland (er, dangosodd tystiolaeth ddiweddarach mai olion corff dyn oedd yma). Mae’r ucheldir yn frith o olion Neolithig, ac un o’r amlycaf yw’r siambr gladdu sydd â charreg 25 tunnell yn sefyll ar ei phen, a elwir yn Carreg Arthur. Ceisiodd y Normaniaid wthio’r Cymry o Benrhyn Gŵyr yn ystod yr 11eg a’r 12fed ganrif gan ddod ag ymfudwyr o Fflandrys yno, ac fe sylwch fod yna wahaniaeth rhwng yr enwau lleoedd, yr acenion a’r dafodiaith rhwng gogledd Cymreig a de Seisnig y penrhyn. Mae Canolfan Dreftadaeth Gŵyr yn lle da i ddysgu am y diwylliant gwledig, tra bo Gŵyl Gŵyr yn dod â pherfformwyr clasurol o’r radd flaenaf i ddeuddeg o eglwysi hynafol lleol bob mis Gorffennaf. Mae yma hefyd draddodiad gwerin cryf ym Mhenrhyn Gŵyr, ac mae i’w brofi ar ei orau yn ystod Gŵyl Werin Gŵyr sy’n cael ei chynnal yn flynyddol bob mis Mehefin.