Mae Cricieth, y porth i baradwys naturiol Pen Llŷn, yn dref glan-môr gyfeillgar dan gysgod castell hynafol. Os ydych chi’n deulu gyda llond car o blant, yn bâr sydd eisiau ymlacio, neu’n rhywun sy’n ysu am antur ar y dŵr, mae llawer iawn i’w wneud ar garreg y drws. Dyma rai syniadau i’ch rhoi ar ben y ffordd.

Ymestyn eich coesau

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n ymestyn o gwmpas holl arfordir Cymru ac mae’r darnau ger Cricieth yn hawdd i fynd atynt. Gallwch gysylltu â threfi cyfagos ar drenau a bysiau, felly mae modd cerdded i un cyfeiriad a chael trên neu fws yn ôl. Cerddwch yn hamddenol rownd y bae i Borthmadog i ddarganfod cildraethau cudd fel Bae Samson a chopa Moel y Gest gyda golygfeydd gwefreiddiol dros y môr.

Mae Porthmadog yn dref harbwr brysur ar aber afon Glaslyn. Gallwch fynd am dro mewn cylch yma gan gynnwys gwarchodfa natur leol Parc y Borth a threflan gyfagos Tremadog. I’r cyfeiriad arall tuag at Bwllheli, mae gan lwybr yr arfordir lwybrau pren drwy wlyptiroedd a thwyni tywod gwyllt. Cadwch olwg wrth i chi gerdded, mae’r glannau hyn yn gartref i ddolffiniaid, llamhidyddion a phob math o adar.

Darllen mwy: Darganfod Pen Llŷn.

Dwy fenyw’n cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ger Cricieth

Cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Gricieth i gyfeiriad Pwllheli

Teithio drwy amser

Fel y rhan fwyaf o Gymru, mae’r ardal hon yn gyforiog o hanes. Mae’n amhosib osgoi Castell Cricieth, ar bentir creigiog uwchlaw’r môr. Mae’r golygfeydd o’r fan hon yn ysblennydd. I lawr y ffordd i gyfeiriad Pwllheli, gallwch gamu’n ôl i’r 15fed ganrif yn y tŷ neuadd canoloesol unigryw, Penarth Fawr. Mae’n fach, ond wedi’i gadw’n ardderchog gyda chyfres eithriadol o ddistiau pren mwsoglyd yn cynnal to’r neuadd.

Gallech gyfuno ymweliad â’r fan hon ag ymweliad â safle sanctaidd Ffynnon Cybi. Dywedir bod y dyfroedd yn gallu gwella pobl, ac mae ymdeimlad gwirioneddol hudolus yma, dan gysgod coed hynafol. A gallwch deithio’n ôl i rai o olion hynaf presenoldeb dyn yng Nghymru, drwy ddringo i ben Tre’r Ceiri, bryngaer enfawr o’r Oes Haearn. Dyma gyfres eang o dai crwn a waliau, ar gopa un o fynyddoedd yr Eifl, a golygfeydd gwirioneddol ryfeddol.

Chwilio am fannau i aros ger Cricieth.

Tu allan i dŷ neuadd canoloesol Penarth Fawr.
Y neuadd â’i distiau pren yn nhŷ canoloesol Penarth Fawr.

Camwch yn ôl mewn amser yn nhŷ canoloesol Penarth Fawr, ger Pwllheli

Ymestyn eich meddwl

Mae llond llaw o amgueddfeydd diddorol ble gallwch ddysgu mwy am hanes cyfoethog yr ardal. Ceir Amgueddfa Goffa Lloyd George yn Llanystumdwy gerllaw, sy’n adrodd hanes bywyd un o brif weinidogion enwocaf y DU. Yma oedd ei gartref yn blentyn, ond treuliodd ei ddyddiau olaf yn y pentref prydferth hwn hefyd, yng nghrandrwydd Tŷ Newydd, sydd bellach yn ganolfan i ysgrifenwyr. Gallwch ddysgu am hanes adeiladu llongau cyfoethog yn Amgueddfa Forwrol Porthmadog hefyd. O lan y cei fan hyn byddai llongau hwylio crand yn arfer cychwyn am wledydd pell.

Dim ond siwrne fer yn y car i arfordir gogleddol Pen Llŷn sydd angen i ddod i ‘bentref coll’ rhamantus Nant Gwrtheyrn. Trowyd y casgliad simsan o hen fythynnod mwyngloddwyr ger glan y dŵr yn ganolfan treftadaeth wirioneddol ddiddorol. Mae hefyd yn ganolfan dysgu Cymraeg, felly gallwch helpu dysgwyr gydag ambell ymadrodd. Mae’n agos iawn at fryngaer Tre’r Ceiri, sy’n waith cerdded diwrnod i fyny ac yn ôl o’r fan hon.

Llun o'r awyr yn edrych i lawr ar y pentref, gyda choed ar un ochr a'r môr ar yr ochr arall

Golygfeydd godidog uwchlaw Nant Gwrtheyrn, Gogledd Cymru

Ymlacio

Os oes angen ychydig mwy o antur arnoch chi, mae digonedd i’ch diddanu ger Cricieth. Mae Pwllheli’n gartref i farina prysur. Ger y llongau hwylio slic mae Plas Heli, yr Academi Hwylio Genedlaethol newydd. Gall plant dros 14 oed a rhieni roi cynnig ar hwylio neu rwyf-fyrddio. Herc, cam a naid o’r fan hon mae Canolfan Weithgaredd Parc Glasfryn ble mae rhywbeth i bawb! Tonfyrddio a chaiacio, bowlio, saethyddiaeth, gocartio a saethu colomennod clai.

Mae digon o gyfleoedd golff i bob gallu gerllaw hefyd. Mae gan Gwrs Aml-Golff Criccieth pitch ’n’ putt, Golff Frizbee a Golff Pêl-droed i’w mwynhau. Ychydig ymhellach, mae cyrsiau golff Pwllheli, Abersoch a Nefyn a’r Cylch ar yr arfordir. Mae cwrs pencampwriaeth Nefyn yn cynnig golygfeydd syfrdanol.

Gallwch wneud pob math o anturiaethau ar y môr o gwmpas Pen Llŷn hefyd. Yn Abersoch ac Aberdaron gallwch roi cynnig ar hwylio, caiacio a hwylfyrddio. Neu beth am ddal cwch ym Mhorth Meudwy a mynd ar antur i weld bywyd gwyllt Ynys Enlli, sy’n enwog am forloi, llamhidyddion a myrdd o adar gwyllt?

Darllen mwy: Huw Brassington yn sôn am anturiaethau awyr agored Pen Llŷn.

 Blaen Caiac melyn yn wynebu person mewn caiac arall gyda'r haul yn machlud yn y cefndir
Llun o'r traeth gyda'r môr a chychod bach yn y pellter
cychod hwylio.

Caiacio môr a hwylio ar hyd arfordir Pen Llŷn, Gogledd Cymru

Trip i’r traeth

Mae gan y rhan hon o Gymru draethau gwirioneddol hyfryd. Mae traeth Cricieth yn ymestyn i’r ddau gyfeiriad. Er bod y ddau ychydig yn garegog, mae cysgod yma, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer plant. Ceir pyllau creigiog ac ambell ddarn tywodlyd hefyd. Fel arall, ewch am dro ar hyd y promenâd, â hufen ia yn eich llaw. 

Eisiau milltiroedd o dywod sidanaidd? Dim ond siwrne fer yn y car i’r naill gyfeiriad neu’r llall sydd angen. I gyfeiriad Porthmadog mae Traeth y Graig Ddu, Morfa Bychan. Mae’n enfawr – perffaith ar gyfer cestyll tywod a byrddio’r tonnau i rai iau. Gallwch fwynhau tywod euraid godidog i gyfeiriad Pwllheli yn Abererch a Llanbedrog. Mae cysgod i’w gael yn y ddau draeth, felly delfrydol i blant, a pherffaith ar gyfer hwylfyrddio a barcudsyrffio.

traeth tywodlyd eang gydag arfordir a bryniau yn y pellter.
Cytiau glan-môr lliwgar.

Mae traeth deniadol Llanbedrog yn cynnig erwau o dywod a chytiau glan môr amryliw

Llefydd gwych i fwyta 

Fel y disgwyl mewn tref ar lan y môr, mae digonedd o gaffis, bwytai, tafarndai a siopau hufen iâ o safon i’w ddarganfod. 

Yn gyntaf oll – hufen iâ. Mae Cadwaladers ger y castell yn ffefryn amlwg, ond disgwylwch giwiau dros gyfnodau gwyliau. Castle Fish and Chips (ar agor yn dymhorol) neu Allports Fish and Chips (opsiynau di-glwten) yw’r mannau delfrydol i fynd am swper pysgod.

Mae Tir A Môr, sy’n gyfeillgar i gŵn, yn gweini bwyd cartref blasus gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Dim ond tafliad carreg o'r traeth, mae’n fan hyfryd ar gyfer brecwastau, ciniawau neu de prynhawn.

Ymhlith y llefydd gorau ar gyfer prydau gyda’r hwyr mae Bwyty Tonnau (yn cynnwys cynnyrch tymhorol lleol gyda dewisiadau di-glwten a fegan), Bar 51 (siop goffi a bar tapas), a Bwyty Poachers (dewislen amrywiol gyda chynnyrch lleol).

Mae’r bwyty eiconig Dylan’s ar y prom, gyda’i gromliniau Art Deco, yn sicr o’ch denu i mewn. Taflwch olwg dros y dewislenni gwobrwyedig – mae yna amrywiaeth flasus o bysgod a chregyn bylchog ffres, pasta cartref, cig oen a chig eidion ar gael.

Llefydd i aros 

P’un a ydych yn chwilio am leoliad cyfeillgar i deuluoedd, dihangfa ramantus neu lonyddwch arfordirol, mae gan Griccieth ddigon o leoedd croesawgar i aros – i gyd o fewn cyrraedd hawdd i’r promenâd, y caffis a’r castell.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r Bron Eifion Country Hotel moethus (4*, Gwobr Aur), Gwesty’r Caerwylan ar y lan (4*, Gwobr Aur), Bron Aber B&B (4*, ger y traeth), ac ychydig ymhellach allan, y bwthyn rhamantus Y Boncyn (5*, 2 o bobl, croesawgar i anifeiliaid anwes gyda thwb poeth).

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig