Mae llenyddiaeth yn chwarae rhan fawr yng ngorffennol a phresennol ein cenedl. Mae’r llyfr Cymraeg hynaf sydd wedi goroesi, Llyfr Du Caerfyrddin tua 1250, yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Ond sut alla i fynd ati i greu fy nghampwaith fy hun allai ymddangos ar silffoedd y Llyfrgell Genedlaethol un dydd? Penderfynais ofyn am gymorth oddi wrth yr arbenigwyr yn Nhŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru.

Darn celf ar ffurf mainc y tu allan i adeilad gwyn
Darn o gelf ar ffurff mainc fetel grwn mewn gardd gyda choed yn y cefndir
Darn o gelf ar ffurf cadair fawr bren mewn gardd

Tair Mainc i Gofio Tri Llenor: Kate Roberts, Iwan Llwyd ac RS Thomas.

Dod o hyd i ysbrydoliaeth

Mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II, wedi ei leoli mewn ardal brydferth rhwng Cricieth a Llanystumdwy ar Benrhyn Llŷn. Roedd y tŷ unwaith yn gartref i’r unig gyn-Brif Weinidog Prydain o Gymru, David Lloyd George, ac mae yn nghanol cefn gwald heddychlon; yn ddelfrydol ar gyfer canolbwyntio’r meddwl ar y dasg greadigol sydd o’ch blaen.

Mynychais i gwrs Ysgrifennu Nofel, ac fe gyrhaeddais i Dŷ Newydd yn teimlo cymysgedd o gyffro a nerfusrwydd.

Roeddwn i’n un o 16 cyw awdur ar y cwrs, oedd yn cael ei arwain gan ddau awdur gwych: Alys Conran a Louis de Bernières. Dechreuais i deimlo panic tawel wrth sylweddoli fod rhai pobl wedi dod ag enghreifftiau o’u gwaith, ac roedd rhai hyd yn oed wedi dod â llawysgrifau cyflawn. Wrth gwrs, do’n i ddim wedi dod â dim gyda fi; ro’n i’n gobeithio am ysbrydoliaeth i gychwyn prosiect.

Mae Tŷ Newydd yn cynnig rhaglen flynyddol o gyrsiau ysgrifennu amrywiol yn Gymraeg ac yn Saesneg, sy’n cynnwys cyrsiau sy’n para diwrnod, wythnos neu benwythnos. Mae’r cyrsiau’n cwmpasu barddoniaeth, ysgrifennu caneuon, ysgrifennu a yoga, ysgrifennu llyfrau i blant, adrodd storïau, ac maen nhw hyd yn oed yn cynnal encilion (ar gyfer yr adegau yna pan rydych chi angen llonydd i wneud eich gwaith).

Llun agos o gerrig crynion a sgwâr ar y llawr, gyda dail hydrefol
Llun o ran bach o glwyd haearn gyda thyfiant ac aeron
Llun o bot blodau mawr glas gyda blodau pinc, gyda thŷ mawr gwyn yn y cefndir

Mae yna awyrgylch ymlaciol hyfryd yn Nhŷ Newydd.

Diflannodd fy mhanic tawel wrth i mi sylweddoli fod strwythur y cwrs yn un hamddenol ac anffurfiol – fel yr awyrgylch gyffredinol yn Nhŷ Newydd." 

Cawson ni ein rhannu yn ddau grŵp llai, ac roedd ein boreau yn cynnwys sesiynau ar wahân gydag Alys a Louis. Diflannodd fy mhanic tawel wrth i mi sylweddoli fod strwythur y cwrs yn un hamddenol ac anffurfiol – fel yr awyrgylch gyffredinol yn Nhŷ Newydd. Yn y sesiynau boreol roeddem ni’n cael tips ac awgrymiadau ysgrifennu yn ogystal â digonedd o anogaeth, ac ymarferion byr er mwyn canolbwyntio ar wahanol agweddau o arddull a sgiliau ysgrifennu. Ar ôl cinio blasus, roedd y prynhawniau wedi eu neilltuo ar gyfer cyfarfodydd unigol gyda’r tiwtoriaid i drafod ein gwaith, yn ogystal â chael amser i ysgrifennu, darllen, neu i archwilio’r ardal leol. Ac fe gawsom ni noson ddifyr iawn yng nghwmni yr awdur Rebecca F. John, ddaeth i ddarllen i ni, ac ateb ein cwestiynau niferus!

Treuliais y rhan fwyaf o’r prynhawniau yn ceisio ysgrifennu rhywbeth i’w ddangos i Alys a Louis cyn fy sesiynau gyda nhw. Mae yna ddigonedd o lefydd yn y tŷ ei hun ble gallwch eistedd i lawr yn dawel ac ysgrifennu. Mae yna ddwy lyfrgell gampus, ystafell fwyta gyda bwrdd mawr pren sy’n berffaith ar gyfer ysgrifennu, a hefyd ar gyfer gwledda gyda’r nos, heulfan, ac mae yna lefydd i eistedd allan yn yr ardd hefyd, heb sôn am ddesg yn eich ystafell wely.

Llun o ffenest grom a sedd ffenest, gyda soffa a chadeiriau esmwyth yn y tu blaen
Llun o ystafell haul gyda bwrdd hir pren a chadeiriau, a silffoedd llyfrau

Llyfrgell a heulfan Tŷ Newydd.

Archwilio'r ardal leol

Ar brynhawn olaf y cwrs, rhoddais orau i’r ysgrifennu a mentro allan am dro. Mae yna gymaint o lefydd gwych i ymweld â nhw o gwmpas Tŷ Newydd. Ym mhentref cyfagos Llanystumdwy mae Amgueddfa Lloyd George, sydd yng nghartref ei blentyndod. Mae’r tŷ yn dal wedi ei ddodrefnu fel ag yr oedd pan roedd Lloyd George yn byw yna, a gallwch weld rhai o’r gwrthrychau unigryw dderbyniodd tra’n Brif Weinidog, gan gynnwys medalau, a chopi o Gytundeb Versailles.

Os ewch chi allan trwy’r glwyd ar waelod gardd doreithiog Tŷ Newydd, gallwch ddilyn llwybr mwdlyd i lawr tuag at y traeth, ond ar ôl ystyried am sbel, penderfynais i fynd am dro ar hyd lonydd cul, deiliog tuag at dref Cricieth. Heb amheuaeth, prif atyniad Cricieth yw’r castell trawiadol ar ben y graig, sy’n sefyll rhwng dau draeth. Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r castell ym 1230 gan Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr), ac mae yna olygfeydd gwych i lawr dros y dref.

Llun o gastell ar ben bryn gyda'r môr yn y tu blaen

Castell Cricieth.

Bwydo eich creadigrwydd

Dwi’n teimlo fod angen i mi sôn yn arbennig am Tony’r cogydd a’i fwyd arbennig – cawsom ni ein bwydo yn hynod o dda trwy gydol y cwrs. Darparodd Tony brydau blasus (yn cynnwys pwdin) bob amser cinio a swper, gydag opsiynau llysieuol a figan ar gael, gan gynnwys y ‘cig selsig’ figan mwyaf anhygoel. Fe baratôdd hefyd gacennau neu fisgedi bob prynhawn i gynnal ein egni creadigol.

Fy wythnos yn Nhŷ Newydd yw un o’r wythnosau gorau dwi wedi cael am amser hir. Llwyddais i roi geiriau ar bapur, a hefyd treulio wythnos adferol a hamddenol yng nghwmni pobl hyfryd mewn amgylchedd rhagorol. Byddaf yn parhau i ysgrifennu, ac fe fyddaf i’n bendant yn dod yn ôl - dyma'r ganmoliaeth orau allaf i ei roi. Naill ai i sbwylio’ch hunan neu fel anrheg i rywun arbennig, mae cwrs ysgrifennu yn Nhŷ Newydd yn brofiad bythgofiadwy.

Am wybodaeth bellach:

Gwefan Tŷ Newydd

Facebook Tŷ Newydd 

Twitter Tŷ Newydd 

Instagram Tŷ Newydd

Llun o'r tu allan i dŷ mawr gwyn mewn gardd fawr

Porfeydd gwelltog gardd gefn Tŷ Newydd.

Straeon cysylltiedig