Yn ogystal â chestyll enwog ac amgueddfeydd nodedig, mae digon o brofiadau newydd i'w darganfod yng nghudd yn y mynyddoedd. Mae ychen gwyllt uchelwrol a halen gourmet ymysg ein pigion o berlau cudd yr ardal hynafol hon.
Castell y Fflint
Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell y Fflint yn 1277, felly hwn oedd cadarnle cyntaf Edward I wrth iddo oresgyn Cymru. Cafodd le pwysig yn hanes Prydain pan ildiodd Richard II yma gerbron Henry Bolingbroke (a fyddai’n Harri IV yn fuan) yn 1399. Yn ôl y chwedl, rhedodd milgi Richard i gyfarch y darpar frenin: i’r goron yr oedd y ci’n ffyddlon, nid i’r un a’i gwisgai. Dinistriwyd y castell yn rhannol gan fyddin Cromwell yn y 1640au, ond mae yma ddigon i’w fwynhau o hyd, ac mae’n lle delfrydol i gael picnic ar lan Aber Dyfrdwy.

Blas ar fywyd byddigion
Bu’r prif weinidog William Gladstone yn byw yng Nghastell Penarlâg yn ystod y 19eg ganrif, ac yma y bu farw. Erbyn hyn, mae’r tenant presennol, gor-or-ŵyr Gladstone, Charlie, bellach yn rhedeg siop fferm yr ystâd, ac, ar y cyd â’r gantores Cerys Matthews, yn cynnal gŵyl The Good Life Experience yma. Drosodd ar Ystâd Rhug ger Corwen, bydd Arglwydd Niwbwrch yn ffermio eidion ac oen organig sy’n cael ei allforio i fwytai gorau’r byd. Mae ei fyrgyr ychen gwyllt cartref yn siwr o dynnu dŵr o'r dannedd.
Porth Eirias
Mae’r cogydd Bryn Williams yn bennaf adnabyddus – y tu allan i Gymru, o leiaf – am goginio swper i’r Frenhines ar ei phen blwydd yn 80, ac fel cogydd-berchennog y bwyty poblogaidd a champus Odette's yn Llundain. Yn 2015 fe agorodd Borth Eirias, bistro ar lan y môr ym Mae Colwyn. Mae’n lle agored, hamddenol, ble gwelir tîm Bryn o gogyddion yn troi cynhwysion syml, tymhorol, lleol yn fwyd bistro o’r ansawdd gorau.

Llanfairpwllgwyngyll
Dyfais i ddenu ymwelwyr oedd enwi pentref Llanfair PG ag enw hiraf unrhyw le ym Mhrydain. Mae’r ddyfais yn dal i weithio, o weld cynifer o ymwelwyr sy’n dod yma i gael tynnu llun gydag arwydd y rheilffordd. Cymerwch anadl ddofn, a gyda’n gilydd… Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch!
Halen Môn
Bu i bâr o fyfyrwyr Prifysgol Bangor gwympo mewn cariad â Môn (ac â’i gilydd), gan ffermio wystrys yn Afon Menai a sefydlu Sw Môr. Fe sylwon nhw fod eu ceffylau môr – sy’n enwog am fod yn arbennig o ffyslyd ynghylch purdeb dŵr – yn ffynnu yma, a dechreuodd y ddau ystyried tybed a fyddai’r un dyfroedd glân yn gallu creu halen o fri. Gwyddoch weddill y stori… Bellach, Halen Môn yw un o brif halenau’r byd, ac adroddir stori’r cwmni y tu ôl i’r llenni mewn modd rhagorol yn eu canolfan ymwelwyr.


Orielau rhagorol
Mae lleoliadau glan môr wedi denu cymunedau o artistiaid erioed, ac yn eu sgil daeth orielau. Ceir sawl oriel o gwmpas arfordir gogledd Cymru, ond dyma dair o’r goreuon: MOSTYN yn Llandudno yw un o’n canolfannau celf weledol cyhoeddus gorau. Sefydlwyd Academi Frenhinol Cambrian yng Nghonwy yn 1882 fel canolfan ragoriaeth artistig. Gan Oriel Ynys Môn y mae’r casgliad mwyaf o waith Syr Kyffin Williams, sydd i'w gweld ochr yn ochr ag arddangosfeydd cyfoes ac amgueddfa hanes a diwylliant Môn.
Bodysgallen
Mor ysblennydd yw’r maenordy hwn o’r 17eg ganrif, sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’i erddi ffurfiol wedi’u cynnal a’u cadw mor ofalus, bron nad yw hi’n amhosib credu y gallwch chi aros yma. Ond gwesty moethus yw’r lle, gyda sba a phwll nofio’n cuddio’n ofalus yn nhir y plas, ynghyd â bwyty rhagorol tu hwnt i’r neuadd farwnol.
Prydau arbennig
Does gan y bwyty seren Michelin, y Sosban a’r Hen Gigydd ym Mhorthaethwy, ddim bwydlen: maen nhw’n gweini cyfres o seigiau sy’n defnyddio’r cynnyrch lleol gorau sydd ar gael y diwrnod hwnnw. Yn Llandrillo, mae Tyddyn Llan yn gweini bwydlen dymhorol leol mewn lleoliad wirioneddol hardd.

