Dihangfa drefol

Mae’n rhwydd iawn cyrraedd y de o rannau eraill o Brydain. Beth am ddechrau’ch taith drwy fwynhau croeso cynnes y brifddinas, Caerdydd? Mae popeth o fewn pellter cerdded yng nghanol y ddinas ei hun, gyda digonedd o bethau i’w gweld a’u gwneud. Oherwydd hyn, mae’n lle perffaith am wyliau bach i bobl sy’n hoff o siopa, pobl sydd am wylio chwaraeon, pobl sy’n gwirioni ar fwyd, a phobl sydd â’u bryd ar fwynhau talp o ddiwylliant.

Fymryn y tu allan i ganol y ddinas, mae’r glannau byrlymus ym Mae Caerdydd yn llawn treftadaeth. Neidiwch ar gwch a mwynhau taith fach braf ar y dŵr, ewch i weld sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, neu mwynhewch damaid i’w fwyta neu lymaid i’w yfed yn un o’r caffis, bwytai a bariau niferus.

Mae Casnewydd yn ddinas arall sy’n rhwydd ei chyrraedd, ac yn lle gwych i fynd am dro am y diwrnod. Mae llond gwlad o bethau i’w gweld a’u gwneud yno. Ewch i edmygu ysblander Tŷ Tredegar, i wylio bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Gwlyptiroedd yr RSPB, neu i seiclo yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Mae’r ddinas yn enwog am ei bwyd, gyda’r hen farchnad dan do draddodiadol wedi’i hailwampio’n ddiweddar. Erbyn hyn, mae yno fasnachwyr annibynnol, neuadd fwyd fywiog, a digwyddiadau byw rheolaidd.

Bae Caerdydd, shopping arcades in Caerdydd and Tredegar House, Casnewydd.

Trefi marchnad a phyllau glo

Y tu hwnt i’r dinasoedd, mae rhai o ardaloedd gwledig braf y rhanbarth. Yn aros i’w darganfod mae cestyll Dyffryn Gwy a Dyffryn Wysg, gan gynnwys y rheini yn Rhaglan a Chas-gwent, yn ogystal â phentref tlws Tyndyrn – lle da i fynd â chŵn, a lle sy’n enwog am ei abaty. Mae yno hefyd sawl llwybr cerdded braf drwy’r coed.

Ewch i ddysgu am dreftadaeth ddiwydiannol cymoedd y de, gan grwydro tref Caerffili a’i chastell hynod, neu Bontypridd, cartref Lido Cenedlaethol Cymru. Ym Merthyr Tudful, fe ddewch chi ar draws cyfuniad cyfoethog o dreftadaeth a byd natur, ac mae’r croeso yma wastad yn gynnes. Gall y rheini sy’n hoff o antur fentro i Lofa’r Tŵr, lle mae’r gorffennol diwydiannol balch yn mynd law yn llaw â gwifrau gwib (gan gynnwys y wifren serthaf yn Ewrop), ynghyd â chyfleoedd i ddringo a gwibio ar gerbydau. Ac fe all pawb o bob gallu fwynhau beicio mynydd yn BikePark Wales.

Abaty Tyndyrn, Castell Caerffili, a Zip World Tower, Aberdâr.

Glannau’r de

Mae gan y de bob math o draethau sy’n llefydd braf i ymlacio a gwneud gweithgareddau arnyn nhw. Mae Ynys y Barri ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn gyrchfan glan môr draddodiadol, ac yn enwog am y cysylltiad â chyfres deledu’r BBC, Gavin and Stacey. Dyma le delfrydol i deuluoedd, gyda digonedd o dywod braf, arcedau, a phromenâd prysur. Mae cadeiriau olwyn sy’n addas i’r traeth ar gael hefyd, ac felly mae’n lle hygyrch i bawb.
Gerllaw, ar y daith gerdded rhwng Bae Dwnrhefn a Thrwyn yr As ar Lwybr Arfordir Treftadaeth Morgannwg, fe gewch chi olygfeydd godidog o’r clogwyni hynod a’r cildraethau tawel. Cyfuniad o lannau tywodlyd a garw gewch chi ym Mhorthcawl, gyda Rest Bay yn boblogaidd ymhlith syrffwyr. Neu ewch am dro difyr ar y promenâd yno. Ar gyrion Caerdydd, mae gan Benarth bier Fictoraidd traddodiadol, caffis clyd, a llwybrau arfordirol hyfryd.

Ynys y Barri, De Cymru

Atyniadau gorau’r de

Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, sydd wedi ennill gwobrau lu am ei hatyniadau awyr agored, yw un o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd Cymru. A honno’n llawn adeiladau hanesyddol ac arddangosfeydd sy’n dod â’r gorffennol yn fyw, dyma le sy’n siŵr o ddifyrru pobl o bob oed. Gerllaw, mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn gyfle rhyfeddol i weld sut mae darnau arian yn cael eu creu, ac fe gewch chi hyd yn oed greu eich darn eich hun i fynd gartref gyda chi. Bydd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon yn eich hebrwng yn ôl mewn amser drwy stori hynod treftadaeth ddiwydiannol Cymru. Neu ewch i ddysgu am gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghaerllion, lle mae adfeilion amffitheatr hynafol yn dal i’w gweld.

Mwynhewch harddwch naturiol yr ardal drwy fynd am dro drwy rai o erddi amrywiol y fro. Mae’r golygfeydd yn gampus ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, y llwybrau ar lan yr afon yn wych yn Nyffryn Gwy, a’r llwybrau cerdded a’r teithiau cwch yn hyfryd ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Amgueddfa Genedlaethol Hanes St Fagans yng Nghaerdydd, Caerllion, a Chamlas Mynwy a Brycheiniog.

Digwyddiadau a theithiau

Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y de ym mhob tymor. Bob blwyddyn, bydd Bae Caerdydd yn fwrlwm o flasau yn ystod Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd. Bydd alawon lond y ddinas adeg Gŵyl SŴN, tra bydd Gŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris yn gyfle i ddathlu amrywiaeth. Bydd yr awyrgylch yn drydanol yn Stadiwm y Principality pan fydd gemau rygbi rhyngwladol yn cael eu cynnal yno, tra bo Tafwyl yn dod â cherddoriaeth a diwylliant Cymraeg i ganol Parc Bute – ac mae croeso cynnes i bawb.

Y tu hwnt i’r brifddinas, ymhlith y digwyddiadau mawr mae Gŵyl Fwyd y Fenni yn Sir Fynwy, sir sy’n enwog ers tro am ei bwyd, gŵyl llawn naws Between the Trees, a gŵyl fywiog Steelhouse.

Mae sawl opsiwn i fynd ar deithiau i weld golygfeydd yr ardal. Mae rhai o’r teithiau yng Nghaerdydd yn cynnwys teithiau o amgylch lleoliadau Doctor Who, crwydro y tu ôl i’r llen yn stiwdios y BBC, neu daith i flasu bwydydd.

1 / 6
A woman playing guitar and singing on stage with a drummer in the background.

Sŵn Music Festival, Caerdydd

2 / 6
rugby fans near Principality Stadium.

Rugby in Caerdydd

3 / 6
Three friends with arms around each other singing along as part of a festival crowd.

Tafwyl, Caerdydd

4 / 6
Crowds of people on a street enjoying a food stall filled food festival.

Abergavenny Food Festival, Y Fenni

5 / 6
group of people at festival.

Between The Trees Festival, Merthyr Mawr

6 / 6
a crowd of people facing a festival stage.

Steelhouse Festival, Glynebwy (Ebbw Vale)

Blasau’r de

Mae gan y de bedwar o fwytai sydd â seren Michelin – llefydd gwych i wledda mewn steil. Dewiswch o blith y Walnut Tree yn y Fenni, Gorse yng Nghaerdydd, Home ym Mhenarth, a’r Whitebrook yn Nyffryn Gwy.

Mae marchnadoedd lleol yr ardal yn llawn dop o gynnyrch, crefftau a bwydydd ffres. Rhowch gynnig ar deisennau cri (neu bice ar y maen) ym Marchnad Caerdydd yn ystod yr wythnos, ewch i brynu ychydig o gaws a ffrwythau lleol ym Marchnad Ffermwyr y Bont-faen ar fore Sadwrn, neu crwydrwch y stondinau bach ym Marchnad Glan-yr-afon, Caerdydd, bob dydd Sul.

Ym myd y diodydd, codwch wydryn bach o win Cymreig wrth fynd ar daith o amgylch gwinllan yn y de, ewch i fwynhau llymaid o gwrw crefft yn un o fragdai’r fro, neu beth am weld sut maen nhw’n creu wisgi a jin ar daith drwy Ddistyllfa Penderyn yn Aberdâr?

Grŵp o bobl yn mynd ar daith o amgylch ddistyllfa, yn sefyll drws nesaf i ddwy gerwyn aur.
Plates of food and glasses on wine on table.
chef preparing food.

Canolfan ymwelwyr Distyllfa Penderyn, Aberdâr, The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd, a Gorse, Caerdydd, De Cymru.

Llety gwych

Mae pob math o lefydd ardderchog i aros ynddyn nhw yn y de. O westai unigryw a moethusrwydd yng nghefn gwlad i lefydd ffasiynol yn y ddinas, mae digonedd o ddewis ar gael am bob math o brisiau.

  • Yng Nghaerdydd, mae’r llety’n cynnwys llefydd moethus fel Voco® Dewi Sant Caerdydd yn y Bae a Gwesty’r Parkgate, sydd mewn lle cyfleus dros ben yng nghanol y ddinas, ger Stadiwm y Principality.
  • Draw yng Nghasnewydd, mae gwesty enwog y Celtic Manor yn gyrchfan ynddi’i hun, ac mae yno sba, cyrsiau golff a bwytai penigamp.
  • I’r rheini sy’n breuddwydio am ddihangfa yng nghefn gwlad, mae bythynnod bach clyd fel Foxes Reach yn Nhyndyrn, sy’n croesawu anifeiliaid anwes, yn llefydd braf iawn. Yn fan hyn, fe gewch chi dwba twym a man gwefru cerbydau trydan hefyd.
  • Gall y rheini sy’n gwirioni ar yr awyr agored fwynhau gwersylla neu glampio, tra bo digonedd o ddewis i deuluoedd sydd â phlant o bob oed.
  • Mae sawl lle hefyd sy’n rhoi pwys ar fod yn hygyrch, ac mae’r dewis o lety cynhwysol yn eang iawn.

Ydych chi’n barod i ddod i adnabod y de? Dechreuwch gynllunio’ch antur fythgofiadwy heddiw. Defnyddiwch ein system chwilio i ddod o hyd i lety, gweithgareddau neu atyniadau a fydd at eich dant chi.

Two women in an indoor spa pool overlooking a city.

Voco® St David's, Gwesty Parkgate, Caerdydd

Straeon cysylltiedig