About Lido Cenedlaethol Cymru | Lido Ponty
Canolfan Ymwelwyr Lido Ponty yw prif atyniad pwll awyr agored Cymru a pharc chwarae antur. Mae wedi’i adfer i’w hen ogoniant a’i ddiweddaru ar gyfer ymwelwyr yr 21ain Ganrif. Mae'r Lido rhestredig Gradd II yma'n rhoi hanes y Lido gwreiddiol i chi. Fan hyn y bu Jenny James, sef y fenyw gyntaf i nofio'r Sianel, yn hyfforddi, a bu Sir Tom Jones yn bolheulo yma pan oedd e'n fachgen ifanc.
Mae iddo dri phwll nofio cynnes sy'n cynnig cyfleoedd gwych i deuluoedd, nofwyr selog a nofwyr cymdeithasol o bob oed a gallu. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys cawodydd allanol a mewnol, cyfleusterau newid wedi'u gwresogi a Chanolfan fodern i ymwelwyr, sy'n adrodd hanes rhyfeddol Lido Cenedlaethol Cymru.
Mae'r nodweddion sydd wedi'u hadfer yn cynnwys y gatiau troi a'r ciwbiclau pren o'r 1920au sy'n gweddu'n dda i Gaffi Glan-y-dŵr (Waterside Café). Mae gan y Ganolfan Ymwelwyr fyrddau gwybodaeth yn adrodd hanes y Lido, gemau a phosau rhyngweithiol, sgriniau fideo mawr, a llawer yn rhagor.
WAFFLE HOUSE - CAFFI LIDO
Mae Waffle House yn cynnig wafflau ffres, blasus o safon uchel gyda'r cynhwysion mwyaf rhyfeddol. Gan ddechrau gyda wafflau brecwast gyda chig moch blasus ac wyau buarth, hyd at amser cinio gyda wafflau sawrus neu ddanteithion melys. Ochr yn ochr â wafflau anhygoel maen nhw'n cynnig danteithion wedi'u pobi, prydau i blant ac amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer.
PARC CHWARAE ANTUR
Mae'r parc chwarae antur, Chwarae'r Lido, yn tanio dychymyg ein hymwelwyr iau wrth iddyn nhw chwarae ar y siglenni a'r llithrennau ac archwilio'r twneli. Mae'r parc â thema leol ac yn dathlu ein gorffennol diwydiannol.