Mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli manteision enfawr gwyliau cynaliadwy. 

Ac nid dim ond achub y blaned yw'r pwyslais fan hyn – er mor bwysig yw hynny! Mae hefyd am sut y gall newid ein hagwedd fel teithwyr – a chamu’n ysgafnach ar y byd o’n cwmpas – ein harwain at gyswllt mwy ystyrlon â’r bobl fyddwn ni’n cyfarfod gan gynnig cyfleoedd i ddysgu o'n profiadau hefyd.

Mae’n wlad i mi ac mae’n wlad i tithau

Mae'r cariad at ein gwlad yn ddwfn y tu mewn i ni. Ystyriwch ein hanthem genedlaethol. Ar sawl gwedd cân serch i’n mynyddoedd hynafol, ein cymoedd dyfnion, ein hafonydd a’n môr ydyw. Mae llawer o’n barddoniaeth, ein traddodiadau – yn wir ein hunaniaeth – wedi’u hymdrochi yn y ddaear dan ein traed.

Menyw’n rhedeg ar gopa bryn gyda philer triongli yn y blaendir.

Rhedeg ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ystyr hyn yn ymarferol yw ein bod ar dân dros warchod ein hamgylchedd naturiol. Ym Miosffêr Dyfi, mae pobl wedi ymroi i fyw a gweithio mewn cytgord â’r ecosystemau unigryw o hardd sy’n eu hamgylchynu. Mae mannau fel Môn, Bangor, Aberystwyth a Chrughywel wedi mynd yn ddiblastig, ac mae sawl tref yn gweithio i geisio gwneud yr un peth. Mae dros 60 cymuned ledled y wlad yn rhan o Ail-lenwi Cymru sy’n ceisio dileu poteli plastig un-defnydd drwy ail-lenwi â dŵr ffres rhad ac am ddim. 

Mae nifer annisgwyl o fentrau twristiaeth bach a mawr sy’n canolbwyntio ar gadwraeth hefyd. Felly, os ydych chi eisiau ymweld â lle i ailgysylltu â byd natur yn ei holl ogoniant, mae Cymru’n ddewis rhagorol.

Bod yn rhan o’r gymuned

Rhan o hyfrydwch teithio gyda meddylfryd mwy cynaliadwy yw cwrdd â phobl newydd a dysgu am eu diwylliant unigryw. Mae ein hagosrwydd at y tir yn gyfystyr â bod yn agos at ein gilydd. Yn nyfnder gwyllt a hardd y cymoedd a’r bryniau, gall bywyd fod yn ansicr weithiau. Felly mae pobl yn edrych ar ôl ar ei gilydd, ac yn cyfarch wynebau newydd yn dwymgalon.

Siopau annibynnol, ffermydd teuluol, amgueddfeydd a gynhelir gan wirfoddolwyr, prosiectau coedwig, grwpiau theatr lleol, eco-lety – ar wyliau yng Nghymru gallwch gael golwg newydd ar fywyd wrth rannu profiadau gyda phobl. Mae’n cynhesu’r galon, a byddwch yn aml yn helpu i gefnogi cymunedau lleol wrth i chi fwynhau eich gwyliau.

Perchennog siop lyfrau yn ei siop yng nghanol llyfrau, yn edrych yn syth i lens y camera.
Menyw’n dal bocs o dorthau ffres o’r ffwrn gan edrych i lygad y camera.
Cogydd yn Asador 44 gyda phlatiaid o fwyd

Cwrdd â’n cynhyrchwyr, gwerthwyr a pherchnogion bwytai annibynnol

Dianc rhag popeth

Ddegawd neu fwy yn ôl ystyriwyd cael dim, neu’r nesaf peth i ddim signal ffôn symudol fel peth drwg. Erbyn heddiw, gyda signal ar gael ym mhob man, bron, bydd llawer eisiau diffodd eu ffôn pan fyddan nhw ar wyliau.

Mae ein dinasoedd yn ganolfannau cysylltiedig, llawn cyffro, ond mae digonedd o lecynnau yng Nghymru i gael ‘detox’ digidol. Ynni solar, dim cyswllt â’r grid, byw gyda natur – cewch eich synnu gymaint y bydd eich ysbryd yn codi heb ofynion parhaus eich teclynnau.

Darllen Mwy: Lleoedd amgen i aros yng Nghymru

Tair menyw sy’n gerddwyr yn eistedd ar y ddaear gan edrych dros gymoedd a bryniau.

Cael saib ymysg copaon a dyffrynnoedd Mynyddoedd Cambria

Rydyn ni o ddifrif am ddatblygu cynaliadwy

Mae’n hawdd dweud hynny, ond dyna'r gwir! Mae strategaeth ar waith a chyllid i’w chefnogi. Enw’r cynllun yw Croeso i Gymru, Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020 i 2025. Yn greiddiol iddo mae datblygu cynaliadwy. Egwyddor arweiniol yw nad yw twristiaeth yng Nghymru’n ymwneud â thwf economaidd yn unig, ond hefyd gynaliadwyedd amgylcheddol, ymgyfoethogi cymdeithasol a diwylliannol a manteision iechyd i bobl sy’n byw a gweithio yma ac i bobl sy’n dod i ymweld.

Ar lefel ranbarthol mae gan sefydliadau fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog strategaethau twristiaeth gynaliadwy a gefnogir gan hyfforddiant, cyngor a grantiau i fusnesau twristiaeth lleol. Ac mae llawer o grwpiau lleol yn gweithio er mwyn gwneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy fel Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro.

Darllen mwy: Tuag at ddyfodol diwastraff

Paneli solar ar do caffi’r Pembrokeshire Beachfood Company.
Tyrbinau gwynt ar fryn gydag awyr stormus yn y cefndir.

Mae cynaliadwyedd yn egwyddor ganolog ar gyfer datblygu twristiaeth yng Nghymru

Mae llawer o’r hyn a gynigir gennym yn cael effaith fechan

Gyda sector twristiaeth sy’n canolbwyntio ar ein hawyr agored epig, bydd llawer o’r pethau fyddwch chi’n eu gwneud ar wyliau yma’n cael effaith fechan. Mae rhannau helaeth o Gymru’n ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ac wedi’u gwarchod yn ofalus rhag cael eu datblygu.

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru’n llenwi rhyw 20% o’r wlad. Mae llwybrau beicio’n mynd igam ogam ar draws Cymru gan gynnig popeth o reidio hamddenol i lethrau serth sy’n codi curiad calon. Os oes gennych amser, gallwch gerdded rownd holl arfordir ein gwlad yn ddi-dor ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae llawer o’n bwyd a’n diod wedi’i gynhyrchu’n lleol hefyd, a llawer yn organig erbyn hyn.

Person yn dal torth fawr o fara
Pâr o ddwylo’n dal perlysiau gwyrdd, a gasglwyd wrth fforio yn Sir Benfro.
Llun agos o ddwylo pysgotwr yn dal cranc mawr.

Bydd llawer o’r bwyd y bwytewch chi’n organig ac yn deillio o’r ardal leol

Gallai hyd yn oed newid eich bywyd!

Mae teithio’n agor y meddwl, ac mae cael amser i roi cynnig ar bethau newydd a dysgu sgiliau newydd yn un o fanteision bod ar wyliau. Nid sôn am ddysgu syrffio neu roi cynnig ar linell zip yn unig rydyn ni (er cymaint o hwyl yw’r pethau hynny!) ond yma yng Nghymru mae sawl encil yoga a gwyliau eco sy’n cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn cyrsiau crefftio, dysgu am bethau adnewyddadwy a rheoli tir, fforio, gweithgareddau crefftau’r goedwig a phrofiadau coginio, gwersi drymio, peintio ac arlunio.

Efallai eich bod chi'n ystyried gwneud rhai newidiadau mwy radical i'ch ffordd o fyw? Gallai teithio Cymru fod yr ysbrydoliaeth rydych chi'n edrych amdano!

Dwy fenyw’n sefyll ochr yn ochr â’u breichiau o gwmpas ei gilydd a’u cefnau at y camera.

Cyfle i ddysgu pethau newydd a chael ysbrydoliaeth ar wyliau yng Nghymru

Straeon cysylltiedig