Cabannau eco, podiau pren a chromenni geo

Cabannau eco Fferm Treberfedd, Ceredigion.

Cewch groeso cynnes Cymreig yng nghabannau eco wythonglog Fferm Treberfedd, Saffir ac Aerona. Caiff pob caban chwaethus ei bweru gan ynni gwyrdd ac maent wedi’u hadeiladu o bren lleol ac mae gan bob un stôf llosgi coed a gwres o dan y llawr, sy’n fendith ar ôl taith egnïol o gwmpas rhodfa organig, a llwybr esgidiau glaw'r fferm. Mae’r fferm hefyd yn croesawu cŵn, felly gallwch ddod â nhw gyda chi.

Llety cytiau gwair mewn cae
Arwydd Fferm Treberfedd

Cabannau eco Fferm Treberfedd

Gwersyll Coedwig Cwmcarn, Cwmcarn

Os nad yw rhannu sach gysgu â phryfyn neu ddau erioed wedi apelio atoch chi, mae gan Wersyll Coedwig Cwmcarn bodiau pren i’ch gwarchod rhag pryfed a nosweithiau oer. Mae gan bob pod wresogydd, socedi trydan a feranda sydd wedi eu gorchuddio’n rhannol, fel y gallwch ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd, a pheidio gorfod poeni am bacio’r polion yn y bore.

Plasyngheidio, Nefyn

Yn ogystal â chael parc ar gyfer carafanau teithio, mae gan fferm weithio Plasyngheidio, yng nghanol harddwch Pen Llŷn, ddau bod sy’n cysgu pedwar o bobl yr un. Mae ganddyn nhw gyfleusterau coginio, socedi trydan a wi-fi, felly gallwch fwynhau moethusrwydd fel pe byddech gartre wrth brofi’r golygfeydd anhygoel o’ch cwmpas.

Podiau Gwersylla Tai Twt, Llambed

Mae podiau moethus Tai Twt yn ganolbwynt perffaith ar gyfer cerdded a beicio yn yr ardal, gan fod ganddyn nhw gysylltiad trydan, ac mae’r tybiau twym yn nefoedd i fynd iddyn nhw ar ôl diwrnod allan yn archwilio. Maen nhw mewn lleoliad trawiadol -  mewn dyffryn coediog yn edrych dros lyn. Mae ardal sychu ar gyfer esgidiau a chotiau gwlyb, ystafell i olchi dillad a lle diogel i gadw beiciau.

Cosy Under Canvas, Powys

Ydych chi eisiau mynd oddi ar y grid a bod yng nghanol cefn gwlad? Yn Cosy Under Canvas yn Llannewydd - ddim yn rhy bell o'r Gelli Gandryll - mae saith cromen geo. Maen nhw’n cynnwys toiledau compost, cawodydd gaiff eu cynhesu gan goed, goleuadau solar a chyfle i ddod at eich gilydd o gwmpas tân coed. Mae gan bob cromen wely cyfforddus, carthenni cynnes a matiau clud, a chyfleusterau coginio hwylus … heb sôn am y twb twym!

Cytiau Bugeiliaid

Wild Meadow Shepherd's Hut, Powys

Mae Wild Meadow Shepherd's Hut yn berffaith ar gyfer dihangfa ramantus. Mae ar ochr mynydd Llanandras, felly gallwch fwynhau golygfeydd godidog dros y dyffryn pan fyddwch yn agor y drws i groesawu’r wawr. Mae gan y cwt stôf llosgi coed, cyfleusterau i goginio yn yr awyr agored a gwely dwbl. Gallwch gasglu cynhwysion o’r berllan gerllaw a pharatoi swper i’w fwyta ar ddiwedd dydd.

Tŷ Cerrig Woodland Retreats, Tresimwn, Bro Morgannwg

Os ydych eisiau rhywle i’r teulu ddianc yn yr awyr agored, yng nghanol wyth erw o goedwig, bydd dau o’r dewisiadau sydd ar gael ar safle gwledig Ty Cerrig Woodland Retreats yn berffaith. Mae Gwdihŵ yn gwt bugail gyda lle i bedwar person, tra bod Bwncath yn gaban i bump. Mae carthenni, matresi, offer coginio, seddau cyfforddus, cawodydd poeth a thoiledau wedi eu cynnwys yn y ddau, ond nid oes wi-fi yma. Mae’r goleuadau yn rhai solar ac er nad oes socedi, mae dau bwynt USB.

hide at St Donats, Sain Dunwyd, Bro Morgannwg

Yng nghanol cefn gwlad Bro Morgannwg, mae hide at St Donats yn grŵp o dri chaban clud llawn offer, cwt bugail a phorthordy wedi eu cuddio yng nghanol blodau gwyllt a choed. Mae’r guddfan, sydd yng nghanol Coedwig Tresilian, yn rhannu bron i wyth cae o dir gyda gardd goed, felly mae’r safle yn wirioneddol yng nghanol byd natur. Mae’r safle ei hun ger Sain Dunwyd, sy’n bentref bychan gyda golygfeydd anhygoel o arfordir Cymru. Mae yma hefyd fynediad hwylus i lwybrau cerdded gwych.

Caban pren yn y coed
Gwresogydd llosgi pren mewn caban
Llun o wely a lamp mewn caban

Cabanau hide at St Donats, Sain Dunwyd

Y tipi a'r iwrt

Trellyn Woodland Camping, Hwlffordd

Mae pum math o lety arbennig ar safle anghysbell Trellyn Woodland Camping yn Sir Benfro. Mae dau ohonynt yn gromenni geo saith metr o led, sy’n golygu bod digon o le i ymlacio. Mae hefyd tri iwrt a gwelyau go iawn ym mhob un, cegin wersylla benodol ac ardal cynnau tân wedi ei gorchuddio. Ceir hefyd oergelloedd a rhewgelloedd, cawodydd pwerus, pwyntiau gwefru, siwtiau dŵr, byrddau syrffio, sawna, wi-fi a mwy!

Anglesey Tipi & Yurt Holidays, Ynys Môn

Os ydych eisiau cuddfan ecogyfeillgar, yna mae Anglesey Tipi & Yurt Holidays ym Mrynteg yn berffaith. Mae yna un tipi a phedwar iwrt mewn aceri o dir cefn gwlad. Dim ond milltir sydd hyd nes cyrraedd arfordir dwyreiniol Ynys Môn, ac yn safle ardderchog fel canolfan ar gyfer archwilio'r ynys. Mae gan bob safle ei ofod tawel ei hun ac mae gofod cymunedol hefyd, ble gall gwersyllwyr ddod ynghyd o gwmpas y tân neu ymlacio mewn hamoc.

Fforest, Aberteifi

Dy'n ni methu ysgrifennu am wersylla heb sôn am Fforest - mae’n gonglfaen eco-wersylla yng Nghymru. Mae’n hafan i’r rheini sy’n edrych am foethusrwydd ac ymlacio, ac mae yng nghanol 200 erw o goedwig a dolydd tu allan i dref Aberteifi. Mae ail safle, o’r enw Manorfan, wedi ei leoli mewn dyffryn coediog tua 15 munud o gerdded o draeth Penbryn, sy’n cael ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yna amrywiaeth o ddewisiadau o ran llety ar y ddau safle, ond pa bynnag ddewis y byddwch yn ei wneud, byddwch yn siŵr o deimlo eich bod wedi dianc o’r byd a’i ofalon.

Llun o dipi mewn cae wrth i'r haul fachlud
Llun o arwydd yn Fferm Fforest

Fferm Fforest, Aberteifi

Straeon cysylltiedig