Yn wir, mae’r chwilfrydedd a’r brwdfrydedd tuag at arddio yn heintus. Yn aml rydym yn ofni mentro tyfu pethau newydd, neu arddio yn gyffredinol, rhag ofn i ni ddifrodi planhigyn neu wneud llanast o bethau mewn rhyw ffordd neu ei gilydd, ond does wir ddim angen poeni!

Un siwrnai gyffrous yw garddio, arbrawf mawr mewn ffordd, ac mae pob garddwr gwerth ei halen yn dysgu pethau newydd yn yr ardd bob dydd. Fel garddwr, rydw i wedi profi sawl trychineb a siom, ond wedi cael sawl llwyddiant a llawenydd hefyd.

Mae’r gwanwyn yn amser perffaith i droi at yr ardd a chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, boed am fentro tyfu llysiau neu ffrwythau am y tro cyntaf, am ddod ag ychydig o liw i gornel fach o’r ardd neu yn awyddus i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored.

Bwyd ffres

Os ydych am fentro tyfu eich bwyd eich hunain am y tro cyntaf, mae cymaint o blanhigion y gallwch eu tyfu yma yng Nghymru: planhigion sy’n hawdd eu cadw ac yn fawr eu gwobr, yn enwedig yng nghanol yr haf pan fydd llond y lle o fwyd ffres o’r ardd i’w fwynhau.

Mae dail salad yn tyfu’n dda iawn mewn pob math o bridd ac yn gallu cael eu plannu yn syth i ran fach o’r ardd, mewn potiau wrth y patio neu hyd yn oed rhwng y blodau yn y borderi. 

Mae ychydig o bethau i’w cofio wrth dyfu salad. Yn gyntaf dŵr, a digon ohono...rhywbeth nad yw’n ormod o broblem yng Nghymru! Ond os daw tywydd sych a chynnes (croesi bysedd dwylo a bysedd traed) gwnewch yn siŵr eich bod yn dyfrio digon ar y salad. Mae digonedd o ddŵr yn sicrhau bod y planhigion yn rhoi cnydau cyson trwy gydol yr haf, ac ymhell i mewn i’r hydref hefyd.

Pa fath o salad sy’n tyfu yn rhwydd?

  • Sbigoglys - mae’r dail bach yn berffaith mewn salad a phan fydd y planhigion yn aeddfedu, mae’r dail yn arbennig o dda mewn stir-frys a smwddis. I’w cynaeafu, tynnwch ddail unigol o’r planhigyn a gadael y planhigion i dyfu yn eu holau.
  • Letys ‘torri a dod yn ôl’ - y peth gorau am y math hwn o letys ydy, fel mae’r enw’n awgrymu, wrth i chi dorri’r dail, bydd dail newydd yn tyfu yn ôl ac yn rhoi cnydau cyson i chi drwy gydol yr haf. I’w cynaeafu torrwch y dail gyda siswrn ac yna gadewch iddyn nhw dyfu yn ôl. Bydd gennych ddail newydd, ffres ymhen 10 diwrnod.
  • Roced – hyfryd mewn saladau neu frechdan. Eto cynaeafwch ychydig o ddail yn gyson, bydd hyn yn annog mwy o dyfiant.

Mae dail salad yn hapus mewn mannau cysgodol a heulog yn yr ardd. Mae mis Mawrth yn fis delfrydol i’w hau, ond gwnewch hynny ar silff ffenest gynnes i gychwyn, a’u cadw o dan do tan o leiaf fis Ebrill er mwyn osgoi’r tywydd oeraf.

Plannu hadau mewn pridd
Gardd gyda plangugion yn tyfu

Adam yn plannu yn ei ardd 

Hau’r hadau

Bydd angen potiau, compost a hadau arnoch. Os nad oes potiau gennych, peidiwch â phoeni, gallwch ailgylchu hen focs grawnwin o’r gegin – mae hynny yn gwneud y tro yn iawn.

  1. Rhowch ychydig o gompost gwlyb yn y potyn
  2. Gwasgarwch yr hadau yn hafal ar draws y pridd
  3. Rhowch haenen denau o gompost am eu pennau

Ymhen 7 diwrnod bydd egin bach yn dechrau dangos eu dail a mewn rhyw dair i bedair wythnos, byddan nhw’n barod i’w cynaeafu fel dail bach.

Gair o gyngor – heuwch botiau ychwanegol ar ôl tua wythnos, bydd hyn yn sicrhau bod gennych gyflenwad ychwanegol o ddail ffres.

Gardd liwgar

Wedi gorffen plannu eich cnydau, beth am ddod ag ychydig o liw i’r ardd?

Mae plannu blodau yn llesol i fyd natur, yn enwedig peillwyr fel y gwenyn a’r pili palod, ond mae sawl darn o ymchwil yn dangos bod gan flodau rôl bwysig wrth ofalu am ein lles ni hefyd. Mae dod ag ychydig o liw i gornel fach o’r ardd yn gallu gwneud cymaint i godi calon.

Pa fath o flodau allwn ni dyfu ein hunain gartref?

Rwyf wrth fy modd yn tyfu pob math o flodau, ond pe bawn i’n gorfod byddwn yn dewis y rhai sydd fwyaf llesol i natur, yn lliwgar ac yn hawdd gofalu amdanynt:

  • Melyn Mair Ffrengig – planhigion bach oren a melyn sy’n tyfu’n dda mewn potiau, basgedi crog, borderi ac o amgylch y llysiau. Maen nhw’n denu peillwyr fel cacwn a pili palod ac yn helpu i ddiogelu dail salad rhag cael eu bwyta gan falwod.
  • Blodau Haul – mae rhain yn hen ffefryn, yn enwedig fel blodau i dyfu gartref gyda’r plant. Mae cymaint o sbort i’w gael yn gweld pa un fydd yn tyfu dalaf, ond hefyd maent yn denu adar bach i’r ardd yn ystod y gaeaf i fwyta eu hadau.
  • Miri Mari neu Nasturtium - blodyn coch, melyn, ac oren sy’n ddefnyddiol dros ben yn yr ardd ac mae modd eu bwyta mewn salad.

Dilynwch yr un camau o ran eu hau a’r camau ar gyfer tyfu dail salad. Pan fyddant wedi tyfu o leiaf 3cm uwch ben y compost neu bridd, symudwch nhw mewn i botiau mwy ac yna erbyn dechrau mis Mai byddant yn barod i’w plannu yn eu cartref newydd yn yr ardd neu mewn potiau wrth y patio.

Mae cymaint allwn ni ei wneud yn yr ardd drwy gydol y flwyddyn ac mae’r gwanwyn yn adeg perffaith i fanteisio ar y boreau ffres a mwynhau’r awyr iach. Wrth i’r dyddiau ymestyn cam bob dydd a naid bob wythnos, treuliwch ychydig o amser yn gwrando ar gân yr adar wrth i chi blannu’ch hadau a chynllunio’r ardd. Mae’r gân dawel ddechrau mis Mawrth yn troi’n gôr hyderus erbyn mis Ebrill a chewch chi ddim cân well yn y byd.

Os hoffech fwy o gyngor yn yr ardd neu chael cip olwg o fy hynt yn garddio eleni mae pob croeso i chi fy nilyn ar Instagram

Twilipau porffor mewn gardd
Melyn Mair Ffrengig
Dail salad a blodau

Blodau hardd yn ardd Adam

Garddio ar ei orau: ysbrydoliaeth gan yr arbenigwyr

Mae tirwedd naturiol Cymru yn arbennig, ond mae llawer o arddwyr ar hyd a lled y wlad hefyd wedi bod yn brysur yn gwneud ein cefn gwlad yn hyd yn oed harddach, trwy greu gerddi anhygoel.

Caiff llawer o’r rhai enwocaf eu rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ond peidiwch â cholli’r 10 uchafbwynt garddwriaethol hyn o bob cwr o Gymru hefyd. Mae rhain yn cynnwys:

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r ardd sy’n denu’r mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, a chanddi dros 8,000 o wahanol amrywiadau o blanhigion ar wasgar ar draws 560 erw (227ha) o gefn gwlad prydferth.

Darllen mwy: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru drwy'r tymhorau

Gerddi Clun, Abertawe

Gerddi Siapaneaidd, llynnoedd, dolydd blodau gwyllt, coedwigoedd clychau'r gog, tyrau, capeli a gwylfa sydd ymhlith y nodweddion trawiadol yn y baradwys hon o’r 19eg ganrif. Mae gan Erddi Clun gasgliad sy'n genedlaethol bwysig o rododendron, pieris ac enkianthus, sy’n danbaid yn eu blodau tua dechrau’r haf.

Gardd Fotaneg Treborth

Lluniwyd Treborth yn ardd bleser dros 160 o flynyddoedd yn ôl, ond ataliwyd dyluniad gwreiddiol Syr Joseph Paxton gan broblemau cyllid, a dim ond yn ystod y 1960au y daeth y safle i’r amlwg eto pan gafodd ei brynu gan Brifysgol Bangor. Wedi’i llunio gan arbenigwyr academaidd, mae Gardd Fotaneg Treborth bellach yn sefydliad ymchwil ar gyfer caboli sgiliau garddwriaethol, ac yn lle cwbl ddymunol i ymweld ag ef. 

Gerddi Dewstow, Sir Fynwy

Stori hynod o golli a chanfod yw Gerddi Dewstow. Claddwyd y gerddi Edwardaidd gwreiddiol yn y 1940au cyn eu dychwelyd i dir fferm, a dim ond yn 2000 y cawsant eu hailddarganfod. Datgelodd y cloddiadau byllau, cornentydd, creigerddi, a labyrinth cyfan o dwnelau, grotos a chasgliadau o redyn suddedig o dan y ddaear - a’r cyfan wedi’i adfer yn ddyfal i’w ogoniant blaenorol.

Straeon cysylltiedig