Gwymon a golygfeydd yn Halen Môn
Ewch i ymdrochi yn y baddonau gwymon gwyllt unigryw yn Halen Môn. Fan hyn, maen nhw’n mwydo gwymon mewn dŵr cynnes, cyn rhoi’r hylif mwynol mewn hen gasgenni wisgi. Cewch chithau wedyn ymlacio yn y casgenni mewn ffordd dra gwahanol i’r sba traddodiadol. Mae’r dŵr pur, sy’n un o sgil-gynhyrchion proses gynaeafu Halen Môn, yn cryfhau’r effeithiau dadwenwyno, tra bo’r golygfeydd ysblennydd dros afon Menai yn gefnlen heb ei hail.
Sawnas hynod ar y traeth
Mae traethau Cymru wedi dod yn fwy atyniadol drwy’r flwyddyn gron ers i sawnas ddechrau ymddangos ar draethau ledled y wlad. Yn eu plith nhw mae Tŷ Sauna ar draeth hyfryd Bae Oxwich, Sawna Bach ym Mhorth Tyn Tywyn, Ynys Môn, Wildwater Sauna yn Nolton Haven, Logi Saunas yn Sir Benfro, a Willow Springs yn Nyffryn Afan. A’r peth gwych yw bod modd camu i’r sawnas hyn i gynhesu’n gyflym ar ôl ymdrochi yn y môr oer.
Syllu’n syfrdan ar y sêr
Cymru yw un o’r llefydd gorau yn y byd yn grwn i syllu ar y sêr. Mae gennyn ni dri safle Awyr Dwyll Rhyngwladol, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri ac Ystad Cwm Elan. Ynys Enlli oedd y safle cyntaf yn Ewrop i gael ei ardystio ac i ennill statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol. O ran canran, mae gan Gymru fwy o dir Awyr Dywyll na’r un wlad arall drwy’r byd. Dyma felly un o’r llefydd gorau ar y ddaear i fwynhau golygfeydd clir, heb lygredd, o filoedd o sêr, comedau a galaethau. Dewch i ddarganfod y profiadau gorau sy’n rhoi cyfle i syllu ar y sêr yng Nghymru.
Hedfan y tonnau
Profiad FoilRide cwmni RibRide oedd ysgol e-ffoil gyntaf y Deyrnas Unedig, a honno’n rhoi cyfle i bobl ddysgu crefft unigryw e-ffoilio. Fe gewch chi hofran uwch dyfroedd Afon Menai ar fwrdd syrffio trydan, a hwnnw’n cael ei yrru gan adain hydroffoil. Mae’r antur hon, sydd bron yn gwbl dawel ac yn llesol i’r amgylchedd, yn gyfle i hedfan dros y dŵr, ac mae’n ffordd hynod o gyffrous ac unigryw o fwynhau prydferthwch y gogledd.
Tŷ bach twt yng Nghonwy
Hawdd iawn fyddai peidio â sylwi ar dŷ lleiaf Prydain Fawr, Tŷ'r Cei, sy’n sefyll ar lannau’r dŵr yn nhref brydferth Conwy. Dim ond 72 modfedd yw lled y tŷ bychan hwn, sydd wedi’i baentio’n goch. Roedd yn gartref go iawn i bobl ar un adeg, ond mae bellach yn atyniad i dwristiaid sy’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd.
Ysbrydoliaeth Eidalaidd
Wrth grwydro strydoedd cobls ac adeiladau lliwgar Portmeirion, byddai rhywun yn maddau i chi am feddwl eich bod chi ar Rifiera’r Eidal yn hytrach nag mewn pentref yng ngogledd Cymru. Yn rhyfeddod pensaernïol Syr Clough Williams-Ellis, fe ddewch chi ar draws gwestai a bythynnod trawiadol, ynghyd a bwytai a siopau o fri, a’r cyfan mewn gerddi isdrofannol bendigedig. Does unman tebyg yn y byd – a does dim syndod chwaith bod y lleoliad gwefreiddiol hwn wedi ymddangos ar gynyrchiadau ffilm a theledu rif y gwlith.
Rhyfeddodau Llwybr Arfordir Cymru
Mae llwybr arfordir Cymru, sy’n ymestyn am 870 milltir, yn unigryw ynddo’i hun. Mae hynny heb sôn am y trysorau niferus sy’n britho’r daith, fel Capel Sant Gofan, capel bychan o’r oesoedd canol sy’n nythu yn y clogwyni ar arfordir Penfro. Mae modd cyrraedd y capel drwy risiau cerrig serth, ac mae’n rhoi golygfeydd ysblennydd o’r môr a’r dirwedd gyfagos.
Gavin, Stacey a’r Barri
Yng Nghymru – ac yn fwy penodol, yn y Barri – fe gaiff cefnogwyr y gyfres deledu boblogaidd 'Gavin and Stacey' fodd i fyw. A hynny drwy fynd ar daith swyddogol Gavin and Stacey o amgylch y dref glan môr lle ffilmiwyd y rhan fwyaf o’r sioe. Neidiwch ar fws gwreiddiol Dave’s Coaches i weld rhai o leoliadau eiconig y gyfres, fel tŷ Gwen, yr arcêd, yr eglwys, a’r garafán lle’r oedd Nessa a Dave yn byw.
Llyfrgell heb ei thebyg
Ar arfordir y gogledd-ddwyrain ym Mhenarlâg fe ddewch chi ar draws Llyfrgell Gladstone – llyfrgell hynod drawiadol a’r unig un yn y Deyrnas Unedig sydd hefyd yn cynnig llety. Y gwladweinydd a’r cyn-Brif Weinidog, William Gladstone, a greodd y llyfrgell hon, lle mae’i gasgliad personol o dros 250,000 o lyfrau, ynghyd â llawysgrifau, llythyrau ac arteffactau’n ymwneud â’i fywyd a’i waith.
Gwely yn y gwaelodion
Ydych chi’n dyheu am noson o gwsg heb ei thebyg? Gallai’ch breuddwydion ddod yn wir yn Deep Sleep, y llety dyfnaf yn y byd yn grwn! A’r rheini yn rhan ryfeddol o anturiaethau dan y ddaear Go Below, mae’r cabanau clyd a’r ogof fach ramantus wedi’u lleoli 1,375 o droedfeddi o dan fynyddoedd Eryri, yng nghrombil hen chwarel lechi Fictoriaidd. Dyma brofiad cwbl wahanol ac unigryw.
Magu stêm i’r copa ar Reilffordd yr Wyddfa
Dim ond yng Nghymru y gallwch chi fwynhau’r golygfeydd ysblennydd o gopa ein mynydd uchaf, yr Wyddfa, a hynny heb orfod ymlafnio’n gorfforol i gyrraedd yno. Mae modd cyrraedd copa’r Wyddfa o bentref Llanberis ar drên. Neidiwch ar un o drenau Rheilffordd yr Wyddfa i gael siwrnai heb ei thebyg.
Enw da (a hir iawn)
Nepell o ysblander Pont Menai a glannau afon Menai ar Ynys Môn y mae pentref bach sydd ag enw mawr. Dyma gartref yr enw lle hiraf yn Ewrop, a’r ail hiraf yn y byd i gyd sy’n defnyddio un gair yn unig. Yn wir, mae Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn rheswm arall dros roi Cymru ar y map rhyngwladol! Mae’n rhaid cael hunlun wrth yr arwydd uwchben y siop yng nghanol y pentref neu yn yr orsaf drenau. Cofiwch sefyll yn ddigon pell er mwyn ffitio pob un o’r 58 llythyren yn y ffrâm. A chofiwch hefyd fynd i’r siop i gael stamp yn eich pasbort!
Llareggub go iawn Dylan Thomas?
Roedd Dylan Thomas, un o feirdd enwocaf Cymru, yn ŵr go anghyffredin. Ac mae ymweliad â’i gyn-gartref, y Tŷ Cwch, a’i sied ysgrifennu yn Lacharn ar lannau aber afon Taf yn brofiad gwefreiddiol. Tref fach brydferth yn Sir Gâr yw Lacharn, ac yn ôl y sôn, dyma leoliad rhai o weithiau enwocaf y bardd, fel Under Milk Wood a Poem in October. Mae’r teipysgrifau gwreiddiol a mân drugareddau i’w gweld yn ei hen gartref a’i sied ysgrifennu. I gael y profiad cyflawn, ewch am dro ar hyd Llwybr Dylan, sy’n pasio Castell Lacharn, y Tŷ Cwch, ei sied ysgrifennu, a’i fedd yn Eglwys Sant Martin.
Yr ardd sy’n wydr i gyd
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw cartref tŷ gwydr un rhychwant mwyaf y byd, ac mae yno gasgliad o dros 8,000 o rywogaethau planhigion o chwe chyfandir gwahanol, gan gynnwys planhigion prin a phlanhigion sydd mewn perygl o ddiflannu. Mae’r ardd fotaneg yn lle addysgol a chadwraethol, a chewch ddarganfod am amrywiaeth a phrydferthwch planhigion a’u pwysigrwydd i les pobl.
Hen draddodiad y Fari Lwyd
Os ymwelwch chi â rhai rhannau o Gymru dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, efallai y dewch chi ar draws y Fari Lwyd, sef penglog ceffyl gyda llygaid poteli gwydr. Bydd hwnnw wedi’i addurno a rhubanau, clychau a chlogyn gwyn hir. Dyma draddodiad Cymreig sy’n dyddio yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wrth i griwiau dywys y Fari o amgylch pentrefi rhwng diwrnod Nadolig a Nos Ystwyll. Pan fydd criw yn cyrraedd tŷ, byddan nhw’n canu caneuon Cymraeg i gael mynd i mewn, neu’n cymryd rhan mewn ymryson odli gyda’r trigolion. A hithau’n ganol gaeaf noethlwm, cadwch lygad felly am y Fari frawychus!