Caneuon y Nadolig

Ymhell cyn y wledd, y tinsel a’r holl fedd, y gerddoriaeth sy’n ein cyflwyno i hwyl yr ŵyl. Does dim dianc rhag Wizzard a Slade a Chris Rea, ond yma yng Nghymru mae gennym berlau pop amgenach. Pwy all guro llais Meredydd Evans yn canu mawl i’r ‘Robin Goch’, neu Ryan Davies yn holi, ‘Nadolig? Pwy a ŵyr!’?. Y swynwr o Solfach, Meic Stevens, o bosib gyda’i faled ‘Noson Oer Nadolig’. Os am diva (neu dair) i fynd benben â Mariah Carey, gwrandewch ar ‘Gŵyl y Baban gan Caryl Parry Jones, neu ‘Hei Bawb, Nadolig Llawen! gan Pheena. Mae’r ffefrynnau hyn i gyd i’w canfod ar restrau chwarae di-ri. Am brofiad cerddoriaeth fyw, profwch yr ias mewn cyngerdd dymhorol. Un traddodiad yng Nghaerdydd ers tro byd yw gigs Nadolig Al Lewis yn Eglwys Sant Ioan, Treganna.

Un Seren Nadolig / Welsh Christmas - Miwsig

Siôn Corn

Wrth sôn am Santa Clôs – gan Gymreigio ‘Sant Nicholas’ neu ‘Santa Claus’ – mae’n werth nodi fod gennym ni Gymry ein fersiwn arbennig o’r dyn mewn coch. Daw’r enw ‘Siôn Corn’ o’r term ‘corn simnai’ – y ffordd o gludo anrhegion o’r sled i lawr at y goeden. Cofnodwyd yr enw Siôn Corn gyntaf ym 1922, mewn ysgrif gan J. Glyn Davies. Dilynwyd hynny, ym 1931, gan ddarlun ohono yn Llyfr Mawr y Plant. A fyth ers hynny mae plant Cymru (a’r bandiau pop Plant Duw ac Eden) yn bloeddio canu cân Siôn Corn!

Pwy sy'n dwad dros y bryn, 

yn ddistaw ddistaw bach; 

ei farf yn llaes a'i wallt yn wyn, 

â rhywbeth yn ei sach? 

A phwy sy'n eistedd ar y to

ar bwys y simne fawr? 

Siôn Corn, Siôn Corn. Helo, Helo. 

Tyrd yma, tyrd i lawr!

J. Glyn Davies

Anrhegion Nadolig

Pa roddion o Gymru fydd dan eich coeden eleni? A beth am gardiau, addurniadau a chynnyrch Cymreig? Mae cwmnïau cyfoes fel Adra a Bodlon yn llawn syniadau am roddion llawn steil. Os am hosan Nadolig chwaethus archebwch bâr gan Mabli Knits. Mae cwmni Hunant hefyd yn dathlu patrwm y garthen Gymreig ar eu llieiniau gwely clyd.

Darllen mwy: Anrhegion o Gymru

Gwely metel du gyda blanced carthen Gymreig pinc.
Torch nadolig gyda ffrwythau wedi sychu

Carthen Hunant a thorch Nadolig Bodlon

Ac os am lenwi cypyrddau’r gegin trowch at farchnadoedd bwyd ar-lein fel Dylan’s, Edwards o Gonwy a chwmni Blas ar Fwyd - ceir dewis amrywiol o fwyd a diod tymhorol. Ar gynnig gan Siwgr a Sbeis mae mins peis blas oren Viennese, neu beth am gwrw Nadolig Monty’s, Figgy Pud? Anrhegion bythol boblogaidd yw siocledi Sarah Bunton – pwy mewn difri calon allai wrthod bar gyda’r geiriau Nadolig Llawen? Dim ond Mordecai o’r ffilm dymhorol ‘Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig’ – y nesaf peth at y ‘Scrooge’ Cymreig.

Darllen mwy: Dathlu cynnyrch bwyd a diod Cymru dros y Nadolig

Cyflaith

A sôn am felysion, dyma’r cyfle perffaith i drafod Cyflaith, da-da â chysylltiad clos â’r Plygain. Gwasanaeth Nadolig traddodiadol Cymreig yw’r Plygain, sy’n dyddio o’r cyfnod cyn diwygiad Protestannaidd y 16eg Ganrif. Hyd heddiw daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd i du blaen eglwysi i ganu carolau’r Plygain yn ddigyfeiliant o flaen cynulleidfa. Cysylltir y traddodiad yn bennaf â Sir Drefaldwyn a’r cyffiniau erbyn hyn, ond cynhelir gwasanaethau Plygain ledled Cymru ar hyd misoedd Rhagfyr ac Ionawr. Yn hanesyddol cynhaliwyd y Plygain yn gynnar ar fore Nadolig dan olau cannwyll. 

Mewn rhai mannau o Gymru, wrth aros am y gwasanaeth, roedd hi’n arferiad i wneud cyflaith. Yn wir, roedd Noson Gyflaith yn achlysur llawn hwyl ynddo’i hun. Cyfuniad o fenyn a siwgr a thriog yw Cyflaith, neu Cyfleth, Taffi neu Toffi. Ar ôl cyfuno a berwi’r cynhwysion, tywalltwyd y cyflaith allan ar lechen, neu garreg yr aelwyd, cyn ei ymestyn. Byddai pob aelod o’r cwmni yn iro’i ddwylo hefo menyn ac yn cymryd darn o’r cyflaith i’w dynnu’n rhaffau.

Rhowch dro ar wneud Cyflaith neu Daffi Cymreig eich hunain trwy ddefnyddio y rysáit cyflaith yma.

Os ydych chi’n hoffi toffi, mae na lu o ddanteithion Cymreig y gallwch eu prynu, gan gynnwys Iogwrt Llaeth y Llan, Waffls Tregroes, gwirodydd Toffoc neu liquor taffi hallt Aber Falls.

Hel Calennig, Y Fari Lwyd a’r Hen Galan

Rhwng Nadolig a Nos Ystwyll (05 Ionawr), cynhaliwyd defodau ledled Cymru, gan gynnwys gorymdeithio’r Fari Lwyd. Penglog ceffyl wedi’i addurno ar bolyn yw’r Fari Lwyd, gaiff ei harwain gan griw o orymdeithwyr. Gwelwyd adfywiad o’r traddodiad yn ne Cymru yn ddiweddar, felly gwyliwch am y Fari ar daith rhwng tafarndai yn ystod misoedd Rhagfyr ac Ionawr.

I’r plant yn eich plith, ceir defod Gymreig i gystadlu â ‘trick or treat’ Calan Gaeaf. Cyn hanner dydd bob dydd Calan (01 Ionawr) caiff plantos Cymru ‘hel Calennig’, sef canu cyfarchion i’w cymdogion, gyda’r caneuon yn amrywio o ddymuniadau syml i benillion teuluol. Dymunir ‘Blwyddyn Newydd Dda’, yn y gobaith o dderbyn cildwrn o ryw fath – boed hynny’n arian neu’n losin neu dda-da!

Ond i un gymuned yn Sir Benfro, nodir y flwyddyn newydd yng nghanol mis Ionawr, wrth i drigolion Cwm Gwaun ganu Calennig ar 13 Ionawr. Ym 1752, cafodd y calendr Iwlaidd ei ddiddymu a chymerwyd ei le gan y calendr Gregoraidd, a gafodd ei gymeradwyo gan Bab Gregori XIII bron dwy ganrif ynghynt. Ond gwrthodwyd y penderfyniad gan bobl Cwm Gwaun, sy’n dal i lynnu at yr hen galendr Iwlaidd.

Blwyddyn Newydd Dda?

Faint ohonom sy’n deffro ar ddydd Calan ag adduned go gadarn i gadw’n heini am flwyddyn gron? Mae sawl un yn bachu ar y cyfle i ddechrau’r diwrnod yn gynnar, gan ymuno â rasys Nos Galan, Aberpennar. Mae’r her 5km blynyddol i gofio am arwr lleol – rhedwr chwedlonol Llwyncelyn, Guto Nyth Brân (1700-1737). Ceir sôn iddo redeg saith milltir i Bontypridd cyn i degell ei fam ferwi, ond bu farw yn sgil ‘un ras olaf’, gwaetha’r modd. Claddwyd Guto ym mynwent Eglwys Llanwynno, ble caiff torch ei oleuo cyn dechrau’r ras gyfoes. 

Cerflun Guto Nyth Brân gyda goleuadau Nadolig yn gefndir.
Rhedwyr yn rhedeg ras yn y nos.

Rasys Nos Galan 

Straeon cysylltiedig