Beth well na phenwythnos bach i ffwrdd yng nghwmni criw o ffrindiau? Dyma gyfle gwych i ymlacio gydag eneidiau hoff cytûn, yn bell o dwrw’r byd. Ond wrth gwrs, dydy mynd ati i drefnu gwyliau byr o’r fath ddim yn gymaint o hwyl.

Drwy lwc, mae Cymru’n gwneud y gwaith cynllunio’n hawdd, gyda pheth wmbreth o weithgareddau parod ar gael i griwiau, a phob math o wahanol fathau o lety ar gael i grwpiau mawr. Fe fydd yma rywbeth at ddant pawb – hyd yn oed i’r ffrind hwnnw sy’n anodd ei blesio (ac mae gan bawb un o’r rheini!).

Cylchlythyr Croeso Cymru

Dyma Gymru. Gwlad â chalon gynnes, hanes cyfoethog a dyfodol cyffrous. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i glywed ein straeon diweddaraf, syniadau gwyliau neu seibiannau byr a mwy am ddigwyddiadau diddorol sy'n digwydd yng Nghymru.

Pethau i’w gwneud gyda’ch ffrindiau ar benwythnos i ffwrdd

Efallai eich bod chi’n awyddus i ymlacio mewn llecyn prydferth. Neu fod eich bryd ar anturio i’r eithaf neu grwydro’r orielau a’r tafarndai mewn tref. Beth bynnag fydd y cynllun, mae gan Gymru ddewis di-ben-draw o bethau bendigedig i chi eu gwneud mewn criw. Y cyfan sy’n rhaid ei wneud ydy dewis a dethol yr opsiynau gorau i greu amserlen a fydd yn cyd-fynd yn berffaith â’r hyn sydd gan eich grŵp mewn golwg.

Dihangfa mewn dinas

I grwpiau sy’n chwilio am ychydig o’r cyffro cosmopolitan, mae gan ddinasoedd Cymru bopeth i roi penwythnos penigamp i chi. Bydd nifer o ymwelwyr yn amlwg yn cael eu denu gan y brifddinas: yng Nghaerdydd y mae’r Amgueddfa Genedlaethol (lle cewch chi weld cerrig o’r lleuad ochr yn ochr â champweithiau gan Monet). Fe gewch chi hefyd grwydro’r arcedau hyfryd o oes Fictoria sy’n llawn siopau bach gwych, ac edmygu gogoniant canoloesol Castell Caerdydd, sy’n cynnal digwyddiadau awyr agored yn yr haf.

Arcêd siopa dan do gyda phobl yn cerdded heibio i siopau.
Pobl yn eistedd ar fyrddau a chadeiriau yn nhir Castell Caerdydd.

Siopa yn arcedau Fictoraidd Caerdydd a Chastell Caerdydd, De Cymru

Ond mae digon o ddewisiadau dinesig eraill i’w cael hefyd, fel Casnewydd, a’i marchnad dan do sydd wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar (sy’n llawn dop o fusnesau annibynnol gwych) a Bangor, cartref Pontio, canolfan gelfyddydol chwe llawr sy’n cynnal dramâu, gìgs, ffilmiau a sioeau cabaret. Ar arfordir y gorllewin, mae Abertawe yn enwog am ei phromenâd glan môr, sy’n lle braf iawn i feicio, tra bo Wrecsam yn llygad y byd ar hyn o bryd ar ôl llwyddiant tîm pêl-droed y ddinas, sy’n eiddo i actorion o Hollywood (ewch i Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam i glywed y stori).

I ymwelwyr sydd am brofiad dinesig heb y prysurdeb, mae tawelwch Tyddewi a Llanelwy yn siŵr o apelio. Dyma ddwy o ddinasoedd lleiaf y Deyrnas Unedig, a’r rheini’n enwog am eu heglwysi cadeiriol hanesyddol (Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac Eglwys Gadeiriol Llanelwy). Maen nhw’n llefydd gwych i fynd am dro neu feicio drwy harddwch cefn gwlad, sydd ar garreg y drws yma.

Mae gan bob un o’n dinasoedd hefyd ddigonedd o gaffis clyd, bwytai heb eu hail, a thafarndai croesawgar – sy’n rhoi cyfleoedd dirifedi i adrodd hen straeon a chreu atgofion newydd.

Criw o ffrindiau’n eistedd wrth fwrdd mewn bar.

Brewdog bar, Caerdydd, South Wales

Hwyl a sbri yng nghwmni’r criw

Mae pawb wedi’u gwahodd. Mae’r lleoliad wedi’i drefnu. Ond dyma’r cwestiwn mawr: pa weithgareddau fyddwch chi’n eu gwneud yn ystod eich penwythnos i ffwrdd yng Nghymru? Er ei bod hi’n wlad gymharol fechan, mae gan Gymru ddarparwyr gweithgareddau rif y gwlith, ac mae’r ffaith nad oes angen teithio’n rhy bell i unman yn golygu bod modd cyrraedd y rheini’n rhwydd.

I grwpiau sy’n hoff o gampau, go brin y cewch chi her well na diwrnod o arfordira. Dyma weithgaredd sy’n cyfuno dringo creigiau a nofio, a gweithgaredd a darddodd ar arfordir garw Sir Benfro. I’r ymwelwyr sy’n hoff o’r awyr agored, dewisiadau eraill fyddai gwers hwylfyrddio yng Nghei Newydd, mentro i’r tonnau gwyllt yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, hedfan drwy’r entrychion ar wifrau gwib, neu roi troed ar y sbardun o amgylch cefn gwlad ar feiciau cwad. Mae’r rhain i gyd yn weithgareddau sy’n ddelfrydol i grwpiau o ffrindiau.

Criw yn neidio i'r tonnau wrth arfordira yn Sir Benfro.
Delwedd o fenyw yn neidio yn y môr, yn arfordira ger Tyddewi

Arfordira ger Tyddewi, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Ewch draw i Ynys Môn am brofiad gwahanol, a mwynhau sba gwymon ymlaciol yn Halen Môn, cyn cyflymu’r galon ar daith RibRide ar afon Menai. Am noson gofiadwy, mae gan Borthaethwy lefydd bwyta ac yfed anhygoel, a sawl bwyty sydd wedi ennill gwobrau.

Archwilio gweithgareddau a bwyd ar Afon Menai, Gogledd Cymru

Os ydy aelodau’ch criw’n hoff o bedlo, bydd tirweddau Cymru’n sicr at eich dant, gyda llwybrau beicio hyfryd i’w dilyn a llwybrau oddi ar y ffordd heriol os am wibio i lawr y llethrau. Mae nifer o gwmnïau’n trefnu gwyliau beicio penodol, gan gynnig popeth o sesiynau blasu i deithiau traws gwlad anturus.

Am brofiad ychydig tawelach, beth am ddangos eich creadigrwydd mewn dosbarth crochenwaith neu roi cynnig ar badlfyrddio ar afon Gwy? Mae cyfleoedd hefyd i ymlacio mewn sesiwn ioga, neu weld pa un o’ch cyfeillion sydd â’r annel orau mewn gwers saethyddiaeth.

I wneud bywyd yn haws fyth, fe allech chi ofyn i rywun arall wneud yr holl waith trefnu ar eich rhan. Ymhlith y cwmnïau arbenigol yn hyn o beth mae Adventure Tours UK, Inspire2Adventure, Quest Adventure Activities a Bearded Men Adventures. Bydd y rhain yn gallu creu amserlen sy’n llawn gwahanol weithgareddau i chi, yn dibynnu ar beth mae’ch criw chi’n hoffi’i wneud. Gan amlaf, bydd modd trefnu trafnidiaeth o’r naill weithgaredd i’r llall hefyd.

Pedwar o bobl ar wifren wib uwchben chwarel.
Beicwyr mynydd ar lwybr drwy gefn gwlad.

Zip World Chwarel y Penrhyn, Bethesda, a beicwyr mynydd ym Mryniau Clwyd, Sir Ddinbych, Gogledd Cymru

Ymlaciwch (am newid bach)

Wrth gwrs, rhan o fwynhad penwythnos i ffwrdd gyda ffrindiau ydy’r cyfle i wneud dim byd ond ymlacio a sgwrsio’n braf. A pha ffordd well o wneud hynny na thrwy dreulio ambell noson yng nghlydwch a thawelwch cefn gwlad Cymru?

Mae yma ddigonedd o gyfleoedd i fwynhau clonc wrth grwydro i’r copaon – ym mharciau cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Eryri, er enghraifft, gan neilltuo’r nosweithiau i sipian paneidiau o amgylch y tân, neu efallai lymaid o rywbeth cryfach yn y twba twym.

Tri o bobl yn gwneud ioga, yn penlinio ac yn ymestyn eu breichiau.
Dau o bobl yn eistedd mewn twba twym yn edrych ar olygfa dros afon.

Ioga ac ymlacio mewn twba twym yn Lawrenni, Gorllewin Cymru

I orffwyso ac ymlacio go iawn mewn criw, beth am hoe yn un o sbâs iachusol Cymru? Am wir lonyddwch, go brin fod unlle gwell na Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy ym mynyddoedd y Berwyn, sy’n cynnig triniaethau i leddfu pob math o straen, ynghyd â golygfeydd dros y llyn a fydd yn sicr yn denu’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond mae’n debygol mai sba enwocaf y wlad ydy hwnnw yng ngwesty pum seren y Celtic Manor yng Nghasnewydd, lle cewch chi bopeth o salonau ewinedd i ddetholiad o sawnas persawrus. Mae’r gwesty hefyd yn enwog am ei dri chwrs golff deunaw twll, gan gynnwys Cwrs 2010, a ddyluniwyd i gynnal cystadleuaeth Cwpan Ryder y flwyddyn honno.

I griwiau sy’n hoff o golff, cofiwch hefyd am sawl dewis arall gwych yng Nghymru, fel Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Clwb Golff Aberdyfi a Chlwb Golff Abersoch, i enwi dim ond rhai.

Pobl yn chwarae golff yng ngwesty’r Celtic Manor.
Two people in a spa.

Cwrs golff y Celtic Manor a sba’r Forum, Casnewydd, De Cymru

Blas ar y bwyd

I roi’r byd yn ei le, beth well na phryd penigamp o fwyd? Ac mae gan Gymru wledd yn aros criwiau sy’n mwynhau bwyta.

Y man cychwyn amlwg ar daith fwyd drwy Gymru ydy un o’n marchnadoedd traddodiadol – mae rhai gwych yn Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd, a’r rheini’n gwerthu pob math o ddanteithion Cymreig. Dechreuwch gyda llond llaw o deisennau cri (neu bice ar y maen), a thocyn o gaws Caerffili, cyn mentro am y cocos ffres gyda diferyn o finegr neu fara lawr (gwymon) a bacwn o’r badell. Go brin y cewch chi gynnig hynny yn eich bwyty lleol gartref!

Marchnad dan do gyda tho trionglog a rhesi o stondinau.
Rhywun yn coginio teisennau cri (neu bice ar y maen) ar lech bobi.

Marchnad Caerdydd, De Cymru

Am bryd mwy ffurfiol o amgylch y bwrdd, mae gan Gymru saith o fwytai sydd â seren Michelin, a fydd yn sicr yn uchafbwynt i unrhyw wyliau. Ewch i fwynhau’r loddest 30 cwrs (!) ym mwyty chwedlonol Ynyshir neu’r fwydlen ddirgel sy’n cael ei gweini y tu ôl i lenni mawr (rhag i neb sy’n pasio weld i mewn) yn Home, Penarth. I gael ychydig o sbort wrth flasu’r prydau traddodiadol, galwch heibio i un o’n gwyliau bwyd hwyliog.

 Pobl yn eistedd ar laswellt mewn gŵyl fwyd
Pot o salad ffeta gyda sifys wedi’i daenu ar ei ben.

Gŵyl Fwyd y Fenni, Y Fenni, De Cymru

Os hoffech chi rywfaint o arweiniad, beth am ddilyn taith fwyd arbenigol, fel y rheini sy’n cael eu cynnig gan Loving Welsh Food yng Nghaerdydd neu deithiau tywys poblogaidd Amanda yng Nghonwy? Yn y gogledd hefyd, mae Celtic Tours Wales yn trefnu teithiau ar thema bwyd, a’r rheini’n rhoi cyfle i flasu popeth o fara brith i gwrw crefft.

Os mai ciniawau gwlypach sy’n mynd â bryd eich criw, mae gan Gymru sawl gwinllan sy’n cynnig teithiau a chyfleoedd i flasu gwin, gan gynnwys Llanerch ger Caerdydd, sydd wedi ennill sawl gwobr. Am rywbeth cryfach o’r gasgen, mae teithiau a sesiynau blasu hefyd ar gael yn Nistyllfa Penderyn yng ngodreon Bannau Brycheiniog – mae eu wisgi Cymreig enwog ar werth yn y pedwar ban. Dewis arall ydy ymuno â’r chwyldro drwy fynd ar daith flasu drwy ddistyllfa jin.

Grŵp o bobl yn ymweld â gwinllan.
Pobl o gwmpas bwrdd mewn ystafell fotanegol yn gwneud jin.

Taith o amgylch Gwinllan Llanrech a’r labordy jin yn Nistyllfa Castell Hensol, De Cymru

Ambell antur anghyffredin

Mae unrhyw benwythnos gyda chwmni da’n debygol o fod yn gofiadwy, ond cyfunwch hynny â thrampolîn tanddaearol anferthol a dyna fynd â phethau gam (neu naid) ymhellach! I griwiau o ffrindiau sy’n hoff o wneud pethau gwahanol ambell dro, mae Cymru’n llawn profiadau unigryw a fydd yn creu taith arbennig iawn.

Mae yma gyfleoedd i farchogaeth yn y Mynydd Du, i roi cynnig ar gynaeafu gwair (gyda phladur) yn The Forge ger Corwen, i sglefrio ar lawr rhew maint Olympaidd yn Sir y Fflint, i aros ar ddihun drwy’r nos wrth syllu ar y sêr yn un o’n Gwarchodfeydd Awyr Dywyll, neu i ymlacio o flaen ffilm glasurol yn un o’n sinemâu annibynnol (er y gallai’r Sol Cinema fod fymryn yn fach, yn dibynnu ar faint eich grŵp!).

At hynny, os nad ydy’r syniad o lamu ar drampolîn o dan y ddaear yn eich cyffroi, fe allech chi wastad fynd benben o amgylch cwrs golff anturus tanddaearol cyntaf y byd, sydd yn yr un lleoliad.

Pobl yn bownsio ar rwydi ar ffurf trampolîn mewn ogof lechi danddaearol

Bounce Below, Zip World Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru

Hepian yn hapus

Mae gan Gymru ddigonedd o lefydd lle gall grwpiau mawr i gyd gysgu gyda’i gilydd o dan un to.

I’r rheini sy’n cadw golwg ar y pris, gallai aros mewn tŷ bync fod yn berffaith. Ond nid ystafelloedd cysgu mawr a moel mo’r rhain. Yn hytrach, maen nhw’n llefydd modern, cysurus, gyda phopeth o olygfeydd o’r môr i oergelloedd cwrw.

Hefyd ymhlith y dewisiadau rhatach mae hosteli’r YHA a meysydd gwersylla. Neu am ychydig bach mwy o foethusrwydd, rhowch gynnig ar wersylloedd glampio, fel y rheini yn Nyth Robin ger Aberdyfi neu Fferm Sloeberry ger Aberteifi – lle mae’r tybiau twym awyr agored yn cael eu cynhesu â choed tân.

Mae’r dewis yn ddi-ben-draw i’r rheini sy’n chwilio am fflat neu fwthyn mwy arferol, gyda phopeth o dai canol tref i hen feudai ar fuarthau ffermydd i ddewis o’u plith. Isod mae enghreifftiau o rai o’r opsiynau sydd ar gael, ac mae gan bob un ohonyn nhw le i o leiaf chwech o bobl aros.

Dyma rai opsiynau llety i grwpiau yn y gogledd:

Dyma rai opsiynau llety i grwpiau yn y canolbarth:

Canolbarth Cymru

Bryncarnedd Cottages

llety
Aberystwyth
The Lodge / Y Porthdy

The Lodge

llety
Llanbrynmair

Dyma rai opsiynau llety i grwpiau yn y gorllewin:

  • Tŷ Fforest – ffermdy Sioraidd llawn cymeriad nepell o Aberteifi
  • Mor & More – eiddo hyfryd ar y clogwyn uwchben tref Dinbych-y-pysgod

Gorllewin Cymru 

Ty Fforest

llety
Cardigan
A balcony with a heavenly view...

Mor & More

llety
Laugharne

Dyma rai opsiynau llety i grwpiau yn y de:

De Cymru

Farmhouse Front View

The Farmhouse

llety
Abergavenny

Mae rhagor o westai i’w gweld yn ein tudalennau llety.

Yn awyddus i drefnu rhywbeth i grŵp corfforaethol? Ewch i gael golwg ar wefan Meet in Wales.

Straeon cysylltiedig