Hanes a Threftadaeth

Cadeirlan Bangor

Yn sefyll ar safle sydd wedi bod yn fan addoli i Gristnogion ers y 6ed ganrif, mae colofnau gothig a ffenestri lliw Cadeirlan Bangor yn arbennig. Cadwch lygad am gerfiad derw prin o’r 15fed ganrif y tu mewn sy’n cael ei alw’n Grist Mostyn, a hefyd pump o lygod bach wedi eu cerfio – arwyddair y gwneuthurwr dodrefn enwog, Robert Thompson.

Castell Penrhyn

Gyda’r mynyddoedd yn codi y tu ôl iddo, mae Castell Penrhyn yn greadigaeth ffantasi o’r 19eg ganrif a godwyd ar gyfer diwydiannwr cefnog y chwareli llechi. Y tu mewn, fe welwch chi addurniadau drudfawr a chasgliad o waith celf gain. Mae’r gerddi helaeth yn berffaith ar gyfer plant sy’n chwilio am antur – neu ar gyfer ymlacio yn yr haul.

 

Castell tu draw i gae o gennin pedr.

Castell Penrhyn, Bangor

 

Pier Garth, Bangor

Mae trigolion lleol yn hoff o ddweud mai Pier Garth yw’r pier Fictorianaidd gorau sydd wedi goroesi yng Nghymru. Mae’n bromenâd pren perffaith yn ymestyn am bron i hanner cilomedr dros y dŵr, ac yn cynnig golygfeydd godidog ar hyd y Fenai a draw am Ynys Môn. Yno, fe gewch chi gytiau to pigog ar hyd y pier yn cynnig lluniaeth a chrefftau i’w hedmygu a’u prynu.

Cerrig yr Orsedd 1971

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971, ac ers hynny mae cylch o feini hirion ar ochr bryn glaswelltog sydd â golygfeydd hyfryd dros y Fenai. Mae’n lle delfrydol ar gyfer picnic ac mae’n bosibl ei gyrraedd gyda chadair olwyn.

 

Atyniadau diwylliannol

Oriel gelf ac amgueddfa Storiel

Mae’r casgliad yn Storiel yn adlewyrchu pob cyfnod hanesyddol yr ardal. Bydd dodrefn, tecstilau, paentiadau a rhyfeddodau eraill yn cadw plant chwilfrydig (ac oedolion hefyd) yn ddiddan. Chwiliwch am goron Brenin Enlli ac am gleddyf Segontium Rhufeinig. Mae’r oriel yn gartref i waith cyfoes gan artistiaid lleol ac mae yno gaffi a siop hefyd.

Canolfan Gelfyddydau Pontio

Mae Pontio yn ganolfan celfyddydau ac arloesi ysblennydd ac yn gartref i sinema a dwy theatr. Mae digonedd o bethau’n cael eu cynnal yma – dramâu, dawns, ffilmiau, cerddoriaeth a mwy – y cyfan mewn adeilad newydd, agored. Mae yno gaffi a bar hefyd.

Adeilad newydd Pontio â choncrid a phaneli ffenestri gwydr mawr yn erbyn rhan hŷn twr y brifysgol

Pontio, Prifysgol Bangor

 

Distyllfa Abergwyngregyn

Mae’r tîm brwdfrydig yn nistyllfa Aber Falls yn creu wisgi, jin a gwirodydd anarferol ac unigryw gan ddefnyddio’r dŵr claear sy’n llifo i’r rhaeadr enwog. Gallwch chi fynd ar daith o amgylch y ddistyllfa, taro i mewn i’r ganolfan ymwelwyr a hyd yn oed roi cynnig ar greu eich jin eich hunan.

 

Canolfan wehyddu a chrefftau SAORImôr

Ffansi rhoi cynnig ar wehyddu? Mae Saori yn ddull unigryw o wehyddu rhydd. Mae chwe ffrâm wehyddu yn SAORImôr ac mae croeso i blant yn ogystal ag oedolion i roi cynnig arni. Wrth fynd am sesiwn blasu dwy awr, fe fyddwch chi’n mynd adre gyda’ch gwaith gwehyddu lliwgar a chain eich hun. Mae’r siop yn gwerthu edau, byrddau gwehyddu ac anrhegion lliwgar eraill.

Awyr iach

Crwydro’r Gwersyll Rhufeinig

Er mawr ddryswch (neu i wneud pethau’n ddifyr efallai?) does yna ddim byd yn Rhufeinig am y safle hwn! Does neb yn siŵr iawn sut y cafodd y lle ei enw. Mae Cylchdaith Bangor yn daith gerdded gymharol fer drwy goedwig ddeiliog ac ar draws dir prysg gwyllt o amgylch yr ardal, ac mae golygfeydd gwych am yn ôl tuag at y ddinas a thros y Fenai a’r ddwy bont i Fôn i’w gweld yn amlwg.

Gwibio yn Zip World Chwarel y Penrhyn

Os ewch chi yn y car ar siwrne fer o Fangor fe ddewch chi o hyd i hen chwarel lechi enfawr a’i llond o adrenalin yn Zip World Chwarel y Penrhyn. Cewch eich hofran fel Superted ar Velocity 2 cyn cael eich rhyddhau i wibio dros y chwarel a’r llyn ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr. Os yw hynny’n swnio’n ormod, mae yno wifren wib lai lle mae rhywun yn eistedd, gallwch roi tro ar gertio yn y chwarel neu mae teithiau o amgylch y chwarel ar gael. Mae gwerth ymweld â bwyty Blondin yma hefyd am y bwyd a’r golygfeydd.

 

Pedwar person yn cymryd hunlun yn Velocity Zip World.
person ar y wifren wib.
Dyn yn gorwedd mewn harnais ac yn cael ei baratoi i fynd ar y wifren wib.

Gwibio ar wifren Velocity 2 yn Zip World, Chwarel y Penrhyn

Crwydro Gardd Fotaneg Treborth

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn rhan o dir Prifysgol Bangor, ond gall unrhyw un ymweld. Fe gewch chi yno goedlan a maes cynhenid heddychlon, perllan aeddfed a chwe gwahanol dŷ poeth yn llawn cacti, planhigion suddlon a thegeirianau. Mae’r gerddi ar agor bob dydd, ond nid yw’r tai poeth ond ar agor ar ddyddiau penodol, felly gwiriwch cyn ichi fynd yno.

Cerdded Llwybr Llechi Eryri

Mae Bangor wedi ei leoli o fewn Safle Treftadaeth Byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ac mae Llwybr Llechi Eryri yn dechrau ym Mangor. Mae’r rhan gyntaf o Fangor i Fethesda yn gyflwyniad gwych i dreftadaeth llechi’r ardal. Mae’n tua 6 milltir (10 km) ac mae’n cymryd 4 awr. Ar y ffordd, rydych chi’n mynd heibio Castell Penrhyn, eglwysi hynafol a nentydd byrlymus fyddai’n troi melinau a Chwarel y Penrhyn.

 

Golygfeydd pell o fryniau gwyrddion a glaswellt ym mlaen y llun.

Golygfeydd o gefn gwlad o amgylch Bethesda

Chwilio am adar yng Ngwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen

Mae Spinnies Aberogwen yn lleoliad gwych i wylio adar. Gyda’i gyfres o lagwnau tawel, clystyrau o frwyn a choedlan ochr yn ochr ag aber yr afon a’i draethellau, mae’n lle sy’n denu adar. Mae tair gwylfa yma. Efallai y gwelwch chi las y dorlan, crëyr glas, rhydiwr neu adar dŵr eraill. Mae Traeth Ogwen yn lle hardd cyfagos hefyd.

 

Beicio ar hyd Lôn Las Ogwen

Neu beth am neidio ar gefn y beic? Beiciwch tuag at Fethesda ar hyd Llwybr Ogwen ac yna ymlaen am Lyn Ogwen. Mae’n daith diwrnod hawdd lle cewch chi olygfeydd dramatig o ddyffrynnoedd Eryri ac o’r chwarel lechi. Llyn Ogwen yw’r uchafbwynt, llyn rhewlifol hudolus â mynyddoedd yn codi’n serth o’i amgylch. Mae’r daith tua 22 milltir (35 km).

llyn ag awyr niwlog.

Dyfroedd hudolus Llyn Ogwen

Straeon cysylltiedig