Dywedir bod tir ffrwythlon Môn, “Mam Cymru”, wedi helpu i fwydo’r genedl ar un cyfnod, ac ar yr ynys ceir lawer o’r bwyd môr, caws a chig gorau yng Nghymru hyd heddiw. 

Os oes gennych awydd mudo o’r tir mawr am wyliau rhamantus gyda’ch partner, mynd am dro gyda’ch ci, neu gerdded Llwybr Arfordirol Môn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â rhai o’r bwytai gwych yma ar eich taith. 

Lobster Pot, Porth Swtan

Ers 1946, mae The Lobster Pot wedi gweini cimychiaid, cranc, cregyn gleision, wystrys a chregyn bylchog ffres o'u bwyty ym Mhorth Swtan. Yn aml mae prydau tymhorol arbennig ar y fwydlen, wedi’u dal yn lleol, fel brithyll môr, macrell neu penfras. Mae opsiynau llysieuol a chig ar gael hefyd. Edrychwch ar yr amseroedd agor cyn ymweld gan fod oriau'r gaeaf yn amrywio. Dyma un o hoelion wyth y sîn fwyta ym Môn - gyda phwyslais ar fwyd syml wedi'i weini mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.

Dylan’s, Porthaethwy

Mae gan Dylan’s dri bwyty yng ngogledd Cymru bellach, ond mae’r gwreiddiol ar lannau’r Fenai ym Mhorthaethwy. Maent yn arbenigo mewn bwyd môr a pizza ffres ac yn cefnogi cyflenwyr lleol gan gynnwys Halen Môn, Môn ar Lwy a Menai Oysters. Maent hefyd yn rhedeg siop yn y dref sy’n gwerthu bara ffres a phrydau wedi'u paratoi ymlaen llaw.

Dau berson tu allan i fwyty pren yn gwenu. Mae'r ddau yn gweithio yn y bwyty ac yn gwisgo gwisg gyda'r logo 'Dylan's Restaurant' arnynt.

Dylan’s, Porthaethwy

The Oyster Catcher, Rhosneigr

Ger twyni tywod Rhosneigr, ychydig funudau o Draeth Llydan, mae bwyty The Oyster Catcher. Gall ymwelwyr fwynhau coctel ar y teras, neu bryd o fwyd yn un o'r cytiau traeth wedi'u gwresogi. Mae Pat’s Shack yn gweini pizza, cŵn poeth a thacos ar benwythnosau, a  Will’s Bar yn torri syched gyda’i ddewis eang o gwrw a gwirodydd lleol.

The Midland, Biwmares

Mae creu prydau tymhorol yn seiliedig ar gynnyrch lleol wedi talu ar ei ganfed i dîm y Midland - mae eu teyrnas tapas yn tyfu'n gyflym ac maent bellach yn rhedeg The Libertine ym Mhorthaethwy a Midland Street Café yng Nghonwy yn ogystal â'u bwyty gwreiddiol ym Miwmares. Maent hefyd yn rhedeg Mercado, y cigydd, deli a siop win arbennig ym Miwmares.

Sosban and the Old Butchers, Porthaethwy

Mae ymweliad â’r Sosban and the Old Butchers ym Mhorthaethwy yn brofiad a hanner. Mae’r bwyty seren Michelin yn gweini cyfres o brydau unigryw sy’n mynd â chiniawyr ar daith. Gweinir swper ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn am £175 y pen. Meddai yr awdur bwyd Lowri Haf Cooke: “Mae'r cogydd yn amlwg yn ei elfen wrth ddyrchafu blasau Ynys Môn”, wedi ei hymweliad â’r Sosban yn ddiweddar, ynghyd â bwytai sêr Michelin eraill Cymru.

Plât gyda physgodyn mewn briwsion bara.
Cogydd yn paratoi bwyd mewn cegin y tu mewn i fwyty.
Pelen o sorbet ar ben llysiau.

Sosban and the Old Butchers, Porthaethwy

Harry’s Bistro, Biwmares

Yn Neuadd Henllys mae Harry’s Bistro - plasty a godwyd yn y 1880au ar safle hen fynachlog, sy’n dyddio o'r 13eg ganrif. Mae golygfa braf o’r Fenai a Biwmares o’r safle. Yma, mae Simon a Nia (sy’n gogyddion adnabyddus ym Môn) yn gweini steil unigryw o fwyd tymhorol gan gynnwys ffagots cig oen a phwdin posset lemwn wedi’i weini gyda riwbob a mafon Hooton’s.

Catch 22, Y Fali

Mae’r brasserie teuluol yn y Fali yn cynnig yr un profiad cartrefol i ginïawyr tri chwrs, ac ymwelwyr sy’n galw heibio am baned, fel ei gilydd. Mae’r brif fwydlen yn cynnig amrywiaeth o brydau pysgod, cyri a byrgyrs o safon ac mae opsiynau tecawê ar gael hefyd yn Catch 22.

The White Eagle, Rhoscolyn 

Mae’r White Eagle yn Rhoscolyn yn boblogaidd gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr â’r ynys. Mae’r fwydlen dymhorol yn dangos perthynas glos y dafarn gyda ffermwyr a chynhyrchwyr lleol, o gigyddion teuluol lleol sydd wedi ennill gwobrau, i wystrys ffres o’r Fenai.

Sea Shanty, Bae Trearddur

Dyma’r ail Sea Shanty ym Mae Trearddur, ar ôl i’r gwreiddiol gau yn 2002 wedi 60 mlynedd o wasanaeth. Mae’r Sea Shanty yma’n fwy, gyda digonedd o le i deuluoedd fwynhau cinio a hufen iâ cyn i’r bwyty weini swper a choctels gyda’r nos. Mae’r caffi lan môr poblogaidd yn cyflogi dros 80 yn ystod misoedd prysur yr haf.

Straeon cysylltiedig