Dewch ar daith igam ogam drwy Fynyddoedd Cambria. Mae ein taith yn arwain o Lanllawddog yn y de ar draws y rhanbarth i Ddylife yn y gogledd, un o’r lleoliadau mwyaf arbennig i wylio’r machlud yn y wlad i gyd.

Dyn â chamera ar fynydd.

Dafydd Wyn Morgan allan yn tynnu lluniau ar Fynyddoedd Cambria

Yma y mae’r awyr nos ar ei thywyllaf yn Ewrop gyfan, fwy neu lai: mae yma naw Safle Darganfod Awyr Dywyll Dosbarth y Llwybr Llaethog a Pharc Awyr Dywyll Rhyngwladol, sy’n rhoi cyfoeth o ddewis i chi fwynhau syllu ar y sêr.

Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll Mynyddoedd Cambria

© Alyn Wallace / Cambrian Mountains Initiative

Canfod y ffordd

Os ydych hi’n gyrru tua’r gorllewin i gyfeiriad Caerfyrddin ar yr M4, wedyn yr A48, fe sylwch ar y tir yn codi o’ch blaen i’r gogledd. Y bryniau a’r dyffrynnoedd bach yna yw’r arwydd eich bod wedi cyrraedd gwlad Mynyddoedd Cambria! Dyma awgrym am llwybr i’w ddilyn, gyda mannau i gael saib ar hyd y ffordd. 

Tirweddau Mynyddoedd Cambria

© Scott Waby Photography / Cambrian Mountains Initiative

Llanllawddog. Enwyd y pentref bach hwn i adlewyrchu’i dreftadaeth – y sant lleol Llawddog. Yn y pentref, ceir eglwys o’r 12fed ganrif, wedi’i hamgylchynu â choedwig a arferai fod yn goedwig frenhinol.

Brechfa. Ceir llu o wybodaeth a nwyddau amrywiol yn y siop gymunedol dan ofal gwirfoddolwyr. Dylai unrhyw un sy’n ymddiddori mewn shinrin-yoku (ymdrochi yn y goedwig) dreulio amser yng Nghoedwig Brechfa, ble gallwch ddarganfod rhaeadrau a mwynhau'r byd natur. Fel arall, rhowch olew ar gadwyn eich beic mynydd a sgrialwch o gwmpas rhai o’r llwybrau fforest sydd ar gael.

Pwynt trig a golygfa o fferm wynt.

Edrych allan ar y fferm wynt o bwynt trig Coedwig Brechfa

I weld y machlud, ewch i’r garn heddwch a godwyd gan y gymuned ar gopa Mynydd Llanfihangel Rhos-y-Corn. Wrth iddi nosi, cewch olygfa anhygoel o’r sêr. Gerllaw, Mynydd Llanllwni yw’r cyntaf o’n Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll – lleoliad eithriadol i wylio’r sêr.

Arwydd ffordd yng Nghanolbarth Cymru yn erbyn cefndir o sêr hardd.
Arwydd ffordd yng Nghanolbarth Cymru yn erbyn cefndir o sêr hardd.

Y machlud dros y garn heddwch, Mynydd Llanfihangel, Rhos-y-Corn, Mynyddoedd Cambria, ac awyr dywyll Mynydd Llanllwni

Pentref Talyllychau yw cartref adfeilion eiconig Abaty Talyllychau, a gallwch eu mwynhau ar eich ffordd i dref Llanbedr Pont Steffan. Mae tir y brifysgol ar agor i’r cyhoedd ac yn llecyn hyfryd i ymestyn eich coesau’n hamddenol. Byddai’r bardd Dylan Thomas yn ymweld yn aml â Llanbed, a gall selogion ei waith ddilyn ei lwybr o gwmpas y dref. Argymhellir Gerddi Cae Hir am damaid i’w fwyta a mwy o gerdded – mae gan yr atyniad hwn a leolir ar lethr, hanes diddorol o’r Iseldiroedd, ac mae’n llawn o blanhigion, blodau a choed.

Adfeilion mynachlog yn yr heulwen.
Golygfa ar draws cwm gydag abaty’n amlwg yn y blaendir.

Adfeilion eiconig Abaty Talyllychau

Pumsaint sydd nesaf, wedi’i enwi ar ôl y pum sant a ddaeth i’r ardal flynyddoedd maith yn ôl, ond mae ymwelwyr heddiw’n fwy tebygol o ddod ar daith o Fwyngloddiau Aur Dolaucothi. Camwch yn ôl drwy amser a dychmygu’r Rhufeiniaid fu yma’n chwilio am aur bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. 

Pobl mewn hetiau caled mewn mwynglawdd.
Wagenni mwyngloddio.

Mwyngloddiau Aur Dolaucothi

Llanymddyfri. Dyma dref fendigedig, ond cofiwch mai dyma o ble rydw i’n dod, felly efallai fod gen i ragfarn! Mae gan y dref farchnad liwgar hon siopau bwtîc a lleoedd gwych i aros (peidiwch â derbyn fy ngair i, fe wnaeth yr Arglwydd Nelson aros yn un o’r gwestai yma!). Mae cerflun dur sgleiniog Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn taflu’i gysgod dros y dref, er cof am yr arwr Cymreig hwn, a dyma gyfle gwych i dynnu llun.

Cerflun dur yng ngolau’r lleuad.
Cerflun dur uwchlaw tref yn yr heulwen.

Cerflun o Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn edrych dros Lanymddyfri

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio Rheilffordd Calon Cymru, gyda’r orsaf dan ofal gwirfoddolwyr lleol. Ewch ar y trên i Draphont Cynghordy, sy’n fwy na 150 mlwydd oed. Dwi’n hoffi edrych o’r ffenest fan hyn ac esgus mai Harry Potter ydw i ar fy ffordd i Hogwarts (mae’n dirwedd ryfeddol o debyg!).

Awyrlun o draphont.

Awyrlun o draphont ysblennydd Cynghordy

Llanwrtyd. Ar ryw adeg yn eich bywyd mae’n sicr y byddwch wedi clywed am y Gemau Byd Amgen, a gynhelir yma. Bydd dewrion yn brwydro i ennill teitl pencampwr Snorclo Cors y Byd, y gellir dadlau mai dyna’r teitl mwyaf apelgar yn holl fyd chwaraeon. Er mai lle bach ydyw, mae digonedd o fannau i aros, bwyta a phethau i’w gwneud yn Llanwrtyd.

Llun o ddyn yn gwisgo snorcl a gogls ac yn snorclo mewn cors

Pencampwriaethau Snorclo Cors y Byd yn Llanwrtyd

Bwlch Abergwesyn. Wrth yrru i gyfeiriad Tregaron, byddwch chi’n mynd drwy’r bwlch hwn, cwm epig siâp-u a gerfiwyd gan rewlifoedd. Enwir y darn serth yn lleol fel ‘Grisiau’r Diafol’, her i sawl cerbyd ar hyd y blynyddoedd, heb sôn am y beicwyr niferus sy’n ei ddefnyddio. Mae’r copa’n cynnig golygfeydd ysgubol o Gwm Abergwesyn.

Ffordd droellog drwy’r mynyddoedd.

Bwlch Mynydd Abergwesyn yn ei ysblander

Cronfa Ddŵr ac Argae Llyn Brianne. Ger Cil-y-cwm a Rhandir-mwyn, dyma Safle Darganfod Awyr Dywyll arall – perffaith ar gyfer syllu ar y sêr, heb fawr ddim llygredd golau. Mae hefyd yn llecyn hyfryd i gerdded neu feicio yn ystod y dydd.

Llyn hardd yn yr heulwen.
Llyn hardd yn yr heulwen.

Llyn Brianne yn yr heulwen

Gwarchodfa Natur RSPB Gwenffrwd-Dinas. Yn ogystal â bod yn gartref i nifer fawr o adar, mamaliaid a phlanhigion, mae gan y warchodfa hon un o’r ogofeydd enwocaf yng Nghymru, ble byddai’r arwr lleol Twm Siôn Cati’n cuddio rhag yr awdurdodau. Fy hoff adeg i ymweld yw mis Mai a Mehefin pan fydd y clychau gog yn drwch.

Tregaron. Gan gadw ar llwybr Twm Siôn Cati, dyma fan ei eni, ac mae cerflun pren yn coffáu’r lleidr pen-ffordd, y bardd a’r dihiryn lleol. Mae digonedd i’w wneud yma – rhyfeddu at aur Cymru yng Nghanolfan Rhiannon, mwynhau’r bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Cors Caron, a cherdded neu feicio ar hyd Llwybr Ystwyth gan ddilyn cwrs hen drac Rheilffordd y Great Western.

Enwau a rhifau wedi’u cerfio ar graig mewn ogof.
Cerflun pren o Twm Siôn Cati.

Cerfiadau’n dyddio’n ôl i 1787 y tu mewn i ogof Twm Siôn Cati, cerflun pren o Twm Siôn Cati o flaen Canolfan Rhiannon, Tregaron

Pentref cymunedol bach a elwir gan y bobl leol yn Bont yw Pontrhydfendigaid. Dyma fan geni’r Cymro cyntaf i ddringo Everest, Caradoc Jones. Wrth edrych o’ch cwmpas, gallwch weld yn ddigon hawdd fod ei hoffter am fynyddoedd wedi dechrau o’r crud.

Abaty Ystrad Fflur. Os ydych chi eisiau cerdded yn hamddenol yn y mynyddoedd, ewch o Ystrad Fflur i lygad Afon Teifi. Piciwch i mewn i ganolfan ymwelwyr yr abaty i ddysgu am ei hanes ac arwyddocâd ysbrydol a diwylliannol yr ardal gyfagos.

Adfeilion abaty yng ngoleuni’r hwyr.
Adfeilion abaty.

Abaty Ystrad Fflur, Mynyddoedd Cambria, Canolbarth Cymru

Coed y Bont. Safle Darganfod Awyr Dywyll arall, a lleoliad gwych ar gyfer gweld y Llwybr Llaethog yn ffurfafen y nos – golygfeydd perffaith a dim llygredd golau. Mae llwybrau hyfryd drwy’r goedwig yma hefyd, dan ofal balch y gymuned leol.

Cysgod yn y goedwig.

Llecyn i orffwys wrth gerdded o gwmpas coedwig Coed y Bont

Mae gan Bont-rhyd-y-groes hanes a threftadaeth yn y diwydiant mwyngloddio plwm, a gallwch weld yr olwyn ddŵr yn dal i droi yn y pentref. Oddi yma, gallwch ymweld â harddwch Ystâd yr Hafod, yn llawn o lwybrau cerdded a beicio, rhaeadrau, ogofeydd a hyd yn oed fan ble gallwch gerdded drwy ogof a gweld y dŵr yn ffrydio’r ochr arall.

Rhaeadr yn ffrydio drwy ogof.
Olwyn ddŵr fawr.

Rhaeadr yn ffrydio drwy ogof ar Ystâd yr Hafod a’r olwyn ddŵr ym mhentref Pont-rhyd-y-groes

Pontarfynach. Mae’n debyg fod y diafol wedi ymweld â’r safle a cheisio twyllo menyw leol i roi’i henaid iddo. Achubodd hi’r blaen arno, a’r pris yr oedd yn rhaid i’r diafol ei dalu oedd adeiladu pont iddi hi. Dyna esbonio enw Saesneg y lle, Devil’s Bridge. Heddiw, gallwch groesi un o dair pont ar y safle, mwynhau’r rhaeadrau gwych a hyd yn oed wylio’r gwneuthurwr siocled lleol, Sarah Bunton, yn creu’i siocled.

Menyw ar lwyfan gwylio yn edrych ar raeadr.
Darn o siocled tywyll gyda 'Cambrian Mountains' arno mewn siocled gwyn.

Edrych ar yr olygfa o’r rhaeadrau a siocled blasus ym Mhontarfynach

Ponterwyd. Gallwch gyrraedd y dref farchnad fach drwy fynd drwy safle Coedwig Genedlaethol Cymru arall, sef Coedwig Bwlch Nant yr Arian. Mwynhewch lwybrau beicio mynydd a cherdded, pyllau a llynnoedd bach, yn ogystal â’r Safle Bwydo Barcutiaid Coch poblogaidd. Gwyliwch wrth i heidiau o hyd at 200 o farcutiaid blymio drwy’r awyr uwch eich pen, yn chwilio am ginio. Dyma brofiad anhygoel y mae’n rhaid ei weld i’w goelio.

Barcutiaid coch yn hedfan rhwng coed ac o gwmpas llyn.

Barcutiaid coch yn plymio’n osgeiddig i gydio mewn byrbryd yn y ganolfan fwydo

Pumlumon Fawr. Dyma gopa uchaf Mynyddoedd Cambria, yn 752 metr (2,468 troedfedd). O’r copa gallwch weld yr Wyddfa a Chader Idris i’r gogledd, Pen y Fan i’r de a holl ehangder Bae Ceredigion i’r gorllewin.

Golwg o’r haul yn codi o ben mynydd.
Golwg o’r haul yn machlud o gopa mynydd.

O doriad gwawr hyd y machlud, mae golygfa hardd i’w chael o ben Pumlumon Fawr

Cwmystwyth. Cwm arall gwych siâp-u sy’n datgan eich bod wedi cyrraedd tirwedd newydd. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd dwristiaid i Gwm Elan, sy’n llawn o gronfeydd dŵr anhygoel, argaeau enfawr a nodweddion naturiol gwych. Cofiwch aros i edmygu’r olygfa!

Y ffordd droellog drwy Gwm Ystwyth

Y ffordd droellog drwy Gwm Ystwyth

Cwm Elan. Ewch i ganolfan ymwelwyr Cwm Elan am luniaeth a gwybodaeth am y Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol (yr unig un yng Nghymru). Mae’n eithriadol boblogaidd gyda seryddwyr, ffotograffwyr astronomaidd ac unrhyw un sydd eisiau gweld y sêr, y planedau a’r cytserau’n glir. Gallech fod yn ddigon ffodus i weld Gwawl y Gogledd o’r fan hon hefyd. Adeiladwyd cwt gwylio’r awyr dywyll yn ddiweddar er mwyn i bobl gael gweld y sêr mewn digwyddiadau mwy ffurfiol.

Comed yn awyr y nos uwchlaw argae.
Dyn ar feic yn beicio yn y mynyddoedd.

Cwm Elan yn y nos a lle hardd ar gyfer beicio mynydd yn ystod y dydd

Mae Rhaeadr yn lle hyfryd i bori yn y siopau, cerdded glannau Afon Gwy, neu bicio i siop goffi neu ystafell de. I’r mwy anturus yn eich plith, ewch ar drywydd y trac pwmp BMX (hyd yn oed os nad oes chwant beicio arnoch chi, mae’n werth ei weld).

Gwarchodfa Natur Gilfach. Teithiwch i gyfeiriad y gogledd orllewin ar yr A470 ar hyd Ffordd Cambria i gyrraedd yma. Gallwch gerdded yn dawel bach ar hyd glan Afon Marteg, ac yn sydyn bydd eog enfawr yn llamu o’r dŵr. Mis Tachwedd yw’r adeg orau i weld hyn.

Llanidloes, y dref gyntaf ar Afon Hafren. Oedwch i gerdded o gwmpas Coedwig Hafren, pedwaredd Coedwig Genedlaethol Cymru yma ym Mynyddoedd Cambria. Os ydych chi’n hoffi tipyn o bysgota neu hwylio cychod, mae Cronfa Llyn Clywedog gerllaw yn lleoliad heddychlon, hyfryd. Cofiwch oedi ger pwynt gwylio Wynford Vaughan-Thomas. Roedd Thomas yn ddarlledwyr Cymreig annwyl oedd yn caru byd natur. O’r wylfan hon gallwch weld holl ysblander Parc Cenedlaethol Eryri.

Yr olygfa o gofeb Wynford Vaughan-Thomas ar lethrau Moel Fadian.
Argae wedi’i gosod yn erbyn cefn gwlad gwyrdd.

Yr argae ar Gronfa Llyn Clywedog a’r olygfa o bwynt gwylio Wynford Vaughan-Thomas

Dylife a Phenfforddlas. Mewn lleoliad perffaith ar gyfer Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr a llwybr hir heriol Ffordd Cambria, mae’r gymuned ogleddol hon yn gyforiog o dreftadaeth ddiwydiannol a chwedlau lleol. Gerllaw, gallwch ymweld â chopa trawiadol FoelFadian (564 metr / 1850 troedfedd) a Gwarchodfa Natur Glaslyn.

Machlud oren hardd.

Golygfa o’r haul yn machlud o gopa Foel Fadian

Cadw’n ddiogel

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio rhagolygon y tywydd a pharatoi eich dillad a’ch offer yn ofalus. Gall mynyddoedd fod yn beryglus yn y niwl, y gwynt a’r stormydd. Ar ddyddiau poeth, bydd angen eli haul a digon o ddŵr.

  • Mae gan Adventure Smart Wales ddigonedd o gyngor ar sut i wneud ‘diwrnod da yn well’ a’n cyngor ni yw y dylech ei ddarllen cyn cynllunio eich antur. 

Dysgu mwy

Straeon cysylltiedig