Wedi sefyll yn syfrdan ger sgydau di-ri, a chrwydro sawl copa ledled Cymru, tybed oes taith genedlaethol arall i’w chyflawni, yn cynnig gwefr a dihangfa yn un? Wel oes a dweud y gwir, ac un sy’n mynnu dim llawer mwy na dwyawr o syllu ar sgrîn! Rhowch y ffôn i’r naill ochr, a’r tabled na heibio; dwi’n sôn am sgrin fawr y sinema. Ceir trysorau ar draws y wlad, digon yn wir i greu cylchdaith cenedlaethol.

Y Llusern Hud, Tywyn

Rwy'n genfigennus o bawb yng nghyffiniau Tywyn, Meirionnydd, oherwydd yno mae'r Llusern Hud, (sydd newydd enill gwobr sinema'r flwyddyn yng ngwobrau BIFA (British Independent Film Awards!) lleoliad hudol sydd hefyd yn trefnu profiadau sinema ‘drive-in’ mewn cae yn Abergynolwyn. Dwi’n mwynhau cadw golwg ar holl arlwy’r sinema ei hun, a leolir mewn neuadd sy’n dyddio o 1893. Mae’r ganolfan boblogaidd yn dangos ffilmiau newydd sbon a thu hwnt i’r sgrîn fawr, ceir bar awyr iach, Yr Ardd Gudd, a phob math o goctels danteithiol ar y fwydlen, gan gynnwys ‘soda floats’ a moctel ‘Moana’ i blant. Oes wir angen holi beth yw cynnwys coctel 007? Un peth sy’n sicr; fe brofwn i sawl ‘Groundhog Day’ yno â phleser! 

Coctel coch a choctel oren gyda gwelltyn a ffrwythau.
Tu fewn sinema'r Llusern Hud Tywyn gyda gwaith celf ar y wal.

Sinema Y Llusern Hud, Tywyn

Gaumont Plaza, Y Fflint

Sinema a ‘achubwyd’ ac a adferwyd yn 2016 yw’r Gaumont Plaza. Yn wir, er yn neuadd bingo am flynyddoedd maith, agorodd fel neuadd bictiwrs yn 1938. Yn rhaglen wreiddiol y Plaza ar ddiwedd y 30au, disgrifiwyd awyrgylch y sinema fel hyn; ‘y ‘peth’ annisgrifiadwy hwnnw, sy’n cludo gweithwyr blinedig o’u bywydau cyffredin i le i anghofio pob pryder.’  Ewch yno da chi i brofi dihangfa go-iawn dros eich hun.

Sol Cinema, Abertawe

‘Y neuadd sinema leiaf yng nghysawd yr haul’ sydd wedi ei addasu o hen garafan o’r 1960au. Ac er mai dim ond lle i 8 sydd yn y sinema fechan hon, yn ôl y perchennog profodd 90,000 o bobol y Sol Cinema dros y ddegawd ddiwethaf. Fel mae’r enw’n awgrymu, caiff y Sol ei bweru gan ynni’r haul, ac mae ar gael i’w hurio ynghyd â theithio i wyliau amrywiol.

Cell B, Blaenau Ffestiniog

Dros y blynyddoedd diwethaf agorwyd sawl sinema ddigidol i blesio sinemagarwyr Gwynedd. Mae canolfan Pontio ym Mangor, Galeri Caernarfon a Neuadd Dwyfor Pwllheli yn denu cynulleidfaoedd o bell. Ond feddylioch chi erioed am wylio ffilm mewn hen gell? ’Nol yn 2007 addaswyd hen orsaf heddlu Blaenau Ffestiniog yn ganolfan gerddoriaeth a chaffi/bar - Cell B. Yna yn 2015 sicrhawyd nawdd pellach i ychwanegu hostel bwtîc a dau sinema ddigidol, sy’n dangos ffilmiau o Gymru a rhai rhyngwladol. Sôn am gaffaeliad i dre’r chwarel  – ni fu sinema yno ers y 60au – gan ychwanegu at amryw atyniadau antur yr ardal

Arwydd gyda'r ysgrifen Bwyta, Yfed, Gwylio, Cysgu.
Cadeiriau cyfforddus tu fewn i sinema CellB.

CellB, Blaenau Ffestiniog

Libanus 1887, Borth

Mae Libanus 1887, hen gapel Gerlan, y Borth, yn atynnu cymaint o ‘foodies’ â ‘ffilm byffs’ gan mai sinema a bwyty yn un yw’r neuadd bictwrs hwn. Mae’r bwyty ar agor rhwng 5-7yh rhwng nos Fercher a Sadwrn, toc cyn dangosiad ffilm newydd fin nos. Yna bob dydd Sul, wedi’r matinée’r prynhawn, mae’r bwyty ar agor am 4. Sôn am nefoedd i ffilmgarwyr... cael trafod y ffilm dros ginio Sul! Ac ar gynnig ar y fwydlen mae’r cynnyrch lleol gorau, o’r tir a’r môr, a chawsiau’r fro – Caws Teifi yn eu plith.

 

Sinema Neuadd y Farchnad, Brynmawr

Ceir sawl sinema diddorol yng nghymoedd de Cymru – Memo Trecelyn, Maxime y Coed Duon a Neuadd Brynaman, yn eu plith.  Ond yr hynaf ohonynt oll – yn wir y sinema hynaf yng Nghymru – yw Neuadd y Farchnad, Brynmawr ym Mlaenau Gwent. Ceir cofnod mai’r ‘ffilm’ gyntaf i’w dangos yno oedd ‘A Boer War Pictorial’, ar y 27ain o Ragfyr ym 1899. Ac er bod manylion Art-Deco yn dal i addurno’r adeilad, derbyniwyd gweddnewidiad cyfoes yn 2015. Atyniad mawr i blant lleol yw’r siop losin cynhwysfawr.

Picturehaus, Manorhaus, Rhuthun

Mae tŷ Sioraidd y Manorhaus yn Rhuthun llawn manylion chwaethus cyfoes. Ar ben hynny, mae'n cynnig bwyd rhagorol a chroeso Cymreig... a hefyd sinema yn y seler! Yn wir, mae yna wastad ddewis da o ffilmiau, hen a newydd, gan fod y Picturehaus hefyd yn gartref i glwb ffilm lleol.

Tu fewn i sinema danddaearol. Mae seti cyfforddus gyda chlustog ar bob un.

Sinema danddaearol Picturehaus, Rhuthun

Everyman, Caerdydd

Digon teg, mae’r Everyman yn perthyn i gadwyn o sinemau o ochr arall y ffin, yn wahanol i sinema leol canolfan y Chapter, Treganna, wnaeth nodi’i ben-blwydd yn 50 yn 2021. Ond o, am gadwyn foethus, llawn cyffyrddiadau chwaethus, gan gynnig adlais o oes aur Hollywood. Ynghyd â phum sinema bychan, yn llawn cadeiriau a soffas melfed, ceir bar a bwyty (lleoliad gret i gael parti) a’r ystafelloedd ymolchi mwyaf moethus yng Nghaerdydd! Mae’r dewis o gynyrchiadau wastad yn ddiddorol yno – cyfuniad o ffilmiau newydd, clasuron a pherlau anibynnol. Ac er nad ydw i’n un i wledda tra’n sawru arlwy’r sgrîn fawr, gallwch archebu ‘Spielburger’ neu goctel ‘Pretty in Pink’ ac fe ddaw gan weinydd at eich sedd toc cyn dechrau’r ffilm.

Theatr y Lyric, Caerfyrddin

Amhosib fyddai hepgor Theatr y Lyric o’r rhestr hon, gan mai’r ganolfan adloniant boblogaidd – un o theatrau Sir Gâr - yw seren y ffilm Save The Cinema. Ond fel nifer o gynyrchiadau tebyg sy’n ‘seiliedig ar hanes go iawn’,  mae stori’r ffilm yn wahanol i safiad y sinema yn 1993. Bu’r Lyric yn hysbysebu ffilm fawr yr haf hwnnw, cyn darganfod na fyddai ‘Jurassic Park’ i’w weld yng Nghaerfyrddin wedi’r cyfan. Wedi creu cynnwrf yn lleol, a chodi disgwyliadau mawr, aeth y reolwraig benderfynol Liz Evans at faer y dref, a gysylltodd yn uniongyrchol â Steven Speilberg! Er mawr syndod i bawb, derbyniodd ei gwmni y neges ‘fax’, gan arwain Universal Pictures i gynnal rhag-ddangosiad o’r ffilm yng Nghaerfyrddin ar yr un noson a’r premiere yn Llundain! Dycnwch, mentergarwch, a joch o hud Hollywood... swnio fel clasur o ffilm i mi!

Mae Lowri Haf Cooke yn adolygydd ffilm sy’n darlledu ar raglenni S4C a BBC Cymru. Dilynwch ei hargymhellion ar Twitter ac Instagram.

 

Straeon cysylltiedig