O neuaddau bwyd a marchnadoedd dan do i faniau a hen gynhwysyddion cludo, mae digonedd o fwyd stryd blasus i’w ddarganfod yng Nghymru. Dyma rai masnachwyr a bwytai, gan gynnwys rhai o ffefrynnau ysgrifenwyr bwyd a chrewyr cynnwys Cymru.

Bwyd stryd yn y Gogledd

Big Dog Pizza, Y Maes, Cricieth

Ar arfordir gogledd orllewin Cymru mae Cricieth, tref lan môr gyda chastell a thraethau euraidd. Tafliad carreg o’r promenâd, mae marchnad fwyd Y Maes food and drink hub yn dod â masnachwyr annibynnol ynghyd.

Mae Big Dog Pizza yn ddewis poblogaidd, yn enwedig y pitsa caws gafr a mêl. Mae eu pitsas i’w cael mewn digwyddiadau ledled Cymru ac maen nhw’n un o ffefrynnau Lisa o North Wales Grub. Mae ganddynt fan bwyd sy’n teithio o Harlech a Phen Llŷn i Borthmadog hefyd.

Rhai o gymdogion Big Dog Pizzas yw Elemental Eats sy’n gweini tacos, nachos a phrydau tymhorol Mecsicanaidd. Hefyd yn Y Maes mae Box Van Burgers sy’n gwneud byrgyrs smash gyda chig eidion Cymreig.

Queen's Market, Y Rhyl

Mae Queen's Market yn y Rhyl yn ganolfan fwyd a siopa, gydag amrywiaeth o fasnachwyr o dan un to. Os ydych chi awydd cyw iâr wedi’i ffrio, adenydd cyw iâr neu sglodion llwythog di-glwten mae The Romi'ng Wolf yn ddewis gwych. Mae mwy i’w flasu yn y farchnad hefyd, gan gynnwys tatws pob Baked & Loaded a blasau’r Dwyrain Canol yn Mariam’s Kitchen.

Dead Good Scran, Tŷ Pawb, Wrecsam

Mae Tŷ Pawb yn cyfuno marchnad, orielau, mannau cymunedol a chwrt bwyd yng nghalon Wrecsam, gyda’r masnachwyr yn amrywio. 

Golygfa awyr o adeilad Tŷ Pawb, Wrecsam.
Ardal fwyta fywiog gyda baneri bach Baner Cymru yn addurno'r gofod, a phobl yn ymlacio wrth fyrddau a chadeiriau.

Tŷ Pawb, Wrecsam

Bwyd stryd Canolbarth Cymru

Hangry Luchas

Mae Hangry Luchas yn dod â bwyd stryd wedi’i ysbrydoli gan Fecsico i Bowys. Mae’r fan fwyd lliwgar, sy’n gwerthu tacos a phwdinau, i’w gael mewn marchnadoedd a digwyddiadau.

The Lime Crab, Cei Newydd

Ger arfordir Ceredigion mae The Lime Crab yng Nghei Newydd, sy’n rhoi tro unigryw ar bysgod a sglodion. Yn ogystal â phenfras a hadog, mae’r fwydlen yn cynnwys sgwid halen a phupur, corgimychiaid tempura a dewisiadau fegan a di-glwten. Bwytwch ger yr harbwr cyn dilyn yr arfordir.

Bwyd stryd y Gorllewin

Marchnad Abertawe

Mae Marchnad Abertawe yn rhan mawr o ddiwylliant bwyd y ddinas. Yma, mae cynnyrch traddodiadol yn bodoli ochr yn ochr â bwydydd o bob cwr o’r byd. Mae Thai Taste yn cynnig bwyd Thai ffres, a Casa Mia yn gwerthu pitsa a phasta steil Napoli Dewiswch bryd o un o’r stondinau, cymerwch sedd a mwynhewch.

Marchnad bwyd prysur
Teulu yn bwyta mewn bwyty

Marchnad Abertawe

Gower Seafood Hut, Y Mwmbwls

Ar bromenâd y Mwmbwls ym Mae Abertawe mae Gower Seafood Hut, sy’n gweini bwyd môr o hen gwt ceffyl. Mae’r fwydlen yn cynnwys corgimychiaid chilli crensiog, goujons lleden, silod mân, calamari, cocos a chranc. Bwyd môr ffres gallwch fwynhau wrth yr arfordir.

Feast Pembrokeshire, Cresswell Quay

Yn arbenigo mewn coginio dros dân agored, barbeciw wedi’i fygu’n araf a chynnyrch lleol, mae platiau Feast Pembrokeshire wedi’u creu i’w rhannu. Mae ei leoliad wrth yr afon yn ei wneud yn lle gwych i eistedd yn ôl a mwynhau. Mae hefyd yn teithio i wyliau a digwyddiadau.

Bwyd stryd De Cymru

Dirty Gnocchi a Bao Selecta, Marchnad Caerdydd

Mae Marchnad Caerdydd yn gartref i rai o fasnachwyr annibynnol y brifddinas. Mae Dirty Gnocchi yn enwog am ei basta caws olwyn tra bod Bao Selecta yn gwneud byns bao cig eidion crensiog. Mae’r crëwr cynnwys bwyd Cerys Atkin, o Cardiff Love List, yn argymell y ddau, gyda Bearded TacoFfwrnes hefyd yn ffefrynnau.

Platform Street Food, Bae Caerdydd

Yng nghanol Bae Caerdydd, mae Platform Street Food yn dod â chasgliad o fusnesau bwyd annibynnol ynghyd o dan yr un to, gan greu cyrchfan fywiog i gariadon bwyd a diod.

Mwynhewch basta ffres wedi’i wneud â llaw yn The Italian Job, neu flaswch gelato crefftus a wneir yn lleol gan Llanfaes Dairy, ynghyd â detholiad o bwdinau moethus, gan gynnwys sundaes hael a thyrrau o wafflau a browni.

Ynghyd â’r bwyd, mae Academy yn gweini cwrw, coctels a choffi mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar. Boed am ginio hamddenol, diodydd ar ôl gwaith neu gyfarfod penwythnos wrth y glannau, mae Platform Street Food yn lle perffaith i ymgynnull a mwynhau blasau gwych ar lan y dŵr.

Ffos Caerffili

Mae Ffos Caerffili yn dod â busnesau ynghyd mewn clwstwr o gynwysyddion cludo ger y castell. Mae Bab Haus, wedi’i sefydlu gan y cogydd Cymreig-Persaidd Leyli, yn arbenigo mewn bwyd stryd wedi’i ysbrydoli gan Fecsico, o quesabirrias a burritos i nachos llwythog, ac mae’n un o argymhellion y crëwr cynnwys Llio Angharad. Gallwch ddod o hyd i Bāb Haus yn  Goodsheds yn y Barri ac ym Marchnad Casnewydd hefyd.

Canolfan siopa unigryw wedi'i hadeiladu o gynwysyddion cludo wedi'u hailddefnyddio, gyda'r enw “Ffos Caerffili” yn amlwg ar yr adeilad.
canolfan siopa wedi’i chreu o gynwysyddion llongau, gyda phlanhigion.

Ffos Caerffili

Goodsheds, y Barri

Ar lan y dŵr yn y Barri, mae Goodsheds wedi rhoi bywyd newydd i hen safle rheilffordd hanesyddol, gan ei droi’n gyrchfan fywiog sy’n llawn bwyd stryd, bariau, siopau annibynnol a mannau creadigol. Ychwanegwch at hynny weithfan gydweithio ffyniannus a chaffi gyrru drwodd annibynnol, a chewch ganolfan gymunedol unigryw wrth galon y glannau.

Ymhlith y busnesau amrywiol yn y Pentref Cynwysyddion, gallwch fwynhau tacos, burritos a nachos llawn blas yn Bab Haus Mex, souvlaki arddull Groegaidd yn Meat And Greek, neu ddanteithion melys gan WhoCult, sy’n enwog am ei doughnuts enfawr wedi’u crefftio â llaw, coffi a Ysgytlaethau moethus.

Gyda digon o seddi awyr agored a’r Academy 297 Rooftop Bar yn cynnig golygfeydd gwych dros y glannau, mae Goodsheds yn lle perffaith i flasu amrywiaeth o fwydydd a diodydd, i gyd mewn un lleoliad bywiog a chyfoes.

Keralan Karavan, Caerdydd

Awydd rywbeth ychydig yn wahanol? Rhowch gynnig ar Keralan Karavan. Mae Kacie Morgan o The Rare Welsh Bit yn argymell y Frankie rolls, disco fries, a tacos Bombay tikka. Mae’r cogydd Pankaj Krishnan wedi bod yn rhan o dirlun fwyd stryd Cymru ers 2015, gan ddod â blasau Kerala i ddigwyddiadau a marchnadoedd.

Lahmacun, Caerdydd

Cychwynnodd Lahmacun yn Nhreganna fel stondin farchnad ond mae ganddo gartref parhaol yn The Boneyard bellach. Mae’r crëwr cynnwys Cassie Robson yn argymell y flatbreads enfawr, subs falafel a barbeciw wedi coginio dros dân coed. Mae cig oen, gafr wedi coginio’n araf, perlysiau, picls a sawsiau cartref yn dod a blas ychwanegol i’r flatbreads.

Brewery Field Street Food, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r blogiwr bwyd Wayne Kamans yn ystyried Brewery Field Street Food yn un o’i hoff fwytai, diolch i’r dewis o gyris, tacos, byrgyrs smash, adenydd cyw iar, sglodion wedi’u llwytho a byns bao. Dewis perffaith ar gyfer grwpiau ble mae pawb awydd rhywbeth gwahanol.

The Hungry Cowboy

Wedi’i leoli yng Nghwmbrân ond yn teithio, mae The Hungry Cowboy yn dod â bwyd wedi ei fygu steil Texas i ddigwyddiadau a phop-ups. Disgwyliwch brisket wedi ei fygu yn araf, sglodion llwythog, nachos a byrgyrs.

Rock & Scallop, Marchnad Casnewydd

Mae neuadd farchnad Fictoraidd Casnewydd yn hwb i garwyr bwyd De Cymru. Ewch i Rock & Scallop am ferwad bwyd môr llawn cynhwysion ffres a sawsiau arbennig.

Gwyliwch allan am y gwyliau bwyd

Does gan rai o fasnachwyr bwyd stryd Cymru ddim cartref parhaol gan eu bod yn teithio rhwng gwyliau, marchnadoedd a digwyddiadau. Edrychwch ar ganllaw gwyliau bwyd a diod Croeso Cymru i weld beth sydd ar y gweill.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig