Dyma fy Nghymru gan Joe a Nina Howden

Nina Howden a’i gŵr Joe yw perchnogion distyllfa cyntaf Sir Fynwy, Silver Circle Distillery. Mae Nina yn wreiddiol o Gothenburg yn Sweden, ond Dyffryn Gwy yw ei chartref erbyn hyn.

Dim ond yn ddiweddar rydw i wedi symud i Gymru - rydw i'n dod o Gothenburg yn Sweden yn wreiddiol. Ond, dros y deunaw mis diwethaf, mae Cymru, a Dyffryn Gwy yn arbennig, wedi prysur ddod yn gartref i fi.

Dair blynedd yn ôl, doeddwn i heb glywed am Ddyffryn Gwy hyd yn oed, ond mae llawer o resymau pam fy mod i'n caru'r lle erbyn hyn. Mae ei sîn bwyd a diod yn sicr yn un o'r prif resymau. Treuliodd fy ngŵr, Joe, ddeng mlynedd yn byw yng Nghaerdydd, ac ar ôl i ni gwrdd pan oedd y ddau ohonon ni'n byw ac yn gweithio yn Berlin, fe wnaeth fy argyhoeddi i symud yma i fyw. Erbyn hyn, rydyn ni wedi ymdrochi'n hunan yn llwyr yn sîn bwyd a diod yr ardal drwy agor distyllfa, Silver Circle Distillery, ym mhentref bach hardd Catffrwd.

Potel o Wye Valley Gin a dau wydr ar y bwrdd
Tu allan i dafarn The Boat Inn, Pen-allt

Silver Circle Distillery a The Boat Inn, Pen-allt

Fel y ddistyllfa gyntaf i agor yn Sir Fynwy, fe aethon ni ati i greu jin oedd yn cyfleu Dyffryn Gwy. Mae ein cynnyrch cyntaf - sydd ag enw addas iawn, Jin Dyffryn Gwy - yn cael ei ysbrydoli gan deithiau cerdded y coetir a'r golygfeydd godidog rydyn ni wedi'u gweld ers byw yma. Mae blodau briwydd bêr melys, ysgawen, dail mwyar duon, briwydd y groes, pinwydd gwyllt a'r gwaglwyf i gyd yn tyfu'n lleol ac yn creu blas coedwig ddeiliog.

Un o'r teithiau cerdded a ysbrydolodd ein rysáit yw Llwybr Dyffryn Gwy, llwybr rydyn ni'n ei gerdded yn aml ar benwythnosau gyda'n dau o blant ifanc. Mae'r llwybr yn cychwyn yng Nghastell Cas-Gwent ac yn dilyn Afon Gwy am 136 milltir drwy'r dyffryn yr holl ffordd i Fynyddoedd Cambria yng Ngheredigion. Rydyn ni'n dueddol o gerdded ar hyd rhan o'r llwybr sy'n mynd drwy dwnnel bach mewn craig sy'n cael ei alw'n Ogof y Cawr. Mae hyn yn arwain at olygfan o'r enw Nyth yr Eryr sy'n edrych dros yr afon. Yn ogystal â bod yn fan hynod o brydferth, gallwch weld yr Afon Gwy, Afon Hafren, Sir Fynwy, Swydd Gaerloyw ac Avon dros yr afon oddi yma. Dyna i chi dair sir, dwy wlad a dwy afon.

Mae un o'n hoff lefydd i fwyta, sef tafarn The Boat Inn ym Mhen-allt, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr gan ei fod wedi'i leoli ar lannau Afon Gwy. Rydyn ni wrth ein boddau'n dod yma ar ôl diwrnod prysur yn y ddistyllfa, yn blasu cwrw casgen lleol, ac weithiau'n mynd i nofio yn yr afon. Yn ogystal â bod yn flasus iawn a llawn cynnyrch lleol, mae'r fwydlen yn cynnig gwerth gwych am arian. Os yw'r tywydd yn braf, ceisiwch fynd i eistedd tu allan gan fod llawer o nentydd a rhaeadrau bach yn amgylchynu'r dafarn, felly bydd sŵn y dŵr yn eich helpu i ymlacio wrth i chi fwynhau diod neu damaid i'w fwyta. Mae ffordd gul yn arwain at y dafarn, ond gallwch barcio yn Redbrook sydd ochr arall i'r ffin a cherdded dros y bont droed Fictoraidd i'r dafarn. Mae tafarn y Boat Inn yn cynnig lle parcio ar gyfer caiacau a chanŵod hefyd, sydd ond yn un o'r pethau unigryw amdani.

Rydyn ni bob amser allan yn chwilota er mwyn arbrofi gyda blasau newydd i'n jin, sy'n golygu ein bod yn teimlo cysylltiad â thirwedd a phrydferthwch Dyffryn Gwy. Mae fferm Humble by Nature, sydd hefyd ym Mhen-allt, yn cynnig cyfle i ymwelwyr ailgysylltu â'r tir a'r awyr agored. Kate Humble, cyflwynydd Springwatch ar y BBC, oedd yn gyfrifol am arbed y fferm weithio hon rhag cael ei chwalu a'i gwerthu yn 2010 ar ôl i'w thenantiaid olaf ymddeol, ac ers hynny mae wedi ychwanegu rhaglen ryngweithiol er mwyn dysgu sgiliau gwledig.

Cadw gwenyn, codi waliau sych, adeiladu ffwrn glai sy'n llosgi pren i goginio pizza, a gofalu am eifr yw rhai o'r cyrsiau ymarferol sy'n cael eu cynnig yno. Mae ganddyn nhw gaffi bach gwych o'r enw Pig & Apple ar y safle hefyd sy'n gweini brecinio, cinio a chacennau cartref fforddiadwy - lle delfrydol i lenwi'ch bol ar ôl diwrnod prysur yn archwilio'r fferm.

Nina a Joe Howden yn eistedd tu allan i fferm Humble by Nature
Nina a Joe Howden gyda moch bach yn fferm Humble By Nature

Nina a Joe Howden gyda'r moch bach ar fferm Humble by Nature ym Mhen-allt, Dyffryn Gwy.

Mae'r cynnyrch bwyd a diod sy'n dod allan o Gymru yn hynod gyffrous, ac rydyn ni bellach yn falch o fod yn rhan o'r diwydiant hwnnw. Un o'r llefydd rydyn ni'n mwynhau ymweld ag ef yn aml, sy'n drysorfa o gynnyrch gorau Cymru, yw Marches Delicatessen. Mae'r ddwy siop, un yn Nhrefynwy a'r llall yn y Fenni, yn gwerthu Marmalêd Coedcanlas o Sir Benfro, Bisgedi Aberffraw, Cigoedd Oer Fferm Trealy o Sir Fynwy, ffa coffi cyflawn neu wedi'u malu gan gwmni Coaltown o Rydaman, medd Dyffryn Gwy a llawer mwy. Rydyn ni wrth ein boddau gyda'r lle yma gan fod y perchnogion yn prynu'n uniongyrchol gan y cynhyrchwyr sy'n golygu bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o'r daith i'w cynhyrchu, rhywbeth sy'n dod yn fwyfwy pwysig i ddefnyddwyr erbyn hyn. Mae'n anodd peidio ag archebu paned a thafell o gacen gartref pan fyddwn ni'n mynd draw hefyd.

Joe a Nina Howden yn Marches Deli
Cynnyrch Cymreig sydd ar gael ym Marches Deli

 Joe a Nina Howden ym Marches Deli yn Nhrefynwy gyda chynnyrch o Gymru sydd ar gael yno.

Fel pobl cymharol newydd i'r ardal, rydyn ni wedi gallu defnyddio'r busnes i gysylltu â'n cymuned leol, a throi blaen y ddistyllfa yn gaffi a gofod bach ar gyfer digwyddiadau. Rydyn ni ar agor i'r cyhoedd bob dydd Iau ac yn rhoi teithiau i ddangos i bobl sut rydyn ni'n cynhyrchu Jin Dyffryn Gwy. Mae'r tirlun yn ysbrydoli ein gwaith bob dydd, fel sy'n wir am lawer o gynhyrchwyr bwyd a diod sy'n byw ac yn gweithio yn Nyffryn Gwy.

Mae Jin Dyffryn Gwy ar gael i'w brynu:

 

Pam ydych chi’n caru Cymru? Rhannwch eich stori gyda ni gyda’r hashnod #FyNghymru ar Instagram am y cyfle i ymddangos mewn un o’n hysbysebion. 

Gwelwch yma am delerau ac amodau.

Llun o Wyndcliff, wedi ei dynnu o olygfan Nyth yr Eryr

Nyth yr Eryr yn edrych i lawr ar Wyndcliff, Dyffryn Gwy

Straeon cysylltiedig