Mae'r Mwmbwls ar drothwy Penrhyn Gŵr, yn gartref i'r gantores Bonnie Tyler a hefyd – pan mae hi adref yn ei hannwyl Gymru – yn gartref i Catherine Zeta Jones a'i theulu.

Ble mae'r Mwmbwls?

Mae'r Mwmbwls ar arfordir Bae Abertawe, ac yn fan hyn mae Penrhyn Gŵyr yn dechrau, yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf i'w dynodi yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Mwmbwls yn fan cychwyn perffaith ar gyfer ymweld â thraethau Penrhyn Gŵyr, boed gyda char neu fel arall. Os am gerdded, dechreuwch yn harddwch Bracelet Bay ac yna dilynwch Lwybr Arfordir Cymru trwy Bae Rotherslade a Bae Langland. Mae'r ddau tua 20 munud ar droed yn ôl i’r pentref.

dyn ar feic gyda pier ac arfordir yn y cefndir.
arwydd dwyieithog 'welcome croeso Mumbles'.

Y Mwmbwls, Abertawe

Oes castell yn y Mwmbwls?

Yng nghanol y Mwmbwls mae Castell Ystumllwynarth, ar ben y bryn ac wrth gerdded ei furiau ceir rhai o'r golygfeydd gorau o Fae Abertawe. Gallwch ymweld â'r castell a dysgu am ei hanes diddorol, o'i sefydlu yn y 12fed ganrif hyd at y cyfnod pan oedd yn eiddo i'r Frenhines Alina de Breos, ar ôl iddi hi gael ei rhyddhau o Dŵr Llundain. Yn ddiweddar, yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol, mae'r capel a grëwyd ganddi wedi cael ei agor i'r cyhoedd. Mae tir y castell yn fan delfrydol am bicnic; gallwch brynu ychydig o ddanteithion o'r deli ger llaw, Olives & Oils . Yn yr haf cynhelir Mumbles Fest, gŵyl gerddoriaeth a bwyd flynyddol, ar dir y castell.

Mynedfa ar flaen castell bychan.

Castell Ystumllwynarth, Bae Abertawe

Pethau i'w gwneud yn y Mwmbwls

Pier y Mwmbwls

Cynlluniwyd Pier y Mwmbwls, a agorwyd yn 1898, fel pier pleser Fictoraidd. Pleser a mwynhad yw ei brif ddiben heddiw hefyd, ond ar ffurf fwy cyfoes – y Beach Hut Cafe, caffi golau braf sy'n cynnig popeth o frecwast llawn i bysgodyn fegan a sglodion, arcêd ddifyrion ac ystafell chwaraeon, yn ogystal â gigiau rheolaidd a disgo plant. Mae grisiau yn arwain i lawr o'r pier i draeth bychan tywodlyd, lle delfrydol i archwilio'r pyllau yn y creigiau pan mae'r llanw'n isel. A phan mae'r llanw'n isel – ar ôl sicrhau na fydd yn troi yn fuan – mae posib cerdded i'r ddwy ynys a roddodd eu henw i'r Mwmbwls. Ymddengys fod y rhain (ym marn rhywun!) yn debyg i ddwy frest, neu 'mamelles' yn Ffrangeg, a hynny'n rhoi'r gair Mwmbwls.

Pier yn ymestyn allan i fae.
rhan o'r llwybr estyllod a chanllaw y pier, gyda golygfa o draeth a bryn yn y cefndir.

Pier y Mwmbwls, Abertawe, Gorllewin Cymru

Goleudy Mwmbwls

Ar yr ynys bellaf mae Goleudy Mwmbwls, adeilad eiconig, sydd i'w weld ar sawl cerdyn post a llun Instagram o'r ardal. Mae'r olygfa o'r goleudy o Bracelet Bay yn arbennig o dlws, ac os ydych chi'n teimlo'n llwglyd mae posib ei mwynhau o The Lighthouse, bwyty gwych ar gyfer teuluoedd neu ar gyfer pryd rhamantus.

Y promenâd a Thrên Bach Bae Abertawe

Y Promenâd yw'r man lle y ceir llawer o'r hwyl a'r sbort yn y Mwmbwls. Mae posib ei fwynhau trwy gerdded, trwy reidio beic – gellir llogi beiciau Santander – neu ar Drên Bach Bae Abertawe. Mae’r trên, sydd â lle i 72 o deithwyr, yn rhedeg rhwng Lido Blackpill a Gerddi Southend: gall y plant adael y trên i fynd i nofio yn un pen ac, yn y pen arall, mae yna gae chwarae, golff gwirion a bwytai Oyster Wharf. Mae Gin & Juice yn sicr o blesio y rhai sy’n gwirioni efo coctels a'u syfrdannu gyda'r golygfeydd o ben y to, tra bydd awyrgylch ymlaciol y Croeso Lounge yn plesio teuluoedd. Yng Ngerddi Southend mae'r Gower Seafood Hut, sydd wedi ennill gwobrau, yn le delfrydol i gael platiaid tecawê o gocos lleol neu gorgimychiaid tsili wedi’i olchi i lawr gyda chwrw o'r Tŷ Cwrw. Gan fod posib gadael ac ailymuno â'r trên bach, beth am ei adael am ychydig i gael hufen iâ yn Ripples? Neu gerdded yno, taith fer ar hyd y Prom o bentref y Mwmbwls. Mae Dennis Dwyer, y perchennog, yn gwneud ei holl hufen iâ yn hollol ffres, ac mae scŵp o'r sorbed mango neu'r hufen iâ cnau pistasio ymysg y gorau y tu hwnt i'r Eidal, a'r golygfeydd ar draws y bae yn ddiguro. Neu wrth gwrs mae hufen iâ hynod flasus a bythol boblogaidd Joe’s Ice Cream Parlour.

menyw a merch yn cerdded ar hyd promenâd.
Coeden geirios yn llawn blodau pinc mewn parc.

Y Promenâd a Gerddi Southend, Y Mwmbwls

Bwyta ac yfed yn y Mwmbwls

Yn ogystal â'r hufen iâ mae'n syndod cymaint o wahanol fwydydd arbennig sydd i'w cael mewn lle mor fach. Heol Newton yw'r brif stryd sydd yn mynd ar i fyny o'r Prom, a dyma lle ceir llawer o'r mannau i fwyta ac i siopa. Lle cymharol newydd yw'r Fat Cow, bwyty byrgyrs gyda chelf liwgar ar y waliau, diolch i oriel Bull Jam gerllaw. Ychydig oddi ar Heol Newton mae Boo’s Kitchen, bwyty trendi sy’n berffaith ar gyfer cinio neu frecwast llysieuol. Ychydig ymhellach mae Microlot, siop goffi fechan dwt, ddim llawer mwy na thwll yn y wal ond gyda chwpl o lefydd i eistedd y tu mewn a thu allan a gwylio'r byd yn mynd heibio. Mae'r coffi'n wych, ac mae hynny hefyd yn wir am chwaer fawr y teulu, y Mumbles Coffee shop, sy'n swatio yn yr arcêd oddi ar Heol Newton. Yno gellir mwynhau coffi, chai a chacen wrth ymlacio ar y soffas, neu eu prynu o'r hatsh i fynd efo chi.

Siopa yn y Mwmbwls

Arhoswch ar Heol Newton ar gyfer llwyth o siopau bach annibynnol, yn ogystal â thoreth o siopau elusen ar gyfer y rhai sydd yn hoffi pethau ail-law. Ym mhen uchaf y ffordd mae'r siop lyfrau annibynnol Cover to Cover. Y drws nesaf ond un mae'r Oyster Gallery, siop sy'n gwerthu nwyddau cartref, anrhegion a gwaith celf ar thema'r môr. Dros y ffordd mae Adelanté, siop newydd sy'n gwerthu dillad merched, eitemau hwyliog i blant, a dillad a nwyddau cartref o'r blynyddoedd a fu. Mae Closeout yn baradwys i syrffwyr a sglefrfyrddwyr, ac mae yno lawer o frandiau ecogyfeillgar a dillad nofio hyfryd.

Straeon cysylltiedig