Prif gyrchfan bwyd Cymru

Os oes un peth sy’n gosod Sir Fynwy ar wahân fel lleoliad dwristiaeth yn y rheng flaen, yna’r dewis anhygoel o amrywiol a bywiog o fwyd yw hwnnw.

Mae Sir Fynwy’n mwy na chyflawni’r baich a ddaw gyda’r teitl o brif gyrchfan bwyd Cymru. Nid yw cynnal gŵyl fwyd blynyddol fwyaf y DU, yn Y Fenni, yn ddigon – mae hefyd yn parhau i ychwanegu at ei restr o gynhyrchwyr lleol gydag enwau newydd ym maes pobi, bragu, distyllu a chreu medd yn dod i’r amlwg drwy’r amser.

Grŵp o bobl yn gwylio cogydd yn paratoi bwyd
Bwydlen ar ochr stondin fwyd

Gŵyl Fwyd Y Fenni

Ar ôl defnyddio’r un dulliau eplesu traddodiadol am fwy na chanrif, mae Wigmore's Bakery yn Nhrefynwy’n sefydliad Cymreig, tra bod yr Angel Bakery yn y Fenni’n gweini cyfuniad blasus o nwyddau toes a choffi. Ymysg cynhyrchwyr lleol eraill ag enw da iawn mae’r Preservation Society (catwadau, suropau a jamiau lleol) a Brooke’s Wye Valley Dairy Co (hufen iâ a chaws crefft Cymreig).

Un o’r cynhyrchwyr mwyaf newydd yw The Crafty Pickle, sy’n creu sauerkraut a kimchi figan blasus (gyda chanran o bob gwerthiant yn mynd at ymgodymu ag ansicrwydd bwyd).

Medd melys, melyn…

Yn y chweched ganrif, dyma oedd diod y ‘gwŷr a aeth i Gatraeth’, ond mae medd yn dod yn boblogaidd unwaith eto diolch i Wye Valley Meadery, sy’n cynaeafu mêl o’u cychod gwenyn eu hunain i roi gwedd newydd ar rysáit hynafol iawn.

Os yw cwrw cyflawn yn fwy at eich dant, cofiwch chwilio am Untapped Brewing Co a Kingstone Brewery, neu trowch at Apple County Cider ger Ynysgynwraidd i brofi doniau’r cynhyrchydd seidr arobryn Ben Culpin. Cofiwch hefyd am ficro-ddistyllfa Silver Circle, sy’n gartref i lu o wirodydd a choctels, a’r White Hare ym Mrynbuga.

Fydden ni ddim yn gweld bai arnoch am beidio â meddwl am win ar unwaith pan fydd rhywun yn crybwyll Cymru, ond mae gan Sir Fynwy bedair gwinllan. At hynny, daeth gwinllan White Castle yn ddiweddar yn gynhyrchydd gwin cyntaf Cymru i ennill aur yng Ngwobrau Gwin Byd-eang Decanter am eu pinot noir reserve 2018.

Bwyd Cymreig o’r safon uchaf

O blith y pum seren Michelin a geir yng Nghymru ar hyn o bryd, mae Sir Fynwy’n gartref i ddwy. Bu The Walnut Tree Inn yn gonglfaen i fwyd gorau Cymru ers i’r cogydd profiadol Shaun Hill gymryd yr awenau yn 2008. Mae’r ffaith i’r bwyty ddal gafael ar y seren Michelin dros y naw mlynedd ddiwethaf yn dyst i greadigrwydd di-ben-draw Shaun.

Y cogydd Chris Harrod, a aeth mor bell â rownd gloddest rhaglen Great British Menu 2018, fu’n arwain The Whitebrook er mawr glod, a than seren Michelin hefyd. 

Ymestyn eich coesau

Ar ôl yr holl fwyd yna bydd angen llosgi ambell galori. Ffurfiwyd y dirwedd yn y rhan hon o’r byd gan ddŵr felly mae digon o gyfle i nofio’n wyllt ac mewn dŵr agored (byddwch yn ddiogel ac ystyriwch sesiwn dywys gyda Swim Wild Wye). Mae Inspire2Adventure, a leolir yn Nhrefynwy, yn cynnig amryw weithgareddau ar dir a dŵr yn amrywio o badl-fyrddio ar eich sefyll (SUP) a chaiacio i sgramblo mewn ceunentydd a dringo creigiau. Ewch yn ddyfnach i’r goedwig i roi cynnig ar yoga’r goedwig neu Shinrin Yoku (ymdrochi fforest Japaneaidd) gyda Forest Retreats.

Dyma wlad wych i gerdded ynddi hefyd, a daeth Sir Fynwy’n fwyfwy poblogaidd yn ystod misoedd yr hydref ymysg coed-garwyr. Mae llwybr maith Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa’n hollti’n igam ogam drwy’r wlad, gan gynnig golygfeydd ysblennydd dros Ddyffryn Gwy o Gas-gwent a Thyndyrn i Drefynwy, yn ogystal ag i gyfeiriad y Mynyddoedd Du i’r gogledd.

Mae llawer mwy i’ch ysbrydoli i gerdded ar gael drwy dudalen gerdded Croeso Sir Fynwy.

Mae Sir Fynwy hefyd yn lleoliad gyda’r gorau ar gyfer syllu ar y sêr – ceir pum Safle Darganfod Awyr Dywyll swyddogol yma, a thri ohonynt yn gestyll (Y Fenni, Cil-y-coed ac Ynysgynwraidd).

Cyfoeth o hen hanes

Dyma dirwedd sy’n gyforiog o hanes ac, fel y gallech ddisgwyl gan fan geni Harri V, mae’n gartref i naw castell. Dylai pawb sy’n mwynhau hanes roi cynnig ar lwybr cerdded y Tri Chastell, llwybr cylchol 19 milltir o hyd sy’n cysylltu cestyll canoloesol Grysmwnt, Ynysgynwraidd a’r Castell Gwyn.

Abaty Tyndyrn wedi’i amgylchynu â choed

Abaty Tyndyrn, Sir Fynwy

Gan fwrw cysgod hir dros lannau Afon Gwy, mae adfeilion ysblennydd Abaty Tyndyrn yn rhoi cipolwg ar y mawredd pensaernïol fu yma gynt – a ysbrydolodd fawrion fel Wordsworth a Turner yn eu tro. Yn yr un modd, mae’n glir i bawb sy’n ymweld ag adfeilion 900 mlwydd oed Priordy Llanddewi Nant Hodni pam yr ystyrid hwn yn un o adeiladau gorau Cymru’r Oesoedd Canol.

Arfer eich creadigrwydd

Mae sawl busnes lleol yn cynnig cyrsiau a gwersi ymarferol, boed hynny mewn pobi bara gyda’r Abergavenny Baker, fforio gwyllt a chadw gwenyn gyda Humble By Nature neu greu eich persawr eich hun gyda Monmouth Botanicals.

Aros noson

Mae gan Whitebrook ystafelloedd ar y safle, a cheir eiddo hunan-arlwyo wrth ochr y Walnut Tree os na allwch oddef bod yn rhy bell o gegin y naill le neu’r llall. Enwyd Gwesty’r Angel, y Fenni, yn un o 100 prif westai’r DU tra bo The Bell at Skenfrith a Gwesty Priordy Llanddewi Nant Hodni ill dwy yn y Good Hotel Guide.

Gwell gennych gysgu dan y sêr? Mae gan Hidden Valley Yurts grŵp bach o Yurts Mongolaidd ar lan nant fach. Ymysg dewisiadau anarferol eraill mae’r pebyll Alachigh moethus yn Glampio Penhein a phebyll cynfas perffaith i deuluoedd yn Seven Hills Hideaway.

Pod glampio ynghudd yn y goedwig
Gwely gyda bwrdd ochr mewn pod glampio

Glampio Penhein

Straeon cysylltiedig