Edlwyd Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro

Mae cyrraedd yng nghornel fechan Tyddewi a gweld eglwys gadeiriol mor olygus yn dipyn o brofiad. Ganrifoedd yn ôl, roedd Tyddewi’n ganolfan bwysig i bererinion a theithwyr, a’r ddinas yn cael ei defnyddio’n fan croesi rhwng Cymru, Lloegr ac Iwerddon. Mewn gwirionedd, arferid ystyried bod dwy bererindod i Dyddewi cystal ag un i Rufain ei hun. A rhaid cofio’r dyn a roes ei enw iddi: ein nawddsant rydym ni'n ei ddathlu o hyd yn llawn hwyl ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae yma ddigonedd o drysorau hynafol. Er enghraifft, y wal uchel o’r 14eg ganrif a godwyd o gwmpas ‘dinas’ y gadeirlan, y cloestrau a adnewyddwyd, a’r cysegr a’r cerfiad carreg o Ddewi Sant ei hun. Ceir hefyd Borthdy’r Tŵr, sy’n gartref i arddangosfa hyfryd o hanes y safle, y Clochdwr canoloesol a’r Garreg Abraham o’r 12fed ganrif (yn coffáu un o esgobion cynharaf y gadeirlan). Mae Trysordy’r Gadeirlan yn llawn o gyfoeth hefyd - a hynny’n llythrennol. Mae modrwyon esgobion â’u rhesi o amethystau, ffyn euraid crand, a darnau arian canoloesol oll yn pelydru yma.

Cynhelir teithiau rheolaidd o’r gadeirlan gan wirfoddolwyr ymroddedig bob dydd Llun a Gwener yn ystod pob haf, a gellir trefnu eraill y tu allan i’r oriau hyn (e-bostiwch am ragor o fanylion). Mae caffi’r Ffreutur drws nesaf hefyd yn gweini cinio blasus yn ei safle modern heulog. Argymhellwn yn frwd y cawl blasus.

Image of St Davids Cathedral in the background and a field and trees in the foreground
Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Ffynnon Santes Non, Bae Santes Non, Sir Benfro

Yn heddychlon uwchben Bae Santes Non, filltir o Dyddewi, saif Santes Non ei hun - mam fendigaid Dewi Sant. Dywedir bod y ffynnon sanctaidd hon wedi tarddu pan roes Non enedigaeth i’w mab, ac mae ei lleoliad yn cynnig golygfeydd hudolus o’r morlin creigiog. Llecyn hyfryd, heddychlon ydyw ar Lwybr Arfordir Sir Benfro (rhan o'n Llwybr Arfordir Cymru arbennig, ac mae’n werth crwydro yno am awr i ffwrdd o’r dref. Mae capel modern, braf wrth ymyl y ffynnon yn cael ei gadw ar agor i ymwelwyr hefyd.

View this post on Instagram

#capelnon

A post shared by Rhidian Evans (@rhidso) on

Abaty Llandudoch, Sir Benfro 

Abaty o’r 12fed ganrif yw Abaty Llandudoch, a hwnnw mewn safle bendigedig, ar lannau Afon Teifi, ger man cychwyn Llwybr Arfordir Sir Benfro. Fileniwm yn ôl, roedd hefyd yn bwerdy ysbrydol a diwylliannol, ac yno lyfrgell heb ei hail. (Mae un o’i llyfrau cynharaf, sef Historia Ecclesiastica Eusebius o’r 13eg ganrif, i’w weld o hyd heddiw yn St John’s College, Caergrawnt). Mae’n rhad ac am ddim i ymweld heddiw, ac mae teimlad godidog wedi goroesi wrth i chi grwydro’r adfeilion.

Rhowch o’ch amser yn Llandudoch i ymweld â’r Cartws braf drws nesaf, gyda’i amgueddfa ryngweithiol a chasgliad o gerrig Cristnogol o’r 9fed a’r 10fed ganrif. Mae yma gaffi gwych hefyd, lle mae cranc Sir Benfro, cimwch Môr Iwerddon a chawsiau organig Cenarth yn ymddangos yn rheolaidd ar y fwydlen. A pheth arall: dewch yma ar fore Mawrth, i weld Marchnad Cynnyrch Lleol Llandudoch; mae’r farchnad wythnosol hon wedi ennill llu o wobrau. Ceir cigoedd oer, gwinoedd a chrefftau pren lleol ymhlith y bwyd mwy cyffredin ar fwy nag 20 o stondinau. Dewch â bagiau siopa - a boliau - gwag.

Os hoffech ragor o ddanteithion, mae un o'r unig ddwy felin weithredol yng Nghymru gerllaw hefyd. Yn y Felin, mae’r peiriannau gwreiddiol o ddechrau’r 19eg ganrif yn dal i weithio, a gwneir blawd blasus wedi’i falu â maen yno hyd heddiw. Mae teithiau tywys ar gael bob dydd Llun i ddydd Sadwrn.

Sant Eloi, Llan-lwy, Sir Benfro

Mewn pentref bychan i’r gogledd o Niwgwl, mae’r trysor hwn o’r cyfnod Celfyddyd a Chrefft yn swatio. Mae'n eglwys gafodd ei hailadeiladu yn y 1920au o adfeilion y 12fed ganrif. Roedd ei phensaer, John Coates Carter, wedi gwirioni ar y rhan hon o Gymru, a hynny’n haeddiannol. Fel mae'n digwydd, ef hefyd ddyluniodd y fynachlog ar Ynys Bŷr

Gan ddefnyddio deunyddiau lleol a motiffau Celtaidd yn ei waith, cyflawniad mwyaf Carter yn Sant Eloi oedd ei sgrin allor liwgar, addurnol. Mae’n cynnwys enfys yn ymestyn rhwng cestyll Cymreig euraid, dros yr Iesu a dau angel, ac fe’i hadferwyd yn ddiweddar i’w llawn harddwch. 

Llys yr Esgob, Llandyfái, Sir Benfro

Byddai esgobion canoloesol yng Nghymru yn cael gwyliau braf iawn o’u bywyd go iawn yn yr union lecyn hwn. Roedd moethusrwydd Llys yr Esgob Llandyfái yn encilfa i ddynion crefyddol o statws, a’i neuadd fawr o’r 14eg ganrif yn 25 metr trawiadol o hyd. Rhaid bod y wlad o amgylch yn cynnig perffaith hedd iddynt oll. Heblaw bod y sïon yn wir: dywedir bod cân lleianod yn aflonyddu ar yr adfeilion hyd heddiw.

Lamphey Bishop's Palace
Llys yr Esgob, Llandyfái, Sir Benfro

Capel Sant Gofan, Bosherston, Sir Benfro

O ran hanesion ysbrydol, mae chwedl Sant Gofan heb ei hail. Roedd Gofan ar ei ffordd i Gymru, yn ôl y chwedl, pan ymosododd môr ladron Gwyddelig arno oddi ar arfordir Sir Benfro. Rhedodd i’r clogwyn hwn, lle trodd y graig yn ogof, gan roi lloches a diogelwch iddo. Penderfynodd aros yno am weddill ei oes i roi diolch, gan sefydlu meudwyfa, a byw oddi ar y tir o’i gwmpas. Dywedwyd hefyd fod gan ffynnon gerllaw briodweddau hudolus. 

Adeiladwyd capel carreg bychan yn y man hwn yn y 13eg neu’r 14eg ganrif. Mae Capel Sant Gofan yn mesur tua 20 troedfedd wrth 12, ac yn cynnwys dim ond mainc ac allor fach. I’w gyrraedd, rhaid i chi gerdded i lawr rhyw saith deg o risiau serth, ond anghofiwch chi byth mo'r profiad - ac yn ôl y chwedl nid yw’r nifer o risiau byth yr un fath ar y ffordd i fyny ac i lawr. Felly cofiwch gyfrif.

(Sylwch cyn ymweld: mae’r ffordd i Sant Gofan yn mynd drwy faes tanio’r MOD ac weithiau mae ar gau, felly ffoniwch Lyfrgell a Chanolfan Groeso Sir Benfro i holi ymlaen llaw).

Ynys Bŷr, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Y tro cyntaf i chi edrych allan i’r môr yn Ninbych-y-pysgod, byddwch chi’n credu bod eich llygaid yn eich twyllo – ond dydyn nhw ddim. Yn wir, mae yna abaty enfawr ar yr ynys honno a welwch hanner milltir oddi ar yr arfordir, a hwnnw wedi’i adeiladu yn y traddodiad Celfyddyd a Chrefft Eidalaidd. Mae mynachod Sistersaidd yn dal i fyw ac addoli yno. O’r Pasg i fis Hydref, gallwch fynd draw ar gwch i ymweld â nhw.

Mae gan Ynys Bŷr ddigon o drysorau hardd i lenwi diwrnod. Gallwch ymweld â’r hen Briordy hanesyddol ei hun, y goleudy a thraethau hyfryd yr ynys, a hefyd prynu’r persawr a’r siocledi cain sy’n cael eu gwneud gan y mynachod. Os hoffech chi gael mwy o brofiad o fywyd ysbrydol yr ynys, mae St Philomena's Retreat House ar agor i grwpiau wedi’u trefnu, yn cynnig llety prydau llawn a bwyd llysieuol blasus.

Image of Caldey Abbey
Ynys Bŷr, Dinbych-y-pysgod

Capel Burnett's Hill, Martletwy, ger Arberth, Sir Benfro

Capel Methodistaidd gwerin a godwyd gan lowyr Sir Gâr yw Burnett's Hill, ac mae’n ganolfan i’r gymuned leol o hyd. Ceir cerddoriaeth fyw yma bob mis, a bandiau gwerin, blues a jazz yn teithio i’r man gwledig hwn o bedwar ban. Yn ddiweddar, mae bandiau o’r Unol Daleithiau, Ffrainc a Serbia wedi trefnu dod. Gair i gall gan y gymuned hefyd: dewch â chlustogau i’r eisteddleoedd, a thortsh bach er mwyn dod o hyd i’ch car wedyn (rhaid parcio mewn cae gerllaw). 

Mae’r adeilad ei hun yn hardd, ac wedi goroesi bron heb newid ers 1812. Ceir pegiau het ar y waliau o hyd, ac adroddir hanes y glowyr a’i hadeiladodd yn y porth. Mae’n ddigon i wneud i’ch calon ganu.

Meudwyfa Mandala, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin

Nid bro Cristnogaeth anghydffurfwyr yn unig mo Sir Gâr. Mae hefyd yn gartref i Feudwyfa Mandala – un o’r unig feudwyfâu iogig y tu allan i India.

Daeth Swami Nishchalananda i’r gornel wyllt, brydferth hon o Orllewin Cymru ym 1985, a sefydlu’r feudwyfa ysbrydol hon mewn hen dŷ cwrdd gweddi. Nid oedd ynddi ddŵr tap ar y pryd hyd yn oed. Erbyn hyn, mae ganddi ystafelloedd cymunedol syml gyda’r holl gyfleusterau modern, a chynigia dri phryd bwyd llysieuol y dydd, o gwmpas sesiynau ioga a myfyrdod. 

Nid yw meudwyfâu’n gysylltiedig ag unrhyw gredoau crefyddol penodol, ac mae croeso i bob grŵp sy’n agored i syniad ysbrydolrwydd. Amrywia’r gost o £30 y nos i £495 y mis, ond mae consesiynau ar gael hefyd. Mae’r golygfeydd panoramig o orllewin Bannau Brycheiniog hefyd yn lleddfu’r enaid.

Sant Teilo, Llandeilo

Gellir canfod hanes y Gymraeg ei hun ar dir hyfryd eglwys blwyf Sant Teilo. Yma oedd cartref gwreiddiol Llyfr Efengyl Llandeilo, llawysgrif Feiblaidd addurnedig hardd o’r 8fed ganrif, sy’n cynnwys rhai o’r esiamplau cynharaf o lawysgrifen Gymraeg yn ei hymylon. 

Mewn lle arddangos o dan y tŵr canoloesol hyfryd, mae copi digidol o’r llyfr i’w weld (symudwyd y gwreiddiol i Gadeirlan Lichfield yn yr 11eg ganrif). Mae rhannau hŷn yr eglwys wedi gwrthsefyll cryn dipyn hefyd, gan gynnwys tanau yn ystod gwrthryfeloedd Cymru yn y 14eg ganrif, a dinistr rhannol gan filwyr Iorcaidd yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod. Ar gyrion deheuol tref farchnad hyfryd Llandeilo, mae ar agor ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 11yb a 1.30yh, a bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 11yb a 4yh.

Tabernacl, Treforys, Abertawe

Mae yna gapeli Cymreig trawiadol, ac yna mae harddwch mawr y Tabernacl, a adeiladwyd yn y dref ddiwydiannol hon ger Abertawe ym 1872. Aeth ei weinidog, William Emlyn Jones, â phensaer a chontractwr lleol ar daith o Brydain i gymryd nodiadau o fanylion cain ar gapeli eraill: ffrwyth hyn oedd un o’r capeli mwyaf a drutaf a adeiladwyd yng Nghymru erioed. 

Saif y Tabernacl ar lechwedd ysgubol, ac wyth colofn Gorinthaidd drawiadol wrth y fynedfa. Y tu mewn, mae’n ddigon i’ch syfrdanu gyda'r oriel gôr yn plymio am i lawr, a’r organ nodedig â thri chas. Gellir gwneud apwyntiad i weld y tu mewn i’r capel drwy ffurflen gyswllt ar wefan y Tabernacl, ond mae’n fan addoli gweithgar o hyd, sy’n cynnal gwasanaethau rheolaidd. Ceir cyngherddau yma hefyd, gan y côr capel cymysg sydd wedi ymgartrefu yma. Clywed y Gymraeg yn atseinio'n ogoneddus yn y man hardd hwn yw’r agosaf y cewch chi at Dduw, medd rhai. 

Eglwys Llangynydd, Abertawe

Trowch eich cefn am ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru i ymweld ag eglwys ganoloesol fwyaf Penrhyn Gŵyr, Llangynydd, sy’n arglwyddiaethu dros y pentref syrffio prydferth hwn.

Mae’r eglwys, sy’n rhan o Lwybr Eglwysi Gŵyr, yn dyddio’n ôl i lan neu fynwent o’r 6ed ganrif, ac, yn ddigon o syndod, mae’n cadw ei hôl troed gwreiddiol. Camwch i mewn i weld delw gerfiedig drawiadol o farchog o’r 13eg ganrif, y tybir ei fod yn un o deulu lleol De la Mare, ac olion porth canoloesol i gloestrau’r priordy drws nesaf a ddymchwelwyd ers amser maith. Ceir hefyd garreg fedd o’r 9fed ganrif â cherfiadau clymwaith hyfryd, y credir ei bod wedi nodi bedd Sant Cynydd ei hun.

Bydd rhywbeth o ddiddordeb yma hefyd i’r rheini sy’n hoff o drysorau mwy modern. Mae cerfiadau dyrys gan y crefftwr lleol William Melling yn addurno porth y fynwent o’r 20fed ganrif, caead y bedyddfaen, a darnau eraill o gelfi’r eglwys. Mae angen rhywbeth modern i gael dod yma hefyd: sef benthyg yr allwedd o’r siop syrffio leol, PJs.

Capel Moriah, Casllwchwr, Abertawe

Mae yna weinidogion Cristnogol carismatig, ac yna roedd Evan Roberts, y dyn a arweiniodd Adfywiad Methodistaidd Cymru ym 1904 o bentref gwasgarog Casllwchwr. Byddai’n rhoi gwasanaethau yma ym Moriah, ei gapel, tan 4 neu 5 o’r gloch y bore, a dywedir y byddai’n cael ei gyfarch â’r math o sgrechiadau a gorganmoliaeth fyddai'n cael ei gyfeirio'n ddiweddarach at enwogion o fri. Fe’i claddwyd yma yn y bedd teuluol trawiadol, ac mae ei fan geni, Island House, funud i ffwrdd mewn car. Erbyn hyn, llety gwely a brecwast lleol sydd yno.

Capel gweithredol yw Moriah hyd heddiw, a chymanfaoedd yma’n aml. Mae croeso hefyd i ymwelwyr fynychu cyrddau gweddi rheolaidd a boreau coffi. Ar adegau eraill, cysylltwch ag ysgrifennydd y capel drwy wefan Moriah.

Capel Methodistaidd Calfinaidd Beulah, Margam, Port Talbot

Pethau anarferol yw capeli wythonglog, ond rydym yn ymfalchïo yn fawr yn ein hyfryd Gapel Methodistaidd Calfinaidd Beulah ym Margam, ger Port Talbot. Yr enw cyffredin arno yw Capel y Groes, ar ôl y pentref y cafodd ei adeiladu’n wreiddiol ar ei gyfer, neu’r Capel Crwn – meddalu’r corneli.

Adeiladwyd Beulah, sy’n adeilad Gradd II rhestredig, ac wedi’i wneud o dywodfaen a llechi, yn ei ffurf gyfredol ym 1905. Bu’n rhaid ei symud ym 1974 er mwyn adeiladu traffordd yr M4, ond goroesodd y daith. Eistedda ym Mharc Tollgate ger Margam ers 1976, ac mae’n olygfa hardd hyd heddiw.

Abaty Margam, Port Talbot

Yr hyfryd Abaty Margam oedd y tŷ mynachaidd cyfoethocaf yng Nghymru ar un adeg. Erbyn hyn, mae’n dal i gynnal pedwar gwasanaeth offeren ar ddydd Sul, ond mae'n gwasanaethu'r gymuned hefyd mewn ffyrdd eraill. Mae ganddo sefydliad cerddoriaeth, sy’n annog pobl ifanc i ganu mewn adeilad prydferth, ac mae’n cynnal bwyty syml o’r enw Abbot's Kitchen yn y neuadd blwyf gerllaw. Gellir cyfuno Te Prynhawn neu De Hwyr y Pererin yma â thaith o’r abaty, ac yna gwasanaeth o Hwyrol Weddi Ddywededig.

Mae hen ysgoldy’r abaty hefyd yn gartref i Amgueddfa Gerrig ryfeddol. Ynddi, mae cofeb wedi’i harysgrifio mewn Lladin sy’n 1,500 aruthrol o flynyddoedd oed, llechi bedd hynafol a chroesau olwyn trol trawiadol. Mae mwy na digon i gyffroi’r enaid ynghylch traul amser, ac i gadw trysorau Gorllewin Cymru yn eich cof am flynyddoedd lawer i ddod.