Y gogledd: Llety mewn llyfrgell ac Alice in Wonderland
Yn y gogledd-ddwyrain, fe gewch chi un o brofiadau llenyddol hynotaf y wlad. Sefydlwyd Llyfrgell Gladstone gan William Gladstone, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac mae’i gasgliad anferth o lyfrau’n dal i gael eu cadw yma. Fan hyn, hefyd, fe gewch chi brofi sut beth yw cysgu mewn llyfrgell am y nos!
Adeilad mawreddog, rhestredig Gradd I yw llyfrgell breswyl gyntaf y Deyrnas Unedig, a hithau’n dal 150,000 o lyfrau. Mae’r rheini’n cadw cwmni i westeion dros nos! Mae’r brif lyfrgell, gyda’i nenfydau llawn bwâu a thrawstiau, ei mesaninau astudio, a’r corneli bach dirifedi sy’n llawn dop o gyfrolau, yn ddigon i wneud i Lyfrgell Hogwarts edrych yn go dila. Mae’r llyfrgell i’w chanfod ym mhentref tlws Penarlâg, sy’n gartref i dir parc helaeth, castell canoloesol a’r plasty lle bu Gladstone yn byw (a lle bu farw).
Mae Llandudno yn enwog fel un o drefi glan môr Fictoraidd harddaf Cymru, ond mae ganddi hefyd gysylltiad llenyddol go arbennig. Ar ei wyliau yn fan hyn y gwnaeth Charles Dodgson (neu Lewis Carroll, a defnyddio’i enw arall) gwrdd ag Alice Liddell. Mae sôn mai hi yw’r ‘Alice’ yn y clasur i blant, Alice’s Adventures in Wonderland. Mae Llandudno’n dathlu hyn drwy ryfeddodau Llwybr Alice, a hwnnw’n dilyn trywydd 34 o gerfluniau a cherfddelwau od sydd wedi’u seilio ar gymeriadau rhyfedd y stori.
Arfordir Eryri a Phen Llŷn: Yr ysgrifen Gymraeg gyntaf, coblynnod a Frankenstein
Wrth deithio ar hyd arfordir y gogledd ac o dan gopaon Parc Cenedlaethol Eryri, fe fyddwch chi’n camu i berfeddion hanes llenyddol ein gwlad. Yn nhref glan môr Tywyn fe ddewch chi o hyd i’r ysgrifen Gymraeg gynharaf sydd wedi goroesi – a honno wedi’i hysgythru ar Garreg Sant Cadfan yn yr eglwys o’r un enw. Mae’n dyddio o’r 9fed ganrif OC, ar yr hwyraf.
Dylai’r rheini sy’n hoff o ffantasi alw heibio i Harlech, sydd hefyd yn y cyffiniau. Yno, mae traeth a thwyni helaeth ynghyd â chyfle i edmygu mawredd Castell Harlech, sydd ar restr UNESCO. Dyma lle treuliodd Phillip Pullman lawer o’i blentyndod. Roedd y golygfeydd ar hyd y traeth am gribau Pen Llŷn yn arbennig o ddylanwadol wrth roi syniadau iddo ar gyfer ei straeon.
Helpodd Pen Llŷn i ddylanwadu ar rai o ffenomenâu enwocaf y byd ffuglen. Bu’r bardd Percy Bysshe Shelley yn byw unwaith ym Mhlas Tan yr Allt ger Porthmadog, plasty gwledig sydd wedi’i amgylchynu gan goed, ac mae modd aros yno hyd heddiw. Fan hyn yr ysgrifennodd Shelley ei gerdd epig Queen Mab, a fan hyn hefyd y llwyddodd (o fewn trwch blewyn!) i osgoi cael ei lofruddio. Mae sôn mai dyna a ysbrydolodd rai o’r golygfeydd yn Frankenstein, gwaith enwocach ei wraig, Mary Shelley.
Ymhellach tua’r de-orllewin yn Llŷn mae Plas yn Rhiw. Dyma blasty o’r ail ganrif ar bymtheg ac iddo erddi tra hyfryd. Roedd bwthyn Sarn y Plas gerllaw ar un adeg yn gartref i RS Thomas – un o feirdd gorau Cymru a ysgrifennodd yn gofiadwy am dirweddau a hunaniaeth y wlad.
Ddim ymhell o’r fan honno, ar wyliau ym mhentref tlws Llanbedrog ar lan y môr, gwirionodd y nofelydd Tolkien ar sŵn telynegol y Gymraeg. A dyna’r dylanwad mawr wrth iddo fynd ati i greu Sindarin, iaith y coblynnod.
Gyda’r fath dirnodau llenyddol yn yr ardal, nid yw’n syndod bod Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd hefyd yn y cyffiniau. Beth am anelu am Lanystumdwy, ac aros yn yr adeilad gwyngalch, rhestredig Gradd II hwn wrth ddilyn cwrs a allai’ch gwneud yn un o sêr llenyddol mawr nesaf Cymru?
Arfordir Ceredigion: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod gyntaf
Mae’n rhaid i unrhyw daith drwy’r gorllewin ddechrau yn Aberystwyth, a enwyd yn ddiweddar yn Ddinas Llenyddiaeth gyntaf Cymru gan sefydliad y Cenhedloedd Unedig, UNESCO.
Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar fryn uwchben y dref mae casgliad llyfrau mwyaf Cymru – mae tua 6.5 miliwn o destunau yma. Ac mae llawer o’r rhai pwysicaf ar gael i’r cyhoedd eu gweld. Ewch i fwrw golwg ar Lyfr Du Caerfyrddin, er enghraifft – y testun ysgrifenedig cyntaf i’w lunio i gyd yn Gymraeg.
Yn britho arfordir Ceredigion, mae sawl bae a harbwr pysgota tlws, gan gynnwys Ceinewydd, sy’n enwog am ei deithiau cwch i wylio dolffiniaid. Dyma hefyd y dref a fu’n ysbrydoliaeth i nifer o gymeriadau lliwgar Dylan Thomas yn Dan y Wenallt / Under Milk Wood. Yn ôl y sôn, byddai Thomas yn eistedd yng Ngwesty’r Llew Du yn gwneud nodiadau am y cwsmeriaid difyr a fyddai’n taro heibio.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ddathliad o iaith a chelfyddydau amrywiol Cymru sy’n cael ei gynnal dros wythnos ym mis Awst. Mae yno bopeth, o farddoniaeth i ganu, o ddramâu i ddawns, a llawer iawn mwy. Dyma un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop. Ond mae gwreiddiau’r brifwyl yn mynd yn ôl i ŵyl a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1176 yng Nghastell Aberteifi, gyda chystadlaethau i feirdd a cherddorion ill dau. Roedd y beirdd yn broffesiynol ac yn rhan hollbwysig o fywyd y llys Cymreig, ac yn hoff o ganu clodydd byd natur hynod Cymru (a buddugoliaethau hynod mewn brwydrau). Roedd barddoniaeth Gymraeg y cyfnod hwnnw ymhlith barddoniaeth fwyaf soffistigedig y byd ar y pryd. Mae arddangosfa yn y castell yn adrodd yr holl hanes, tra bo’r bwyty, gyda’i ffenestri gwydr tal yn edrych allan ar y rhagfuriau, ymhlith y gorau yn Aberteifi!
Ar drywydd Dylan Thomas yn Abertawe a Thalacharn
Prin yw’r dinasoedd ym Mhrydain sydd â chysylltiad tebyg i hwnnw rhwng Abertawe a Dylan Thomas. Dyma un o feirdd a dramodwyr enwocaf yr ugeinfed ganrif. Mae’r tŷ lle cafodd ei eni, a lle bu’n byw yn ystod ei blentyndod, i’w ganfod yn ardal gefnog Uplands, yn 5 Cwmdonkin Drive. Mae’r tŷ’n dal yn union fel y byddai yng nghyfnod Thomas, a gall y rheini sy’n gwirioni ar lenyddiaeth aros dros nos yno i gael gwir flas o’r awyrgylch. Roedd Thomas yn hoff iawn o’i ddiod, wrth gwrs, a byddai’n aml i’w weld mewn tafarndai fel yr Uplands Tavern (Uplands Crescent) a’r No Sign Bar (Stryd y Gwynt), a ysbrydolodd y stori fer The Followers maes o law.
Yn y cyfamser, yng Nghanolfan Dylan Thomas yn ardal forol fywiog Abertawe, fe gewch chi fwynhau arddangosfa am fywyd a gwaith y bardd.
Roedd Thomas hefyd wrth ei fodd ag arfordir cyfagos Penrhyn Gŵyr. Fan hyn, ar bentir creigiog Pen Pyrod, cafodd ei ddal gan y llanw unwaith, cyn ysgrifennu am y profiad yn Who Do You Wish Was With Us? Credai Thomas y byddai’r Hen Reithordy unig a thlws ger Bae Rhosili yn lle braf iawn i fyw, dim ond bod y dafarn agosaf, os gwir y stori, yn rhy bell!
Symudodd yr awdur at yr aber yn nhref Talacharn yn Sir Gâr ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Yno, bu’n byw yn Nhŷ Cychod Dylan Thomas, sy’n sefyll mewn lle tlws ar lan y dŵr. Byddai’n yfed yn gyson yn Brown’s, sydd heddiw’n fwyty ac yn westy bwtîg. Gallwch chi ddilyn ôl traed Thomas ar Daith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas, sy’n mynd drwy’r coed ac ar hyd yr arfordir a gafodd eu hanfarwoli yn y gerdd, Poem in October. Nid Thomas oedd yr unig awdur i gael ei ddenu i Dalacharn: bu Kingsley Amis a Mary Shelley yn byw yno hefyd.
Yn y de: cysylltiadau Roald Dahl â Chaerdydd
Byddai byd llenyddiaeth plant wedi bod yn wahanol iawn heb Roald Dahl, a heb Gaerdydd yn wir – oherwydd dyma lle treuliodd yr awdur ei flynyddoedd ffurfiannol. Y lle pwysicaf yn hyn o beth yw Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd – yr eglwys bren brydferth a godwyd yn 1867, a lle cafodd Dahl ei fedyddio. Gerllaw, mae cerflun anferth o grocodeil yn gwenu.
Y Mynydd Du: Gŵyl y Gelli a chartref gwreiddiol yr Hobyd
Mae’r Mynydd Du, lle ceir copaon mwyaf dwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn llawn dop o hanes llenyddol. Does unlle gwell i lyfrbryf na’r Gelli Gandryll: mae gan y dref dros ugain o siopau llyfrau. Yma hefyd y cynhelir Gŵyl y Gelli, un o wyliau llenyddol enwocaf y byd.
Tua’r de, mae’r tir bryniog braf o amgylch Crucywel yn ymdebygu’n fawr i’r hyn a welwch chi yng ngwaith Tolkien, a dyma’r ardal a ysbrydolodd ‘Middle Earth’. Cafodd cartref yr Hobydiaid, ‘Crickhollow’ ei ysbrydoli gan bentref Gruchywel, lle mae pobl o gig a gwaed yn dal i fyw!