Y safle mwyaf ysblennydd o holl gaerau arfordirol cadarn Edward I
Castell Harlech sy’n coroni clegyr creigiog serth fry uwchben y twyni tywod – yn aros yn ofer i’r llanw droi ac i’r môr pell lepian wrth ei droed unwaith eto.
Nid oes angen rhagor o ddrama a dweud y gwir ond, rhag ofn, mae copaon garw Eryri yn codi y tu ôl iddo. Yn erbyn cystadleuaeth frwd gan Gonwy, Caernarfon a Biwmares, mae’n siŵr mai hwn yw’r safle mwyaf ysblennydd i unrhyw un o gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru. Dynodwyd y pedwar i gyd yn Safle Treftadaeth y Byd.
Cwblhawyd Harlech o’r ddaear i’r bylchfuriau mewn saith mlynedd yn unig o dan arweiniad y pensaer dawnus James o San Siôr. Mae ei ddyluniad ‘waliau o fewn waliau’ clasurol yn gwneud y mwyaf o amddiffynfeydd naturiol brawychus.
Hyd yn oed pan gafodd ei ynysu’n llwyr gan wrthryfel Madog ap Llewelyn, ni ildiodd y castell – diolch i’r ‘Ffordd o’r Môr’. Roedd y llwybr hwn o 108 o risiau a ddringai’r graig serth yn golygu bod modd bwydo a dyfrio amddiffynwyr dan warchae o long.
Haws yw trechu Harlech erbyn hyn. Cewch gerdded ar hyd pompren ‘arnofiol’ anhygoel i mewn i’r castell gwych hwn yn ôl bwriad James y pensaer - am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd.
Rhagor o wybodaeth