Mae Cymru'n wlad gyfleus iawn ei maint – dim ond taith pedair neu bump awr mewn car o un pen i'r llall. Hyd yn oed ar siwrnai fer mae modd mwynhau llu o dirweddau gwahanol a, fel y gwelwch fan hyn, chael blas ar ystod eang a chyfoethog o gelf.

Does dim rhaid bod yn arbenigwr celf i fwynhau'r daith dri diwrnod hon. Mae'n gyfle i bawb brofi orielau, tirweddau a bwydydd arbennig ein gwlad.

Mae pob oriel ar y daith yn perthyn i rwydwaith Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru – ac yn well fyth, maen nhw i gyd yn rhad ac am ddim.

Promenâd a thraeth cerrig mân ar ddiwrnod heulog.

Promenâd Llandudno, Gogledd Cymru

Amserlen

Diwrnod 1: O Landudno i Fangor, Mostyn i Storiel

Bore

Dechreuwch eich diwrnod yn Llandudno gyda choffi yn Providero, caffi byrlymus sy’n boblogaidd gyda’r bobl leol. Ewch am dro wedyn ar hyd y promenâd Fictoraidd hardd cyn troi tuag at Mostyn, oriel gelf gyfoes fwyaf nodedig y dref – welwch chi dŵr pigog yr adeilad wrth nesáu. Agorwyd Mostyn gyntaf ym 1901 gan y Foneddiges Augusta Mostyn, fel oriel a gofod dysgu i'r gymuned leol. Diolch i'r gwaith adnewyddu gwobrwyedig yn 2010, mae'r hen a'r newydd yn cydweithio'n gelfydd – y tu allan yn Fictoraidd, y tu mewn yn fodern.

Mae chwe gofod arddangos, lle i gynnal dosbarthiadau dysgu, caffi poblogaidd a siop yn llawn cynnyrch gan artistiaid a gwneuthurwyr o Gymru a thu hwnt.

Adeilad brics coch gyda tho sbesial sy'n gartref i oriel gelf, wedi'i gosod yn erbyn awyr las
Mae menyw yn sefyll y tu allan i fynedfa'r oriel gelf sy'n cynnwys gwaith brics addurnedig
Grisiau mewn adeilad modern.

Oriel Mostyn, Llandudno, Gogledd Cymru

Mwynhewch ginio yn y caffi yma, gyda gweithiau celf o'ch cwmpas, neu ewch am dro yn ôl i'r promenâd at Dylan's – bwyty sy'n ymfalchïo mewn bwyd môr ffres a chynhwysion o Gymru.

Adeilad Fictoraidd mawreddog wedi'i wneud o garreg wen, yn edrych dros draeth cerrig bach serennog.
Golygfa fewnol o fwyty gyda byrddau a chadeiriau a'r bar.

 Bwyty Dylan's, Llandudno, North Wales

Prynhawn

Mae'r daith o Mostyn i Storiel ym Mangor yn cymryd tua hanner awr – wrth gyrraedd, cewch olygfa dda o Brifysgol Bangor, y Coleg ar y Bryn. Mae Storiel, sy’n amgueddfa hanes lleol yn ogystal ag oriel gelf gyfoes, wedi'i leoli yn hen Blas yr Esgob, adeilad sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod canoloesol hwyr.

Dyma'r lle i wir ymgolli yn hanes a diwylliant gogledd Cymru, Gwynedd yn benodol, trwy bori yng nghasgliad difyr yr amgueddfa sy'n edrych ar fywyd yng Ngwynedd drwy'r oesoedd. Yn yr orielau celf fe welwch amrywiaeth o arddangosfeydd, yn aml yn arddangos artistiaid o Gymru a themâu Cymreig.

Delwedd fewnol o oriel gelf gyda chelf ar waliau ac arddangosfa cabinet gwydr
Delwedd fewnol o oriel gelf gyda ffenestr siâp hirgrwn

Storiel, Bangor, Gwynedd, Gogledd Cymru

Gyda’r nos
Am swper, mae'r Llofft yn y Felinheli yn denu pobl leol, neu os am wledd arbennig, mae bwyd seren Michelin yn Sosban & The Old Butchers dros Bont Menai ym Mhorthaethwy.

Cogydd yn paratoi bwyd mewn cegin y tu mewn i fwyty.
Pelen o sorbet ar ben llysiau.

Sosban and the Old Butchers, Menai Bridge, Ynys Môn, Gogledd Cymru

Y Stablau frontage

Y Stablau

Accommodation
Y Felinheli
Victoria House

Victoria House

Accommodation
Caernarfon
Caer Menai Frontage

Caer Menai Guest House

Accommodation
Caernarfon

Diwrnod 2: Pen Llŷn i Aberystwyth, Plas Glyn-y-Weddw i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Bore

Mae brecwast da ar gael yn The Swellies yn Y Felinheli, neu ymhellach ar hyd y daith (ac ar stepen drws y castell) yn Caffi Maes Caernarfon.

Mae Pen Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac wrth i chi yrru tuag at Blas Glyn-y-Weddw, mae'n hawdd gweld pam.

Adeiladwyd y plasty Gothig hwn ym 1857 i'r Foneddiges Elizabeth Love Jones-Parry, i arddangos ei chasgliad celf preifat. Erbyn heddiw, mae'n drysor cyhoeddus sy'n dathlu celf mewn sawl ffordd – o'r grisiau mawr a’r galerïau hardd i'r caffi trawiadol ac amffitheatr awyr agored yn y coed.

Amser cinio, mae dewis da o frechdanau ffres a chacennau cartref yn y caffi heulog. Ac os yw'r tywydd yn braf iawn, cerwch â'ch diod allan i'r byrddau picnic i fwynhau golygfeydd dros Fae Ceredigion.

Wal fywiog o gelf sy'n cynnwys gwahanol baentiadau lliwgar a murluniau, gyda ffenestr fawr yn y ganolfan yn cynnig golygfa
Mynediad i oriel gelf mewn hen adeilad gyda mynedfa cromen fodern.

Canolfan Celfyddydau Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llandwrog, Gogledd Cymru 

Prynhawn

Mae'r daith o Blas Glyn-y-Weddw i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cymryd tua dwy awr a hanner, a mawredd y mynyddoedd yn gwmni ar hyd y daith.

Hon yw canolfan gelfyddydau amlddisgyblaethol fwyaf Cymru. Wedi'i chwblhau yn y 70au, mae'n adeilad sgwâr yn llawn lefelau gwahanol, ac yn rhan o Brifysgol Aberystwyth. Mae egni i’r lle, rhwng y myfyrwyr wrth eu gwaith a phobl o bob oed yn crwydro o gwmpas – rhai yma ar gyfer y gelf weledol, eraill i fynychu dosbarthiadau creadigol, sioeau theatr, i fynd i’r sinema, neu i gael diod yn y caffi. Fe welwch y prif arddangosfeydd yn Oriel 1 wrth y fynedfa. Mae ail oriel wedyn ar gyfer artistiaid newydd, ac mae gwaith y gymuned leol i’w weld yn y caffi a'r Piazza. Gadewch amser hefyd i ymweld â’r ystafell arbennig ar gyfer serameg, lle gellir mwynhau casgliad difyr o’r ugeinfed ganrif.

Glan y môr ac adeiladau

Aberystwyth, Canolbarth Cymru

Gyda’r nos

Mwynhewch swper ym mar tapas bach Ultracomida. Awydd tafarn yn lle? Mae Y Ffarmers, sy tua 10 munud i ffwrdd mewn car, yn cael ei ganmol am y bwyd cartref a’r croeso cynnes.

Seafront location

The Glengower

Accommodation
Aberystwyth
Aberystwyth Promenade

The Richmond

Accommodation
Aberystwyth

Diwrnod 3: Aberystwyth i Abertawe, i Oriel Gelf Glynn Vivian

Bore
Hen arsyllfa o 1988 wedi ei droi’n dŷ bwyta yw The Observatory ym marina Abertawe – lle perffaith am frecwast hwyr. Cymerwch sedd wrth y ffenest os oes modd (mae’n gallu mynd yn brysur), a chael golygfa sydd llawn cystal â Bae Napoli, yn ôl y sôn.

Bwyty a welir drwy'r ffenestr gron.
A tall building with domed tower and sandy beach.

Yr Arsyllfa, Abertawe, Gorllewin Cymru

Prynhawn

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yng nghanol dinas Abertawe. Adeiladwyd hi’n wreiddiol ym 1911, a bu ailddatblygiad mawr yn 2016, gydag estyniad newydd bellach yn cysylltu'r hen adeiladau gyda’i gilydd. Mae'n un o ofodau celf weledol mwyaf Cymru, gyda chasgliad parhaol o dros 12,000 o weithiau o bob cwr o'r byd – rhodd Richard Glynn Vivian (1835-1910) i bobl ei ddinas.

Mae'r ardaloedd arddangos yn ysblennydd – deg ohonynt i gyd, ynghyd ag atriwm eang, gardd, a mannau dysgu. Mae cynifer â 12 arddangosfa bob blwyddyn. Ochr yn ochr â gwaith cyfoes artistiaid o Gymru a thu hwnt, mae'r oriel hefyd yn gwahodd unigolion o'r gymuned gelf i weithio gyda'r casgliad hanesyddol, i’w ail-ddehongli ar gyfer cynulleidfa heddiw.

Gorffennwch eich taith gyda diod yn The Secret Beach Bar & Kitchen yn y Mwmbwls gerllaw, gan edrych yn ôl nawr dros Fae Abertawe. Mae'n lle da i ymlacio a myfyrio ar eich antur gelf drwy Gymru.

 

Lluniau ar Oriel Wal Celf.
Drws pren sy'n arwain at fynedfa oriel gelf.
Darlun mewnol o arddangosfa oriel sy'n cynnwys goleuadau cylchol yn hongian o'r nenfwd, yn goleuo'r gweithiau celf a ddangosir ac yn creu awyrgylch fodern, soffistigedig

Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Gorllewin Cymru

Teithio o gwmpas a rhagor o wybodaeth

Bydd angen car arnoch i gwblhau'r daith hon mewn tri diwrnod. Fel arall, rhannwch y daith yn ddwy, gan ddefnyddio trenau i deithio o Landudno i Fangor ac yna i Bwllheli i ymweld â Mostyn, Storiel a Phlas Glyn-y-Weddw. Mae pob oriel yn hygyrch o'r gorsafoedd trên heblaw am Blas Glyn-y-Weddw, sydd ar daith bws neu daith tacsi 8 munud o orsaf Pwllheli. Mae cysylltiadau trên da i Aberystwyth ac Abertawe hefyd.

Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol newydd sy'n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol. Bydd y wefan yn nodi popeth fydd angen i chi ei wybod am Hynt; ar gyfer pwy mae Hynt, beth mae'n ei ddarparu, a sut i ddod yn aelod.

Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelf, yna efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â Hynt.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig