Pryd o fwyd allan

Thomas by Tom Simmons, Caerdydd

Bwyd Ffrengig sydd wedi ysbrydoli’r fwydlen ym mwyty'r cogydd adnabyddus Tom Simmons, ond cynhwysion lleol sydd wedi eu defnyddio i greu’r prydau. Mae bwydlen Santes Dwynwen arbennig y bwyty yn cynnig bwydlen newydd a la carte. 

Am ambell i dwist rhamantus ar eich cinio dydd Sul arferol, ewch i Llofft, Felinheli. 

Pryd o fwyd adref

Dylan’s, Porthaethwy a Chonwy

Mae gan Dylan's siopau ym Mhorthaethwy a Chonwy yn gwerthu cynnyrch lleol ffres a phrydau a phitsas i bobi adref. Yn ddiweddar fe lansiwyd Pasta Môn - dewis o basta ffres, sawsiau ac antipasti. Y ffordd hawdd o goginio pryd rhamantus adref.

Bocsys blasus

Mae nifer o fusnesau yn cynnig bocsys o ddanteithion wedi eu creu yn arbennig ar gyfer Santes Dwynwen, y gellir eu postio i unrhyw le. Mae bisgedi Sweet Snowdonia o Gonwy yn anrheg perffaith i gyd-fynd â chwpan o goffi neu wydriad o bybli, ac yn gallu cael eu dosbarthu yn lleol yn ardal Conwy neu eu hanfon trwy’r post i unrhyw le.

Digwyddiadau unigryw

Digwyddiadau 25 Ionawr, 2026 

 

Am gigs Cymraeg ewch i wefan awni? 

Santes Dwynwen Ym Amgueddfa Genedlaethol y Glannau 

Ymunwch â Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o 12pm ymlaen ar ddydd Sul, 25 Ionawr i ddathlu Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, am bnawn llawn cariad. Bydd perfformiadau hudolus ar y delyn, crefftau cwtsh a thelyn fach er mwyn i chi rhoi tro ar daro tant.

Anrhegion

Mêl Gwenyn Gruffydd

Mêl Cymreig a gynhyrchir yn Sir Gaerfyrddin. Mae Gwenyn Gruffydd yn gwerthu pecynnau arbennig sy'n cynnwys canhwyllau a nwyddau harddwch wedi eu creu o gwyr gwenyn.

Macarŵns melys

Macarŵns mafon a fanila gan un o gaffis gorau'r gorllewin, Crwst. Archebwch ar-lein ac yna casglu o'r siop yn Aberteifi.

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig