-
Cwestiwn 1: Pa gapel bach yn Sir Benfro, wedi’i gysegru i fam Dewi Sant, sy’n nodi ei fan geni?
Ateb: Gapel Non, dywedir mai yma oedd man geni nawddsant Cymru, Dewi Sant, yn y 6ed ganrif, ac fe’i henwyd ar ôl ei fam, ac mae’n dal yn fan pererindod hyd heddiw.
-
Cwestiwn 2: Be oedd prif neges Dewi Sant i’w ddilynwyr?
-
Cwestiwn 3: Pa flwyddyn y sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru, sy’n aml yn cynnal gweithgareddau arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi?
Ateb: 1922. Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed.
-
Cwestiwn 4: Ble a pryd ar i'r Eisteddfod Genedlaethol cyntaf cael ei gynnal?
Ateb: Castell Aberteifi yn 1176.
-
Cwestiwn 5: Yn ble oedd yr eisteddfod cyntaf i gael ei gynnal tu allan Cymru?
Ateb: Yn Lerwpl.
-
Cwestiwn 6: Pa ganrif ar i rheilfford trên Yr Wyddfa agor?
Ateb: Fe wnaeth rheilffordd Trên Yr Wyddfa agor ar 6 Ebrill 1896
-
Cwestiwn 7: Pa arfordir yng Nghymru sy’n enwog am fod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO?
Ateb: Arfordir Sir Benfro
-
Cwestiwn 8: Pa gastell yng Nghymru sydd â thŵr sydd yn gogwyddo?
Ateb: Castell Caerffili Mae'r tŵr de-dwyrain y castell yn gogwyddo ar ongl o tua 10 gradd, sy’n fwy na dwywaith gogwydd Tŵr Pisa, sy’n gogwyddo tua 4 gradd.
-
Cwestiwn 9: Faint o hyd yw Llwybr Arfordir Cymru?
Ateb: 870 milltir, Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr cerdded pwrpasol o amgylch y traethlin cyfan. Dysgwch fwy am Lwybr Arfordir Cymru.
-
Cwestiwn 10: Be oedd Rhaglen cyntaf S4C? Pwynt ychwanegol am y dyddiad cywir!
Ateb: Darlledwyd SuperTed am y tro cyntaf ar S4C ar 1 Tachwedd 1982, y diwrnod y cafodd y sianel ei lansio.
Straeon cysylltiedig
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy wneud y pethau bychain
Pa ffordd well o ddathlu na dod â'r geiriau hynny'n fyw gydag awyrgylch hwyliog a charedigrwydd.
Digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi 2026
Tyrd o hyd i ddigwyddiadau Gŵyl Dewi yn dy ardal di.
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy wneud y pethau bychain - ysgolion
Pa ffordd well o ddathlu na dod â'r geiriau hynny'n fyw gydag awyrgylch hwyliog a charedigrwydd.
Pynciau:
Crwydro dinas leiaf Prydain
Dewch i glywed am hoff bethau Alf Alderson, yr awdur, i’w gwneud yn Nhyddewi, Sir Benfro.
Sir Benfro