About Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Ynglŷn â Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy
Mae Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn gyfleuster chwaraeon rhanbarthol yn Queensferry, Sir y Fflint, ac yn gartref i lawer o atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys yr unig ganolfan sglefrio yng ngogledd Cymru, parc chwyddadwy mawr dan do a pharc sglefrio dan do.
Mae gwasanaethau eraill y ganolfan hamdden yn cynnwys Sba Afon, ystafell ffitrwydd â thros 100 o orsafoedd, neuadd chwaraeon ag 8 cwrt, cyrtiau sboncen, meysydd chwarae awyr agored 3G, caffi a Llyfrgell Glannau Dyfrdwy.
Canolfan Sglefrio Glannau DyfrdwyAilagorwyd pad sglefrio maint Olympaidd Aura yn dilyn gwaith ailwampio ym mis Rhagfyr 2022 er mawr foddhad i’n cymuned sglefrio ffyddlon.
Mae’r Ganolfan Sglefrio’n cynnig nifer o sesiynau i bob grŵp oedran, gan gynnwys sglefrio cyhoeddus, sglefrio ar lain, gwersi sglefrio iâ a disgos ar iâ. Mae’n bosibl llogi esgidiau sglefrio ac mae cymhorthion sglefrio ar gael. Mae hynny, ynghyd â’r bar byrbrydau ar ochr y llain, yn golygu ei fod yn ddiwrnod y gall yr holl deulu ei fwynhau. Ac, os mai hoci iâ sy’n mynd â’ch bryd, dewch i annog ein tîm cartref, Dreigiau Glannau Dyfrdwy, sy’n cystadlu yn y Gynghrair Hoci Iâ Genedlaethol (Adran 1 y Gogledd).
Mae gweithgareddau iâ yn hawdd i’w harchebu drwy ein platfform a man talu pwrpasol ar-lein yma: www.aura.cymru/arena-ia-glannau-dyfrdwy/
Parc ChwyddadwyNeidiwch trwy fywyd ym mharc chwyddadwy dan do mwyaf gogledd Cymru lle mae hwyl i’r teulu cyfan.
Mae parc chwyddadwy Aura yn cynnig amrywiaeth o sesiynau awr o hyd ar gyfer pob oedran yn ein lleoliad 460m² unigryw. Mae’r nodweddion yn cynnwys Mynydd Aer, Sleid 360°, Sleid Syrthio a Cherrig Camu, felly byddwch angen digonedd o egni ar gyfer y cyfleuster anferth yma!
Mae sesiynau ar gyfer Rhieni a Phlant Bach ar gael (2-7 mlwydd oed), Plant Iau a Bownsiwyr Bach (3-15 mlwydd oed), a Phlant Mawr hyd yn oed (16 mlwydd oed a throsodd), ac rydym yn hefyd yn darparu sesiynau Rhyfeloedd Gynnau Nerf, partïon plant ac archebion grŵp preifat.
Mae sesiynau’r parc chwyddadwy’n syml i’w trefnu drwy ein platfform a man talu pwrpasol ar-lein yma: www.aura.cymru/parc-chwyddadwy-glannau-dyfrdwy/
Mae’n rhaid i’r holl fownsiwyr wisgo hosanau parc chwyddadwy Aura.
Parc SglefrioCroeso i barc sglefrio dan do mwyaf gogledd Cymru – cartref cyffrous sglefrfyrddwyr, reidwyr BMX a sgwteri, a sglefrolwyr y rhanbarth.
Ceir yma nodweddion fel Maes Stryd, Adran Resi, Vert, Chwarter Pibell a Ramp Fechan – mae’r parc sglefrio’n lleoliad naturiol ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am wefr adrenalin.
Mae sesiynau agored ar gael ar gyfer Plant Iau, Oedolion, a Merched a Genethod yn Unig, ac rydym hefyd yn cynnig gwersi sglefrfyrddio ac archebion grŵp preifat.
Mae sesiynau’r parc sglefrio’n syml i’w trefnu drwy ein platfform a man talu pwrpasol ar-lein yma: www.aura.cymru/parc-sglefrio-glannau-dyfrdwy/
Sylwer, am resymau diogelwch mae’n rhaid i’r holl ddefnyddwyr sydd o dan 18 mlwydd oed wisgo helmed bob amser wrth ddefnyddio’r parc sglefrio. Mae’n rhaid i oedolyn fod gyda phlant o dan 8 mlwydd oed yn y parc sglefrio bob amser.Sba AfonCroeso i Sba Afon, y gyrchfan berffaith ar gyfer dianc rhag straen a darganfod llonyddwch.
Mae ein sba wedi’i dylunio gyda chi mewn golwg. Yma, rydym yn anelu i adfer llonyddwch wrth greu profiadau bythgofiadwy i bawb sy’n cerdded drwy ddrysau’r sba. Erbyn i chi gerdded yn ôl allan byddwch yn teimlo’n ffres ac wedi adfywio. P’un a fyddwch chi’n ymweld ar eich pen eich hun neu gyda’ch ffrindiau, mae Sba Afon yn cynnig triniaethau ac eiliadau perffaith i chi eu mwynhau, beth bynnag yw’r achlysur.
Beth am adfywio ac ailfywiogi gyda’n triniaethau sba moethus? O harddwch i’r corff, rydym yn siŵr o fod â thriniaeth sy’n addas i chi. Y peth perffaith i’w ychwanegu at eich diwrnod yn y sba.
I ganfod mwy, ewch i www.aura.cymru/sba-afon/
Coffi AuraMae ein siop goffi – Coffi Aura – wedi ei leoli’n agos at ein tri phrif atyniad, sef y Ganolfan Sglefrio, y Parc Chwyddadwy a’r Parc Sglefrio ar lawr gwaelod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Gweinir coffi Lavazza a dewis eang o fyrbrydau a danteithion yng Nghoffi Aura, lle ceir cyfle perffaith i gymryd seibiant a dod atoch eich hun ar ôl eich ymdrechion ar weithgaredd. Cewch gyfle i ymlacio hefyd yn y llyfrgell gyfagos gyda choffi a llyfr da.
Meysydd Chwarae Awyr Agored 3GMae ein meysydd chwarae 3G wedi eu lleoli yng nghefn Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, ac maent yn cynnwys chwe maes wedi eu hamgylchynu â ffens ac arwyneb mwy ar gyfer 7 bob ochr. Rydym yn arbennig o falch o raglen Pêl-droed Aura sydd wedi ei datblygu gennym, a’n tîm arbennig o hyfforddwyr sydd wedi gweithio’n galed i greu brand gwych. Cafodd y brand ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru / Pêl-droed Lleol McDonalds yn 2020 a 2022, ac ennill gwobr Darparwr Pêl-droed Hwyl y Flwyddyn Gogledd-Ddwyrain Cymru.
Mae rhaglenni pêl-droed Aura yn gynhwysol ac yn agored i fechgyn a merched o bob gallu, o 2½ i 11 mlwydd oed. Ein nod yw rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc ddatblygu a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar, a hyn oll dan arweiniad hyfforddwyr cwbl gymwys sydd wedi eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I ganfod mwy ynglŷn â sut i ymuno â’n sesiynau pêl-droed a gwersylloedd gwyliau, ewch i www.aura.cymru/canolfannau-hamdden/pel-droed/
Campfa a FfitrwyddCroeso i gampfa Glannau Dyfrdwy! O hyfforddiant magu cryfder i hyfforddiant cardiofasgwlaidd, craidd a gweithredol – mae popeth yma.
Mae ein hyfforddwyr ffitrwydd cymwys yma i’ch tywys drwy eich profiad yn y gampfa, beth bynnag fo’ch nod. Fe fyddan nhw’n teilwra rhaglenni ymarfer i ateb eich anghenion unigol a’ch tywys trwyddynt gyda chyfarwyddyd arbenigol a diogel, ac yna bydd adolygiadau rheolaidd wrth i chi symud ymlaen a dechrau gweld canlyniadau.
Rydym hefyd yn cynnig dewis helaeth o ddosbarthiadau ymarfer grŵp i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ffitrwydd. Mae ein dosbarthiadau yn hwyliog, yn ysgogi ac yn ysbrydoli, gan roi amrywiaeth i’ch ymarfer corff.
I ganfod mwy, ewch i www.aura.cymru/canolfannau-hamdden/ffitrwydd/