Cwestiynau cyffredin am lwybr beicio Lôn Las Menai
Taith feicio arfordirol hamddenol yn y gogledd
A hwnnw’n 6.5km o hyd, ac ond yn dringo’r mymryn lleiaf, dyma lwybr sydd wedi’i gynllunio ar gyfer beicio hawdd, pleserus. Mae’n cyfuno golygfeydd arfordirol, llwybrau hygyrch a threfi hanesyddol, gan ei wneud yn un o’r teithiau byr mwyaf dymunol yn y gogledd.
Disgyblaeth: Hamdden / Di-draffig
Rhanbarth: Y gogledd-orllewin (Eryri / Gwynedd)
Pellter: 6.6 km un ffordd
Faint o ddringo: Y mymryn lleiaf
Pa mor anodd: Hawdd
I bwy mae’r llwybr hwn? Teuluoedd, dechreuwyr ac ymwelwyr sy’n chwilio am daith arfordirol fer, braf.
Taith braf ar lannau’r Fenai
Ar Lôn Las Menai fe gewch chi brofiad beicio syml ond hynod bleserus ar hyd un o arfordiroedd harddaf y gogledd. Gan ddechrau ym mhentref tlws y Felinheli, mae’r llwybr yn dilyn y lan cyn anelu am Gaernarfon, gan roi golygfeydd cyson i chi dros Afon Menai.
Mae’r llwybr yn hawdd i’w ddilyn ac yn wastad i raddau helaeth, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer beicio hamddenol wrth eich pwysau eich hun. Yn nau ben y llwybr mae dewis o gaffis, bwytai a thafarndai sydd â rhai o’r golygfeydd gorau yng Nghymru!
Ar ôl cyrraedd Caernarfon, fe allwch chi dreulio peth amser yn crwydro’r dref, gan weld y castell enwog a mwynhau glannau’r dŵr. I lawer o feicwyr, dyma’r man cychwyn ar gyfer mynd yn eu blaenau ar hyd Lôn Eifion, gan greu llwybr hirach drwy’r gogledd, a hwnnw i raddau helaeth yn un di-draffig. Gyda’i gilydd, bydd y ddwy lôn yn mynd â chi o lannau’r Fenai i odreon Eryri.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Llogi beics:
- Mae modd llogi beics yn Beics Antur yng Nghaernarfon
Lluniaeth:
Mae sawl lle i stopio am damaid i’w fwyta neu lymaid ar hyd y ffordd, gan gynnwys :
- Caffis a bwytai yn y Felinheli ar gychwyn y llwybr, gan gynnwys:
- Tafarn y Garddfon - Tafarn sy’n croesawu teuluoedd, gyda golygfeydd godidog.
- Y Llofft - caffi-bar yn gweini bwydydd a diodydd lleol mewn awyrgylch Cymreig ar lannau’r Fenai.
- Swellies - caffi annibynnol ym Marina Port Dinorwig, yn gweini brecwastau, ciniawau ysgafn, cacennau ffres, a choffi barista.
- Digon o lefydd am luniaeth yng Nghaernarfon gan gynnwys caffis a thafarndai fel:
- Yr Anglesey Arms - Tafarn sy’n croesawu cŵn a theuluoedd, yn gweini diodydd a bwyd tafarn clasurol, gyda gardd gwrw hyfryd.
- Bonta Deli - Deli a chaffi poblogaidd, yn gweini cynnyrch Cymreig a chyfandirol, ciniawau cartref, a danteithion o’r popty.
- Tŷ Coffi Reuben’s - yn gweini coffi arbenigol, danteithion a phrydau ysgafn.
- La Marina Cei - bwyd â dylanwadau amrywiol / platiau bach ar y cei.
- Galeri Caernarfon - Canolfan gelfyddydol fywiog ger y dŵr, lle mae perfformiadau byw, ffilmiau, arddangosfeydd a digwyddiadau, ynghyd â chaffi-bar.
Services:
- Mae toiledau a llefydd parcio ar gael yn y Felinheli a Chaernarfon
- Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn dda, gyda chysylltiadau bysus a threnau yn nau ben y llwybr .