Gan ddechrau yng Nghaerfyrddin, y gylchdaith 95 km hon drwy Sir Gâr yw hoff lwybr Manon Lloyd, y cyflwynydd a’r cyn-feiciwr ffordd a thrac. Mae’r daith yn cyfuno lonydd tawel, dringfa eiconig i fyny’r Mynydd Du, sawl cyfle i wibio i lawr rhiw, a golygfeydd godidog o’r gorllewin.
Gan ddechrau yn Amgueddfa Sir Gâr yng Nghaerfyrddin, mae’r daith yn troi am y dwyrain ac yn ymuno â llwybr beicio newydd Dyffryn Tywi. Byddwch chi’n pasio sawl castell hanesyddol hardd cyn cyrraedd tref Llandeilo.
A hithau’n swatio yng nghanol prydferthwch Dyffryn Tywi, mae Llandeilo yn dref gampus i stopio am goffi bach, gyda dewis da o gaffis annibynnol a sawl becws, i’ch paratoi at y gwaith dringo. Fy newis i fyddai Lolfa neu Pitchfork and Provision; mae’r naill a’r llall yn rhoi croeso cynnes i feicwyr ac yn gwerthu coffi lleol gwych.
O Landeilo, mae’r llwybr yn troi am y bryniau, heibio i sawl pentref hardd. Ar ôl i chi fynd drwy Fethlehem, byddwch chi’n troi i’r dde ac yn dechrau dringo’n raddol i fyny’r Mynydd Du. Fe gewch chi olygfeydd a hanner dros ran orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ynghyd â chyfres o ddringfeydd graddol a chyfleoedd i wibio i lawr rhiw. Digonedd o amrywiaeth, felly.
Ar y cyfan, ffyrdd tawel yw’r rhain, a chithau yng nghanol tir fferm, coetiroedd a gweundiroedd agored. Mae’r llwybr felly’n teimlo’n hyfryd o anghysbell, er nad ydych chi byth yn bell o gyfleusterau lleol.
Lle gwych arall am hoe yw Coaltown Coffee yn Rhydaman cyn y cilomedrau braf olaf yn ôl i Gaerfyrddin. Fe allwch chi ddisgwyl golygfeydd godidog o Gymru, dringfeydd gwerth chweil, a diwrnod i’w gofio ar gefn y beic.
Cwestiynau cyffredin am y daith feicio drwy ffyrdd cefn gwlad Sir Gâr