Mae’r rhan 16.5 milltir (26.5km) hon o Daith Taf yn ffordd hwyliog a braf tu hwnt o grwydro Caerdydd a gweld rhai o barciau a mannau gwyrdd hardd y ddinas.
Mae rhan helaeth o’r llwybr yn dilyn glannau afon Taf, sydd wastad wedi bod yn llwybr masnach o bwys yng Nghymru. Yn wir, diolch i’r afon y daeth Caerdydd yn borthladd allforio mwyaf y byd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Dechrau yn y dechrau’n deg
Man cychwyn Taith Taf ydy Plas Roald Dahl ym Mae Caerdydd. Chwiliwch am gerflun y Fodrwy Geltaidd ger glan y dŵr, ac fe welwch chi blac coffa ar y llawr yn dangos cychwyn y daith. A chithau yn y Bae, galwch heibio i Ganolfan Mileniwm Cymru, theatr fwyaf y wlad. Mae yno gaffis, perfformiadau am ddim i’r cyhoedd, a siop. Mae’r theatr hefyd yn croesawu sioeau teithiol o fri.
Ffarwelio â’r Bae
Wrth i chi adael y bae am ganol y ddinas, fe ddewch chi o fewn tafliad carreg i Stadiwm Principality, stadiwm genedlaethol Cymru a chartref y tîm rygbi cenedlaethol. Ewch am daith o amgylch y stadiwm, neu trefnwch eich trip i gyd-daro â gêm.
Dafliad carreg o’r stadiwm mae Castell Caerdydd, un o brif atyniadau treftadaeth Cymru. A hwnnw’n sefyll yng nghanol y ddinas mewn tir parc hyfryd, mae dwy fil o flynyddoedd o hanes yn llechu ym muriau’r castell a’i dyrau tylwyth teg. Os oes modd, mae’n werth mynd i gael golwg!
Gerddi’r brifddinas
Cyn hir, fe fyddwch chi’n camu i ganol gwyrddni gwych y ddinas. Ewch drwy Erddi Sophia i mewn i Barc Bute. A hwnnw wedi’i amgylchynu gan afon Taf, Caeau Pontcanna a Pharc Cathays, mae Parc Bute yn orlawn o hanes a bywyd gwyllt. Mae’n 56 hectar o faint (cymaint â 75 cae pêl-droed), ac yn un o barciau trefol mwyaf Cymru.
Wrth i chi fynd yn eich blaenau drwy’r caeau, bydd yr afon yn chwarae mig – yn ymddangos a chuddio am yn ail y tu ôl i goed ac adeiladau. Cadwch olwg am leision y dorlan, crehyrod glas a mulfrain, neu eogiaid yn llamu o’r dŵr. Ymhen dim fe gyrhaeddwch chi Landaf, lleoliad Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae honno’n sefyll ar un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ym Mhrydain.
Castell Coch
Ym mhentref Tongwynlais fe ddewch chi ar draws cymar i Gastell Caerdydd: Castell Coch. Castell o oes Fictoria ydy hwn, yn sefyll ar sylfeini hŷn o lawer. Mae’n debyg iawn ei olwg i gastell tylwyth teg. Ewch am gip i ddysgu mwy am ei hanes a rhyfeddu at y gwaith addurno cain.
Ar ôl cael digon o gestyll hud a lledrith, os na fydd y llwybr mwy anodd a serth drwy’r goedwig drwchus yn denu, dilynwch y llwybr tarmac is o dan y castell. Mae hwnnw’n arwain at orsaf reilffordd Ffynnon Taf a hen Reilffordd Rhymni, cyn ymuno â’r llwybr mwy anodd ger ffordd osgoi Nantgarw.
Os bydd angen hoe arnoch chi, mae caffi teuluol Kerbside ar agor rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn am damaid bach i’w fwyta. Mae’r Drop Bar Workshop hefyd gerllaw os bydd angen gwneud unrhyw waith atgyweirio ar eich beic.
Ymlaen am Bontypridd
Mae rhan nesaf y llwybr yn cydredeg â hen reilffordd yr Alexandra (Newport and South Wales) Docks & Railway Company, i gyfeiriad Rhydyfelin. Ewch yn eich blaenau heibio i Rydyfelin cyn dynesu at ganol tref Pontypridd. Paned fach amdani cyn crwydro. Fe allech chi fynd i’r amgueddfa a gweld yr hen bont hynod, mynd am dro i Barc Ynysangharad a Lido Cenedlaethol Cymru, neu ddysgu mwy am y gorffennol ar Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Os hoffech chi fynd ymhellach fyth, mae sawl llwybr beicio yn dod ynghyd ym Mhontypridd, gan gynnwys y Llwybr Celtaidd.
Taith Taf – ambell awgrym
Un o’r pethau gorau am Daith Taf ydy nad oes yn rhaid i chi wneud y daith gyfan mewn un gwynt. Dewiswch ran yn unig i’w chrwydro, ac wedyn cerddwch neu ewch mewn car, ar feic neu ar drên i’ch man cychwyn.
Os hoffech chi logi beic, mae Pedal Power ger Parc Bute yn cynnig digon o ddewis, gan gynnwys beics hygyrch. Maen nhw hefyd yn gallu llogi beics dwy olwyn a beics hygyrch o ganolfan dymhorol ym Mae Caerdydd yn ystod yr haf. Mae Ding Cycle Tours yn cynnig amryw o deithiau tywys yng Nghaerdydd, gan gynnwys teithiau unigryw i chi.
Helpwch Gymru i ddod yn Genedl Ail-lenwi o fri drwy ail-lenwi eich potel ddŵr yn y mannau pwrpasol cyn cychwyn ar eich taith. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Refill Wales, gan gynnwys gwybodaeth am sut i lawrlwytho’r ap Refill yn rhad ac am ddim er mwyn dod o hyd i’ch lle ail-lenwi agosaf.
Mae rhagor o wybodaeth am ddillad ac esgidiau addas, yn ogystal â gwybodaeth am warchod a mwynhau cefn gwlad, yn y Cod Cefn Gwlad.