Ewch i Gastell Caerdydd

Ffordd hwyliog o dreulio'ch awr gyntaf yn y ddinas yw trwy grwydro Castell rhyfeddol Caerdydd. Mae bron yn 2000 o flynyddoedd oed, ond yn y 19eg ganrif gweddnewidiwyd y tu mewn yn foethus gan y pensaer William Burges. Ymunwch â thaith, i weld yr addurn cain, y cerfiadau cywrain a’r lliwiau cyfoethog sy'n asio arddulliau Arabaidd, Gothig a Chanoldirol. I gael golygfa wych o'r ddinas a thu hwnt, dringwch i ben y gorthwr cyn i chi adael.

Golygfa o ganol dinas Caerdydd o'r castell
Banqueting Hall in Cardiff Castle

Castell Caerdydd

Mwynhewch fannau gwyrdd y ddinas

Ger Castell Caerdydd mae Parc Bute, un o fannau gwyrdd eang y ddinas. Gallwch grwydro tiroedd eang Parc Bute ar droed: cerddwch ar hyd yr Afon Taf, sy'n rhedeg drwy'r parc, mynnwch gipolwg ar fywyd gwyllt lleol, neu ymlaciwch gyda phicnic.

Mae’r parc yn rhan o Lwybr Taf, llwybr poblogaidd rhwng Bae Caerdydd ac Aberhonddu, sy’n dod â llawer o feicwyr i’r ddinas. Os ydych chi'n awyddus i dreulio rhywfaint o'ch diwrnod yn beicio, gallwch logi beiciau o safon o Pedal Power wrth ymyl y parc. Llenwch eich boliau yn Secret Garden Cafe - mae'n gaffi bendigedig yng nghanol y parc, sy'n defnyddio cynnyrch lleol ac yn creu prydau llysieuol a fegan bendigedig.

Pont y Gored Ddu, dros yr Afon Taf Caerdydd
Cwpl yn cerdded trwy barc gwyrdd gyda blodau

Parc Bute, Caerdydd

Mwynhewch ychydig o ddiwylliant

Treuliwch ychydig o amser yn un o amgueddfeydd Caerdydd. Mae'r Hen Lyfrgell yn gartref i Amgueddfa Caerdydd, lle mae hanes y ddinas yn cael ei adrodd trwy straeon, ffotograffau, ffilmiau, gwrthrychau ac arddangosion rhyngweithiol. Fel arall, efallai cewch eich hudo am rai oriau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r adeilad mawreddog yn gartref i gasgliad enfawr o gelf yr Argraffiadwyr, yn ogystal â darnau o dros 500 mlynedd o hanes celf, arddangosion byd natur ac arddangosfeydd teithiol.

I'r rhai cerddorol, galwch heibio'r siop recordiau hynaf yn y byd

Cymru yw gwlad y gân, ac mae Caerdydd yn gartref i siop recordiau hynaf y byd. Agorodd Spillers Records ym 1894, gan ddod â recordiau, perfformiadau byw a lleoliad i gerddorion gymysgu. Ar ôl symud ychydig o weithiau mae’r siop bellach wedi sefydlu ar gornel Morgan Arcade. Galwch i mewn i bori drwy raciau o hanes cerddoriaeth. Gall amser hedfan yno!

Golygfa o du allan siop recordiau.
A man looking at a tray full of vinyl records inside a record shop.
Arwyddion Spiller Records

Spillers Records, Caerdydd

Bwyta yn Elevens Gareth Bale

Dyw bod yn bêl-droediwr byd enwog i Real Madrid a Chymru ddim yn ddigon i'r seren ryngwladol Gareth Bale, mae ganddo hefyd far chwaraeon a bwyty yn ei dref enedigol. Pan agorodd Elevens gyntaf yn 2017, creodd Bale bartneriaeth â bragdy mwyaf Caerdydd, Brains, i ddod â bwyd a chwrw lleol i'r lleoliad. Mae bellach yn fenter annibynnol, ond mae'n cadw ei henw fel lle delfrydol i fachu peint a thamaid i'w fwyta wrth wylio gêm ar un o'r sgriniau chwaraeon.

Ymlacio ar ôl diwrnod prysur

Yn goron ar y diwrnod, beth am ymlacio yn un o leoliadau cerddoriaeth a chelfyddydau gwych Caerdydd, megis Canolfan y Celfyddydau Chapter yn Canton neu'r Tramshed yn Grangetown. Neu, os ydych chi awydd llymaid bach cyn gwely, mwynhewch beint yn un o dafarndai hynaf canol dinas Caerdydd, y City Arms, sydd wedi'i leoli gyferbyn â'r stadiwm.

The City Arms Pub.
Tu mewn i gaffi bar prysur

Y City Arms a Chanolfan y Celfyddydau Chapter

Straeon cysylltiedig