Yn wreiddiol o Flaenau Gwent, Janine Price yw’r un berffaith i rannu’r lleoliadau gorau yn yr ardal ar gyfer rhedeg, cerdded a beicio. Yn 2015 dechreuodd ar ei thaith ffitrwydd bersonol a thrawsnewidiodd ei bywyd, gan wella ei hiechyd a'i llesiant. 

Dechreuodd y cyfan pan ddechreuodd Janine ar y rhaglen ‘Couch to 5K’. Postiodd ei llwybrau rhedeg ar y cyfryngau cymdeithasol i annog eraill. Cynyddodd y nifer fyddai’n ei dilyn, wrth i fwy a mwy o bobl fod eisiau gweld ei thaith, a’i cymerodd yr holl ffordd at gystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd.

Menyw yn rhedeg ar draws rhostir gyda bryniau yn y cefndir.

Janine Price yn rhedeg ar hyd y copa

Daeth ynghyd ag unigolion eraill oedd o’r un awydd â hi i ymarfer fel grŵp, ac mae’i gweithgareddau wedi cynyddu o’r fan honno. Mae Janine yn cynnal dosbarthiadau ‘boot-camp’ a gwersi gymnasteg – â phobl o 8 i 96 oed yn cymryd rhan!

Chwe blynedd ers i Janine ddechrau ymarfer yn rheolaidd, nid yn unig mae hi wedi gwella’i hiechyd, ond mae hi hefyd wedi annog pobl o bob gallu yn yr ardal leol i ymuno â hi i wella'u hiechyd a llesiant.

Sefydlodd y Blaenau Gwent Sole Sisters, clwb cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n hoffi ffitrwydd, ac mae hi’n hybu manteision gweithgaredd corfforol yn y gymuned drwy gynnal sesiynau rhedeg mewn ysgolion a chanolfannau chwaraeon.

Hoff lwybrau ar gyfer rhedeg, beicio a cherdded

Llwybr Ebwy Fawr (6 milltir / 9.7 km, ychydig o risiau)

Braint o’r mwyaf yw cael Llwybr Ebwy Fawr, ar gyfer rhedeg, cerdded a beicio, ar garreg fy nrws. Mae’n mynd am ffordd bell o gwmpas y dyffryn gan ddechrau yng Nglynebwy a mynd o gwmpas Blaenau Gwent i gyd. Mae’r golygfeydd yn rhyfeddol ar hyd rhannau o’r llwybr! Yn ogystal â’r golygfeydd hyfryd, rydych chi’n pasio ambell le hanesyddol ar hyd y ffordd, felly mae wir yn llwybr gwych.

Fe wnes i ddefnyddio’r llwybr hwn wrth hyfforddi ar gyfer yr hanner marathon er mwyn cynnal fy milltiroedd, a byddai’r golygfeydd yn fy ysbrydoli’n fawr!

Os nad ydych chi ar lefel marathon eto, peidiwch â phoeni – mae’r llwybr yn addas i bob gallu ac mae’n lle perffaith ar gyfer mynd am dro neu ar gefn beic gyda’r teulu hefyd. Gallwch ddysgu am hanes lleol ar hyd y ffordd, gan basio hen bwll glo a’r Gwarcheidwad, cerflun 20 metr o daldra a godwyd i gofio trychineb lofaol Glofa Six Bells yn 1960. 

Menyw yn eistedd ar lanfa ar lan llyn.
Menyw yn edrych ar arwydd gwybodaeth am Barc yr Ŵyl.

Janine Price ym Mharc yr Ŵyl

Mae Parc yr Ŵyl yn lle da i ddechrau ar y llwybr, ac mae digonedd o lefydd parcio. Ac os hoffech chi ddarganfod ardal fwy eang, mae’r llwybrau’n cysylltu â llwybrau eraill yn yr ardal fel Llwybr Ebwy Fach.

Gwarchodfa Natur Cwm Tawel

Rwy’n teimlo’n eithriadol o lwcus fod Gwarchodfa Natur Cwm Tawel o fewn pellter cerdded agos iawn at fy nghartref (ac mae lle parcio i bobl sydd ddim yn gallu cerdded yno!). Dyma le hardd iawn ble gallwch weld tro’r tymhorau – yr uchafbwyntiau yw’r newid yn y lliwiau yn yr hydref a’r clychau gog yn y gwanwyn.

Mae 50 hectar i’w darganfod a gallwch ddilyn dau lwybr cerdded drwy’r goedwig, i gael cip ar adar a bywyd gwyllt, gan gynnwys brogaod, madfallod a ieir bach yr haf.

Parc Bryn Bach

Mae Parc Bryn Bach yn hardd iawn, ac yn ffordd wych o fwynhau’r awyr agored – gallwch gerdded, rhedeg neu feicio, a mynd â’r ci gyda chi. Dyma em go iawn ym Mlaenau Gwent, un o fy hoff lefydd. Hefyd, mae golff ar gael i fwynhau’r awyr iach mewn ffordd fwy hamddenol, a lle chwarae newydd i blant a agorwyd ym mis Gorffennaf 2020. Mae digonedd o fywyd gwyllt, gyda hwyaid, elyrch, gwyddau a llawer o adar eraill i’w gweld.

Cyfle gwych i ddod ynghyd gydag eraill i ymarfer yw’r ‘Parkrun’ wythnosol – sesiwn rhedeg 5km wedi’i amseru, sy’n rhad ac am ddim ac yn digwydd bob bore Sadwrn. Mae’n un o’r ‘parkruns’ mwyaf poblogaidd oherwydd y golygfeydd, mae mor hardd.

Dyma em go iawn ym Mlaenau Gwent, un o fy hoff lefydd.”

Mae digon o anturiaethau adrenalin i bobl o bob oed hefyd – gan gynnwys trac BMX, lleoliad bwa a saeth, a theithiau lleol i ddarganfod ogofeydd, dringo ac abseilio, neu gyrsiau tywys o gwmpas Cymru i roi cynnig ar arfordira, sgramblo neu rafftio.

Maen nhw hefyd yn cynnig padl-fyrddio ar eich traed (SUP) yno – fe rois i gynnig arno yn yr haf fel rhan o lwybr, ac roedd yn anhygoel! Maen nhw’n gobeithio’i agor ymhellach fel bod modd i bobl ddod heibio a chymryd rhan yn y fan a’r lle, yn ogystal ag ymuno â’r dosbarthiadau.

Os oes angen lluniaeth arnoch chi ar ôl yr holl gyffro, mae canolfan ymwelwyr a chaffi ar y safle ble gallwch fwynhau hufen iâ neu ymlacio gyda phaned hyfryd o de.

Trefil

Mae llawer o fynyddoedd y gallwch chi eu dringo o gwmpas Blaenau Gwent, ond un o fy ffefrynnau yw Trefil. Mae digonedd o lwybrau rhedeg, cerdded a beicio i’w dilyn o Drefil, a digonedd o hanes hefyd.

Carreg fawr a chofeb.
Menyw’n cerdded ar fryn.

Carreg Goffa Aneurin Bevan a Janine Price yn heicio fyny Drefil

Mae’n cynnwys cerrig coffa Aneurin Bevan, a osodwyd i goffáu Aneurin Bevan, a sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Dyma safle hanesyddol, a bydd llawer o bobl yn dod i ymweld am fod ganddyn nhw ddiddordeb yn y GIG. Mae’r Naughty Stone yma hefyd – mae’r golygfeydd yn ysgubol o’r fan honno.

Menyw’n eistedd ar garreg fawr gan edrych allan dros yr olygfa.
Plac y Naughty Stone.

Janine Price yn eistedd ar y Naughty Stone

O Drefil gallwch fynd i Dal-y-bont ar Wysg neu Ferthyr ar droed neu ar feic, ac mae’r llwybrau’n hollol wefreiddiol. Mae hen setiau ffilmiau ar hyd y ffordd, ar gyfer ffilmiau cowbois, Doctor Who ac eraill – mae’n enwog am leoliadau ffilmio rhaglenni teledu a ffilmiau.

Gallwch fynd i Fynydd Llangynidr, sy’n ardal arall ble dwi wrth fy modd yn ymarfer hefyd. Cofiwch fynd â map a chwmpawd gyda chi ac fe gewch eich gwobrwyo gyda golgyfeydd anhygoel i bob cyfeiriad.

Ac wrth gwrs, gallwch fynd i fyny ac o gwmpas Trefil ei hun, a gweld safle cofeb damwain y Wellington Bomber, ble collodd chwech o ddynion eu bywydau yn 1940. Efallai nad dyma’r llwybrau mwyaf enwog nac adnabyddus, ond maen nhw yr un mor hardd, a phrin y byddwch chi’n gweld yr un enaid byw arall!

Mannau i ymweld â nhw ym Mlaenau Gwent a’r cyffiniau

Bwyd a diod

Mae cael bwyd yng nghanol awyrgylch twt a threfnus parc a gerddi Tŷ a Pharc Bedwellte yn Nhredegar wastad yn arwain at luniau gwych ar gyfer Instagram! Ac nid dim ond y llygaid fydd yn cael eu bodloni, mae’r bwyd yn ardderchog hefyd a gallwch fwynhau te prynhawn mewn lleoliad hanesyddol.

Lle arall ble byddwch yn debygol o ’ngweld i’n aml yw Morgans Wine Bar yng Nglynebwy, lle hyfryd i fwyta. Mae The Mountain Air yn Nhrefil yn un arall o’m ffefrynnau, a dyma le gwych i orffen y dydd ar ôl darganfod un o’r llwybrau a argymhellwyd gen i uchod.

Gem arall gyfagos i gael pryd o fwyd gyda ffrindiau yw Gwinllan Pen-y-fâl yn y Fenni. Mae’r bwyd yn wych, y golygfeydd yn ysgubol, ac mae cyfle i flasu’r gwin sy’n cael ei wneud ar y safle. Be well?!

Siop ac ardal gaffi awyr agored.
Menyw’n cerdded drwy’r gwinwydd mewn gwinllan.
Melin ddŵr henffasiwn.

Janine Price yng Ngwinllan Pen-y-fâl

Aros

Mae llawer o lefydd gwely a brecwast (B&B) cyfeillgar yn yr ardal, ynghyd â llety hunan-arlwyo. Os ydych chi’n dymuno gwyliau awyr agored, mae Parc Bryn Bach yn cynnig llecynnau ar gyfer pebyll, carafanau a cherbydau gwersylla drwy gydol y gwanwyn, yr haf a’r hydref. I bobl sy’n fwy cysurus mewn gwesty, mae Premier Inn ar gael yng Nglynebwy.

Os ydych chi’n dymuno mynd i’r gampfa pan fyddwch chi’n aros yn yr ardal, mae gan Aneurin Leisure dair canolfan hamdden leol ym Mlaenau Gwent, yng Nglynebwy, Tredegar ac Abertyleri, ac mae’r tair yn gampfeydd hamddenol ble cewch groeso cartrefol.

Lleoedd cyfagos o ddiddordeb

Mae cymaint o lecynnau o harddwch naturiol o fewn 30 milltir o Flaenau Gwent, gan gynnwys llawer mwy o lwybrau cerdded a rhedeg. Rydyn ni ar gyrion Bannau Brycheiniog, felly mae’n safle gwych i ymwelwyr. I ddianc rhag torfeydd Pen-y-fan, byddai’n mynd i weld y perlau cudd yn lle.

Rhai o fy hoff rai yw’r Blorenge, Pen-y-fâl, a Mynydd Crug Hywel i enwi rhai’n unig – ac i unrhyw un sydd â diddordeb o ddifri mewn rhedeg llwybrau lleol (neu i rai sy’n well ganddyn nhw gerdded), hoffwn argymell Trail Runs in the Brecon Beacons gan Lily Dyu a John Price. Mae’r llyfr yn rhoi manylion pellter a map pob llwybr ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol arall fydd yn eich helpu i wneud y gorau o’ch sesiwn ymarfer.

Mae Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy’n hawdd i'w cyrraedd, ac mae yma lwybr hygyrch sy’n wych ar gyfer pob math o ymarfer, ac ar gyfer gweld bywyd gwyllt. Mae digon o dafarndai da ar hyd y ffordd hefyd, felly esgus da i oedi am luniaeth ysgafn! Gwn am y rhain am fy mod wedi trefnu teithiau cerdded elusennol yn y gorffennol ar hyd y ffordd hon – ac mae’r tafarndai’n bendant yn denu pobl i gymryd rhan!

Golygfa o’r gamlas o fainc ar y llwybr.
Janine Price, Llangatwg, Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy, Canolbarth Cymru.

Janine Price yn rhedeg ar hyd Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy

Mwy o wybodaeth

Menyw’n cerdded dros bont dros lyn.

Janine Price ger Llyn Syfaddan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Canolbarth Cymru

Straeon cysylltiedig