Yn y de: Cyrsiau a phrofiadau penigamp
Hoe a sba dinesig yng ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd
Ar ddiwrnod cyntaf ein taith drwy’r de, arhoson ni yng ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd. Dyma le heb ei ail am hoe fach yn y ddinas. Mae’n amhosib bod mewn lle mwy canolog, felly mae popeth ar garreg y drws. Roedd yr ystafelloedd yn hyfryd, yn fodern eu dyluniad, a digonedd o le ynddyn nhw. Yn goron ar y cyfan, dyna i chi’r sba ar y to. Roedd hi’n wych cael ymlacio yn y pwll gorwel, a hwnnw’n rhoi golygfeydd ysblennydd dros Gaerdydd.


Crwydro Caerdydd: Marchnadoedd, cestyll a choginio Cymreig
Mae popeth o fewn tafliad carreg yng Nghaerdydd, ac mae’n rhwydd crwydro ar droed. Aethon ni i siopa yn Arcêd Dewi Sant a mynd am dro i Gastell Caerdydd. Roedd hi’n ddiwrnod heulog, braf – diwrnod perffaith i grwydro linc-di-lonc o amgylch y ddinas.
I fewn i Farchnad Caerdydd â ni wedyn. Dyma un o fy hoff lefydd, sy’n gwerthu bwydydd o bob math dan haul. Da chi, cofiwch brynu teisen gri o Bakestones. Sais ydy Russ, ac felly rydw i wrth fy modd yn dangos traddodiadau Cymru iddo. Mae Russ wedi gwirioni ar deisennau cri.
Amser swper, aethon ni i Asador 44, bum munud ar droed o’r gwesty. Cawson ni blatiad i’w rannu o syrlwyn eidion Cymreig oedd wedi bod yn hongian am ddeugain diwrnod. Cwbl benigamp. Dydw i erioed wedi cael pryd gwael o fwyd yno. Os ydych chi awydd stecen yng Nghaerdydd, Asador 44 amdani bob tro. Rydych chi wastad yn siŵr o gael stecen dda.



Chwarae yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl – cwrs gorau Cymru
Ar ôl brecwast, dyma ffarwelio â Chaerdydd ac anelu am Gwrs Golff Brenhinol Porthcawl. Am gwrs ysblennydd. Mae’n cael ei ystyried yn gwrs gorau Cymru am reswm. Mae Russ a finnau wedi chwarae ym mhedwar ban byd, mewn llefydd go arbennig, ac mae’r cwrs hwn wastad ymhlith ein pump uchaf. Os ydych chi’n chwarae golff, mae’n rhaid i chi roi tro ar chwarae ym Mhorthcawl. Mewn haul neu hindda, mae’n lle godidog. Mae’r ffyrdd chwarae fel carped, a’r lawntiau pytio yn rhai heb eu hail. Mae popeth fel pin mewn papur. Bob tro y bydda’ i’n y cyffiniau, rydw i’n ysu am gael mynd yno i chwarae.
Mae’r clwb eisoes wedi croesawu Cwpan Walker a’r Bencampwriaeth Agored i chwaraewyr hŷn. Mae’r ffaith bod Pencampwriaeth Agored AIG y Menywod yn dod yma eleni yn dangos cystal cwrs ydy hwn.

Coffi yn Baffle Haus a thwyni tywod Merthyr Mawr
Ar y ffordd, dyma stopio am baned fach yn Baffle Haus ger y Bont-faen. Dyma gaffi go anarferol, gyda beiciau modur a cheir clasurol o’ch cwmpas. Mae’n amlwg yn lle poblogaidd ymhlith gyrwyr beiciau modur a phobl sy’n ymddiddori mewn ceir.
Cawson ni hoe sydyn ym Merthyr Mawr ger Pen-y-bont ar Ogwr hefyd. Mae’r ardal hon o dwyni tywod gyda’r mwyaf yn Ewrop. Er fy mod i o’r de fy hun, doeddwn i erioed wedi bod yno o’r blaen. Mae pob math o bethau anhygoel ar garreg ein drws ni yn y rhan hon o Gymru.


Llety yn Nhŷ Newport a golffio yn y Celtic Manor
Tŷ Newport oedd ein stop nesaf. Mae’n un o fusnesau Celtic Connection ac yn agos at westy’r Celtic Manor yng Nghasnewydd. Mae’n opsiwn rhesymol ei bris os ydych chi’n awyddus i roi tro ar gyrsiau golff y Celtic Manor. Mae’n lle gwych i aros: yn lân, yn fodern ac yn gyfforddus dros ben. Ac wrth gwrs, mae tri cwrs golff gwych o fewn tafliad carreg i chi.
Her Cwpan Ryder: Cwrs ‘Twenty Ten’ yn y Celtic Manor
Hwn oedd y tro cyntaf i mi chwarae ar gwrs ‘Twenty Ten’ y Celtic Manor. Ac am gwrs golff a hanner! Mae cwrs Porthcawl yn ddigon heriol, ond mae’r holl ddyfroedd ar y ‘Twenty Hen’, ac yn wir holl faint y cwrs, yn anhygoel. Roedd hi’n rownd go galed, fel y byddech chi’n disgwyl ar un o gyrsiau Cwpan Ryder, ond yn brofiad cwbl werth chweil. Cawson ni hefyd dag bag Cwpan Ryder 2010 ar ôl ein rownd – rhywbeth bach i gofio, oedd yn braf iawn.
Bwyta a chrwydro ym Marchnad Casnewydd
Dyma stopio am lymaid yn y Merlin’s Bar yn y Celtic Manor cyn troi ein trwynau i ganol Casnewydd, er mwyn cael tamaid i’w fwyta ym Marchnad Casnewydd. Mae’n lle bwyd stryd heb ei ail, gyda llwythi o stondinau, a hynny yn y neuadd farchnad hanesyddol. Mae’n gaffaeliad gwych i ganol y dref, ac mae’n hawdd gweld pam fod y lle mor boblogaidd.



Y gogledd: Meysydd golff o fri a phrofiadau unigryw
Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant – meysydd golff enwog Harlech
Dechreuon ni yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn Harlech. Rydw i wedi chwarae yno o’r blaen, ond dyma brofiad sydd wastad yn fythgofiadwy. Rydych chi’n chwarae’r holl rownd yng nghysgod y castell, ac mae’n rhaid crafu pen cyn pob ergyd. Maen nhw’n dweud mai cwrs Dewi Sant ydy cwrs pâr 69 anoddaf y byd. Mae’r ffyrdd chwarae’n gul iawn, ac os na fyddwch chi’n eu taro, rydych chi mewn trafferthion. Ond mae’r her yn rhan fawr o’r apêl. Roedden ni’n sgwrsio â phobl ar y ffordd, ac roedd llawer wedi teithio o bell i fod yno. Roedd llawer yn aelodau, er eu bod nhw’n byw yn bell, a dyna roi syniad i chi pa mor arbennig ydy’r cwrs hwn.



Hoe am goffi yn Narrative yn Rhaeadr
Ar ein ffordd i Harlech, dyma stopio yn Narrative yn Rhaeadr. Siop goffi annibynnol wych ydy hon sy’n cynnig amrywiaeth hynod o baneidiau. Cawson ni goffi blas mango, oedd yn benigamp. Dylech chi’n sicr stopio fan hyn os ydych chi’n gwirioni ar goffi.

Swper yn y Fanny Talbot a llety yn Aberdyfi
Yn y Fanny Talbot yn y Bermo y cawson ni swper. Ac yma y ces i rywfaint o’r bwyd mwyaf blasus i mi’i gael erioed. Cefais i’r eog confit gyda wystrysen grimp i ddechrau, a lleden fôr hynod ffres o’r badell fel prif bryd. Cafodd Russ y cig oen Cymreig – y cig oen gorau iddo’i gael erioed, meddai. I goroni’r cyfan, y gacen gaws fefus a gawson ni i bwdin oedd y gacen gaws fwyaf anhygoel i ni’i chael yn ein bywydau.
Dros nos, arhoson ni yng ngwesty’r Trefeddian yn Aberdyfi. Dyma blasty traddodiadol hyfryd, sy’n rhoi golygfeydd rhyfeddol dros y môr a’r cwrs golff. Mae gan y gwesty gwrs pitsio a phytio bach, hyd yn oed. Y lle delfrydol i gynhesu cyn rownd yng Nghlwb Golff Aberdyfi.



Rownd hudolus yng Nghlwb Golff Aberdyfi
Codon ni cyn cŵn Caer yn barod i chwarae yn Aberdyfi. Dydw i ddim eisiau dweud mai dyma fy hoff gwrs yng Nghymru, gan fy mod i’n hoff ohonyn nhw i gyd, ond mae rhywbeth arbennig iawn am y lle hwn. Mae rhyw deimlad hudolus i’r lle. Pam? Y cyfuniad unigryw o nodweddion naturiol gwyllt a lawntiau gwyrdd dilychwin. Ar ôl ychydig o law a chyfnod o dywydd sych, roedd cyflwr y cwrs yn gwbl wefreiddiol. Roedd chwarae yno’n bleser pur.



Noson ym Mhortmeirion
Ar ôl ein rownd yn Aberdyfi, dyma anelu am Bortmeirion, pentref ffantasi rhyfeddol sy’n sefyll uwchben aber afon Dwyryd. Arhoson ni yn un o’r ystafelloedd yng nghanol y pentref. Roedd hi’n wych bod yng nghanol lle mor anarferol, ond roedd hi’n well byth ar ôl i’r gatiau gau i ymwelwyr y dydd, a ninnau’n cael yr holl le i ni’n hunain. Yn sydyn, mae pawb yn diflannu, a’r awyrgylch yn y pentref yn gwbl wahanol.



Cawson ni swper yn yr Ystafell Fwyta, bwyty dau rosglwm AA y gwesty. Mae hwnnw mewn adeilad art deco braf ar lan y dŵr, sy’n gwneud i chi deimlo eich bod chi’n bwyta ar long foethus. Fel popeth ym Mhortmeirion, mae’n anarferol tu hwnt.


Golff mini tanddaearol yn Zip World Llechwedd
A sôn am brofiadau anarferol, roedd ein gêm ni heddiw yn un arallfydol. Dyma droi am Zip World Llechwedd, lle cawson ni rownd o golff mini tanddaearol. Roedd yn rhaid dal trên i lawr i berfeddion yr ogofâu llechi, lle roedd cwrs golff mini 18 twll llawn hwyl yn ein haros. Dyma’r cwrs dyfnaf o’i fath yn y byd, a goleuadau neon lliwgar yn dangos y ffordd. Gwahanol iawn i’n gemau golff arferol, ond cawson ni fodd i fyw. Dyma un o’r dwsinau o weithgareddau sydd ar gael yn safleoedd Zip World ledled Cymru.

Reidio gwifren wib gyflymaf y byd yn Zip World Penrhyn
A finnau’n credu mai golff tanddaearol fyddai’r peth hynotaf i mi’i wneud y diwrnod hwnnw, roedd mwy i ddod. Dyma droi am Zip World Penrhyn, gan yrru i’r gogledd drwy gopaon Eryri i gael reid ar Velocity. Dyma wifren wib gyflyma’r byd, a phrin y galla’ i ddisgrifio’r teimlad. Ers cyrraedd adref, rydw i wedi bod yn annog pawb i fynd a rhoi cynnig arni.



Llety moethus a chiniawa cain yng Ngwesty Gwledig Plas Dinas
Ar ein noson olaf, arhoson ni yn ystafell y Dywysoges Margaret ym Mhlas Dinas, gwesty gwledig ardderchog ar gyrion Caernarfon. Roedd yr ystafell yn foethus ryfeddol, gyda phethau fel gwely pedwar postyn crand ac ystafell ymolchi anferth (mwynhaodd Russ yn enwedig y deisen frau a’r wisgi Cymreig a gawson ni i’n croesawu).
Dyma fwynhau ychydig o goctels a chanapes cyn swper ym mwyty’r Gunroom. Gan y cogydd Daniel ap Geraint (sydd wedi ymddangos ar raglen y Great British Menu), cawson ni bryd pum cwrs ysblennydd, a hwnnw’n llawn cynhwysion lleol. Y ffiled o gig eidion Cymreig oedd yr uchafbwynt. Roedd yn brofiad rhamantus tu hwnt ac yn ddiwedd campus i’n hantur golffio yng Nghymru.



Pam fod Cymru’n lle penigamp i chwarae golff
Go brin fod digon o bobl yn gwybod am Gymru fel lle golffio. Nid yn unig y mae’n fforddiadwy dros ben wrth ddod i chwarae golff – yn wir, mae gyda’r llefydd rhataf yn y byd yn hynny o beth – ond mae’r dirwedd a’r pethau sydd i’w gwneud a’u gweld o gwmpas y cyrsiau golff yn syfrdanol. O chwarae yng nghysgod copaon Eryri i wylio’r syrffwyr ar frig y tonnau o ddeunawfed twll Porthcawl – mae’r amrywiaeth yn ddi-ben-draw.
Ar ben hynny, mae’r croeso Cymreig yn gwbl werth chweil. Ym mhob cwr o Gymru, mae gan bobl wên ar eu hwynebau. Bydd pawb yn y clwb golff yn barod i roi croeso gwresog i chi, a byddan nhw wrth eu boddau eich bod chi’n crwydro eu gwlad brydferth nhw.
