Celtic Manor Resort, Casnewydd

Mae pawb sy’n hoff o golff yn adnabod Celtic Manor Resort wedi iddo serennu yng Nghwpan Ryder 2010, ond mae'n cynnig llawer mwy na golff. Ochr yn ochr â'i dri chwrs pencampwriaeth, sef Roman Road, Montgomerie a Twenty Ten, mae'n cynnig llety moethus, amrywiaeth o fwytai o safon a'r cyfle i ymlacio yn Forum Spa. Gydag amrywiaeth o driniaethau y sba yw'r lle perffaith i fagu nerth ar ôl diwrnod ar y cwrs. 

Golygfa o gwrs golff gyda choed ac awyr las
Dwy ddynes yn y sba yng ngwesty Celtic Manor.
menyw yn gorwedd ar ei blaen yn cael triniaeth sba.

Cwrs golff a Forum Spa, Celtic Manor Resort, Casnewydd

The Vale Resort, Bro Morgannwg

Wedi'i enwi'n Westy Golff Gorau a Chyrchfan Sba Gorau Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Golff y Byd 2019, mae’r Vale Resort ychydig y tu hwnt i Gaerdydd yn rhagori ar bob lefel. Mae’r golff ar ffurf dau gwrs pencampwriaeth The Lake a The National (sydd, yn 7,433 o lathenni, ymhlith y cyrsiau hwyaf y tu allan i'r Unol Daleithiau). O ran sba, mae gan Vale Spa 19 o ystafelloedd triniaeth a phum ardal ymlacio bwrpasol sy'n cynnig moethusrwydd arbennig.

Gwesty gyda llyn a thir hardd o'i flaen.

The Vale Resort, Hensol

Clwb Golff a Sba Penrhyn Machynys, Llanelli

Efallai bod Penrhyn Machynys yn gwrs gweddol newydd (agorodd yn 2005), ond mae eisoes yn cael ei ystyried ymhlith y goreuon o ran golff. Gyda’r cwrs cyntaf yng Nghymru wedi’i ddylunio gan Nicklaus, mae wedi cynnal 12 o bencampwriaethau, gan gynnwys dwy bencampwriaeth Royal & Ancient a phedair Pencampwriaeth LET Cymru Ewrop Cwpan Ryder. Mae hefyd yn gartref i Monks Premier Spa, sy'n addo lleddfu eich meddwl, eich corff a'ch enaid yn ogystal â'ch croen a'ch cyhyrau. Brwydrwch y blinder gyda thyliniad bambŵ neu anadlwch yr arogleuon yn yr ystafell aromatherapi.

Marriott St Pierre, Cas-gwent

Mae Marriott St Pierre yn gyrchfan golff o’r radd flaenaf. Gyda dau gwrs parcdir o safon – 7,028 o lathenni yw Championship Old Course a 5,730 o lathenni yw Mathern Course – mae wedi cynnal llawer o gystadlaethau gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau Taith Ewropeaidd a Chwpan Solheim. Mae sba The Beauty Rooms yr un mor drawiadol gan gynnig llond gwlad o driniaethau pampro.

Bryn Meadows, Ystrad Mynach

Mae cwrs parcdir par-71 Bryn Meadows yn cynnwys digon o heriau yn ei 6,156 o lathenni. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae'r ail dwll unigryw, sy’n 557 llath o dwll par-5 gyda thrydedd ergyd anodd dros ddŵr. Oddi ar y cwrs, mae Fusion Spa yn cynnig pwll dan do cynnes, hydrospa, jacwsi a sawl ystafell driniaeth.

St Bride’s Spa Hotel, Saundersfoot

Iawn, rydyn ni'n twyllo ychydig gyda hon. Efallai nad gwesty golff mo gwesty moethus St Brides Spa, ond ni fyddai rhestr o sbas Cymru yn gyflawn hebddo. Yn uchel ar glogwyn sy'n edrych dros y môr a thref wyliau Saundersfoot yn Sir Benfro, mae'n gwneud y defnydd gorau posibl o'i leoliad syfrdanol. Mae pwll godidog ac ystafell driniaeth arfordirol ysblennydd gyda ffenestri o'r llawr i'r nenfwd.

I'r golffwyr, mae Clwb Golff Dinbych-y-pysgod gerllaw’n brofiad na ellir mo’i golli. Cafodd ei sefydlu yn 1888, ac mae’n honni’n mai dyma man geni golff Cymru. Wedi'i osod allan gan y chwaraewr a'r dylunydd cwrs o fri, James Braid, mae'n glasur o faes golff sy’n frith o dwyni sydd – fel St Brides Hotel – yn cynnwys golygfeydd godidog o'r môr.

Straeon cysylltiedig