Aberdyfi

Rydym yn haeddiannol falch o'n meysydd golff yma yng Nghymru. Clwb Golff Aberdyfi yw un o'r rhesymau pam. Wedi’i wasgu rhwng twyni arfordir Dyfi a chopaon Parc Cenedlaethol Eryri, lluniwyd ei gynllun gymaint gan fyd natur â'i ddylunwyr dynol, sy'n cynnwys mawrion fel Herbert Fowler a James Braid. Gair i gall serch hynny: bydd chwaraewyr sy'n chwilio am amodau hawdd yn cael eu siomi. Mae gêm yn safle gwyllt a gwyntog Aberdyfi yn brofiad elfennol, yn gyfuniad o dir garw a thywydd garw sy'n cynnig heriau o’r newydd gyda phob rownd.

 pobl yn chwarae golff ar grîn gyda'r môr yn y cefndir

Clwb Golff Aberdyfi

Conwy

Mae angen i safle fod yn eithaf arbennig i fod yn amlwg yn y byd golff yng ngogledd Cymru sy'n cynnwys bron i 50 o gyrsiau gwych, ond mae cwrs Conwy sy’n gymwys am y Gystadleuaeth Agored yn bendant yn serennu. Mae'n rhaid i unrhyw un sy’n dwlu ar feysydd golff ymweld, am fod yma golff fel y bwriadwyd erioed iddo gael ei chwarae – profiad elfennol sy'n cyfuno peryglon naturiol â dyluniad cwrs gofalus. Mae’n edrych yn weddol wastad ar yr olwg gyntaf efallai, ond mae'r gwyntoedd sy'n chwythu o Fôr Iwerddon yn golygu na allwch gymryd unrhyw beth yn ganiataol. 'Awesome' yw’r gair a ddewisodd Sam Torrance, arwr Cwpan Ryder Ewrop, i ddisgrifio Conwy. Rydym yn siŵr mai cytuno gwnewch chi.

Pobl yn chwarae golff ar grîn

Clwb Golff Conwy

Dewi Sant Brenhinol

Yn enwog am fod yn gwrs par-69 anoddaf y byd, nid cwrs i’r gwangalon mo Dewi Sant Brenhinol. Ar dir a oedd dan y tonnau ychydig ganrifoedd yn ôl, bydd ei dwyni tal a'i ffyrdd teg tonnog gwir yn herio hyd yn oed y mwyaf galluog. Yn cynnwys dewis di-ri o dyllau sy'n amrywio o ran hyd a chyfeiriad, bydd angen pob ffon yn eich bag arnoch i gael sgôr isel. Mae Castell Harlech yn clwydo ar frigiad creigiog wrth ymyl y cwrs.

Golygfa o gwrs golff a'r grîn gyda'r goes fflag, a Chastell Harlech ar fryn yn y cefndir

Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech

Nefyn a’r Cylch

Mae'n anodd cael gwell na chwrs Nefyn ar Ben Llŷn. Mae wyth twll olaf yr Hen Gwrs wedi'u gosod ar lain gul o dir sy'n estyn i Fôr Iwerddon. Gyda chlogwyni serth i bob ochr a gwyntoedd sy'n newid o hyd, mae rownd yma'n aml yn heriol.

Golygfa o'r awyr o gwrs golff Nefyn ar benrhyn yn ymestyn tua'r tonnau.
Person yn chwarae golff ar grîn wrth ymyl y môr.

Clwb Golff Nefyn a’r Cylch, Morfa Nefyn

Southerndown

Yn ôl cylchgrawn Golf Monthly, mae Southerndown ger Pen-y-bont ar Ogwr yn glasur tragwyddol. Mae'n fwy o gwrs rhostir na maes golff ond fe'i cyfunwyd â golygfeydd arfordirol ysblennydd i wneud cwrs pen clogwyn sy’n darparu cynnig golff helaeth ac amrywiol. Fe’i hadeiladwyd o amgylch cyfuchliniau naturiol y tir, a phrin y mae ei gynllun wedi newid ers y 1920au. Pam ymyrryd â rhywbeth sy'n gweithio cystal? Mae hefyd yn gwasgu elfennau o barcdir a chlogwyni i'w gynnig golff cyfoethog ac amrywiol. Wedi'i lunio'n wreiddiol fel clobyn o 7,170 o lathenni, mae bellach yn ymestyn i 6,428 llath sy’n fwy hydrin. Dim maint yw popeth – mae Southerndown yn cynnig her a hanner o faes golff yn nannedd y gwynt.

Coes fflag ar y grîn yng Nghwrs Golff Southerndown gyda'r môr a darnau o dir yn y cefndir

Clwb Golff Southerndown

Pennard

Nid yw'n cymryd llawer i ddeall pam mae Pennard yn cael ei alw’n ‘faes golff yn y cymylau'. Er bod ei bonciau, ei dwyni a'i fryncynnau tonnog yn dwyn holl arwyddion clasur o gwrs arfordirol, mae’n clwydo 200 troedfedd uwchben lefel y môr mewn gwirionedd, gan gynnig golygfeydd godidog o Fae’r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae golff Pennard yn cyfiawnhau’r lleoliad, gyda ffyrdd teg gwyntog wedi’u hymylu gan eithin yn cynnig her sy'n newid o hyd. Mae'r 7fed twll par-4 yn uchafbwynt arbennig, gan fynnu dreif rhwng adfeilion eglwys o'r 13eg ganrif ac olion castell o'r 12fed ganrif wedi'i osod yn uchel ar y clogwyn.

Dau golffiwr ar y grîn yng nghlwb golff Pennard gyda'r mynyddoedd a'r môr yn y cefndir
Golffiwr yn paratoi i bytio at y twll gyda golffiwr yn dal y faner yng Nghlwb Golff Pennard gyda Chastell Pennard yn y cefndir.
Golffwyr yn cerdded i'w twll nesaf yng Nghlwb Golff Pennard gyda golygfeydd arfordirol yn y cefndir.

Clwb Golff Pennard, Abertawe

Brenhinol Porthcawl

Os ydych chi'n chwilio am brofiad sy’n cynnig cystadleuaeth ddidrugaredd, rhaid chwarae ar gwrs Brenhinol Porthcawl. Cwrs Brenhinol Porthcawl oedd lleoliad Pencampwriaeth Agored Uwch 2014 a 2017, ac mae’n ymgorffori maes golff arfordirol clasurol. A’r môr yn y golwg o hyd, mae ei droellau a'i droeon yn gofyn cywirdeb pendant yn hytrach na grym llwyr. Gyda thyllau'n wynebu pob pwynt o'r cwmpawd, rhaid i chwaraewyr addasu eu dull yn gyson i gyfrif am y gwynt gorllewinol yn chwipio i mewn o Fôr Hafren.

3 o bobl yn chwarae golff wrth ymyl y môr

Clwb Golff Brenhinol Porthcawl 

Dinbych-y-pysgod

Sefydlwyd maes golff glan môr Dinbych-y-pysgod ym 1888, ac mae’n honni mai’r clwb hynaf yng Nghymru ydyw. Efallai y bydd ambell un yn anghytuno â hyn, ond does dim dadlau ag ansawdd golff Dinbych-y-pysgod. Peidiwch â chymryd ein gair ni drosto. Dyma sut oedd cylchgrawn Golf Monthly yn disgrifio'r lle: 'Mae Dinbych-y-pysgod yn faes golff clasurol, hen ffasiwn lle bydd trawiadau dall, safiadau lletchwith a sbonciau creulon yn nodweddu unrhyw rownd. Mae'r cwrs yn teithio drwy’r twyni, ac weithiau drostynt, o'r tiau uwch i lawntiau gwastad, heibio i fynceri pot cudd a garw twyllodrus. Cwrs yw hwn lle daw sgiliau golff traddodiadol i'r blaen a bydd pawb sy’n selog dros feysydd golff wrth ei fodd gyda’r her.'

Clwb Golff Dinbych-y-pysgod

Clwb Golff Dinbych-y-pysgod

Straeon cysylltiedig