Mae cant a mil o resymau dros ymweld ag Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Ond rwy'n eich annog i weld y pethau hyn cyn dim byd arall pan ddewch chi yma.

Llun o'r tu allan i Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Baneri Bataliwn Cyntaf y Bedwaredd Gatrawd ar Hugain o Droedfilwyr

Mor deilwng oedd gwasanaeth y gatrawd Gymreig enwog hon yn Rhyfel y Zwlw ym 1879 fel eu bod wedi ysbrydoli'r ffilm enwog gyda Stanley Baker, Zulu. Caiff y baneri unigryw hyn eu cadw'n ddiogel at genedlaethau'r dyfodol mewn casys persbecs pwrpasol.

Ynghyd â'r baneri ceir Rhestr o'r Gwroniaid i goffáu'r rhai a fu farw yn y ddau Ryfel Byd, ac mae'n werth gweld y placiau personol ar gefn y seddi sy'n coffáu aelodau eraill o'r Bedwaredd Gatrawd ar Hugain.

Bedyddfaen yr Eglwys

Dewch â'ch camera gyda chi; mae bedyddfaen yr eglwys gadeiriol yn ddigon o ryfeddod. Hwn yw'r bedyddfaen Normanaidd mwyaf yng Nghymru ac fe'i gosodwyd tua 1150 (ond efallai y'i lluniwyd bron i 200 mlynedd cyn hynny) ac mae symbolau grotésg wedi'u cerfio arno.

Y grog

Ym 1538 fe ddinistriodd Brenin Harri VIII groglen Aberhonddu – y llen rhwng y mynachod a'r bobl yn yr eglwys. Arferai croes euraid hongian ar y groglen, ac am ganrifoedd byddai pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod ar bererindod i'w chyffwrdd. Er cof am hyn, yn ddiweddar fe osodom groes fawr efydd lle'r oedd y groglen ers talwm. Gwnaethpwyd y groes gan yr artist Helen Sinclair, mae'n pwyso 90 cilogram ac fe'i lluniwyd â broc môr ar draeth Rhosili ar Benrhyn Gŵyr.

Tu mewn i Eglwys Gadeiriol Aberhonddu gyda ffenest liw fawr

Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Straeon cysylltiedig