Mae’r ffordd hon yn cynnwys holl ystod tirwedd Cymru, ei hanes a’i diwylliant. Dyma 10 o'r uchafbwyntiau - ond mae'r siwrne’i hun yn unfed-uchafbwynt-ar-ddeg hefyd…
Blaenau Ffestiniog
Mae rhai o’r chwareli’n dal i weithio yn hen ‘brifddinas llechi’r byd’, ond aeth Blaenau Ffestiniog ati i ailddyfeisio’i hun wrth i’r diwydiant ddirywio, er mwyn bod yn ganolfan antur heb ei hail. Gall beicwyr mynydd sgrialu i lawr y llethrau yn Antur Stiniog, wrth i bobl rasio ar hyd gwifrau zip uwchlaw. Yn ogofeydd enfawr y chwareli llechi tanddaearol, ceir mwy fyth o barthau zip a Bounce Below - canolfan afreal: haenau o rwydi cargo bownsiog â llithrennau ac ysgolion yn eu cysylltu. Er mwyn deall y cyd-destun hanesyddol, ewch ar daith danddaearol o gwmpas chwarel lechi o Oes Fictoria.

Gardd Bodnant
Fe wnaethon ni ofyn i’r Tywysog Charles enwi’i hoff ardd un tro, ac yn ei farn ef mae Bodnant yn ‘un o drysorau cenedlaethol Cymru’. Yn y rhan uchaf, o gwmpas Neuadd Bodnant, ceir gerddi teras a lawntiau anffurfiol, ac mae’r rhan isaf, Y Glyn, yn gartref i ardd wyllt ryfeddol.


Aberhonddu
Mae Aberhonddu’n cynnwys popeth y byddech chi’n disgwyl ei weld mewn tref farchnad gwerth ei halen: mae digonedd o dafarndai croesawgar, orielau, caffis a llawer o siopau annibynnol ar hyd ei strydoedd Sioraidd hardd. Yn ogystal, ceir yma eglwys gadeiriol o’r 12fed ganrif, amgueddfa filwrol a gŵyl jazz flynyddol. Gallwch grwydro allan o’r dref gan ddefnyddio sawl dewis di-gar: mae camlas Mynwy ac Aberhonddu’n llifo am 35 milltir (56km) drwy’r Bannau bendigedig, tra bo Llwybr Cerdded a Beicio Taf yn ymlwybro 55 milltir (88km) yr holl ffordd i’r môr ym Mae Caerdydd.
Castell Caerffili
Dyma gastell mwyaf Cymru, ac mae’n cynnwys popeth ddylai fod mewn castell: tyrrau mawrion, pont godi, magnelau sy’n gweithio, a’r cyfan wedi’i amgylchynu gan yr amddiffynfeydd dŵr mwyaf cymhleth ym Mhrydain. Mae atyniadau mwy diweddar yn cynnwys cyffro Ffau'r Dreigiau a Drysfa Gilbert. Adeiladwyd Castell Caerffili’n wreiddiol gan arglwyddi Normanaidd yn y 1200au, a chafodd ei adnewyddu i’w ysblander presennol gan sawl Ardalydd Bute yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Caerdydd
Daw llawer o bobl i Gaerdydd ar gyfer gemau mawr yn Stadiwm Principality. Mae diwrnod neu benwythnos cofiadwy yn y brifddinas yn dechrau yng Nghastell Caerdydd, ble gwelir waliau Rhufeinig, tŵr Normanaidd a phlasty moethus o Oes Fictoria oll ar yr un safle, ar gyrion Parc Bute. Ar draws y ffordd, mae gan yr Amgueddfa Genedlaethol gasgliadau hanes naturiol a chelfyddyd o’r radd flaenaf o dan yr un to - a digon o arddangosfeydd dros dro ar gyfer ymwelwyr rheolaidd hefyd. Anelwch tua’r de a dyma chi yng nghanol strydoedd siopa di-gar y ddinas wrth gwrs, o fodernrwydd anferth Canolfan Dewi Sant i’r arcêds Fictoraidd ac Edwardaidd deniadol. I lawr ym Mae Caerdydd, trawsnewidiwyd yr hen borthladdoedd glo gan lanfa smart - ac mae to copr Canolfan Mileniwm Cymru’n amlwg o bobman.
Llandudno
Mae ‘Brenhines y Trefi Glan Môr’ yn lle da i gychwyn ar unrhyw daith, ond peidiwch â brysio o Landudno ar ormod o ras. Dyma gyrchfan ddigymar o Oes Fictoria a’r cyfnod Edwardaidd, gyda phier a phrom trawiadol. O Ben y Gogarth y cewch chi’r golygfeydd gorau, a gallwch fynd i ben y graig galchfaen enfawr mewn tram neu gar cebl. Ar y copa ceir canolfan ymwelwyr, gwarchodfa natur a chwarel gopr hynafol iawn, ac mae’r llethrau dwyreiniol yn cysgodi canolfan sgïo a pharc Y Fach (Happy Valley), ble gallwch ddechrau dilyn Llwybrau Alis yng Ngwlad Hud yn ôl drwy’r dref.
Sain Ffagan
Dyma un o amgueddfeydd awyr-agored gorau’r byd. Symudwyd dros 40 o adeiladau gwreiddiol, yn dyddio o oes y Celtiaid tan yr 20fed ganrif, ac yn amrywio o gapeli a ffermydd i dafarn a sefydliad y gweithwyr, o bob rhan o Gymru i’r fan hon – eu cartref newydd yw gerddi plas bach o Oes Elisabeth I ar gyrion Caerdydd. Mae’r adeiladau’n lleoedd diddorol eithriadol i chwilota ynddynt, ond sgiliau’r crefftwyr traddodiadol, heb sôn am yr anifeiliaid fferm brodorol yn y caeau a’r closydd, sy’n dod â’r lle mor llachar o fyw. A hyn oll bellach yn cael ei ddathlu mewn orielau ac arddangosfeydd newydd sbon - a'r cyfan, fel ym mhob un o’n Amgueddfeydd Cenedlaethol, yn rhad ac am ddim.


Y Bathdy Brenhinol
Cafodd pob darn o arian sydd yn eich poced, eich pwrs a’ch cadw-mi-gei ei wneud yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Dyna i chi rhyw 30,000,000,000 o ddarnau o arian, sy’n werth tua £4.6bn. Yn ogystal â bathu arian Prydain yma, maen nhw hefyd yn gwneud arian a medalau ar gyfer dwsinau o wledydd eraill hefyd. Cewch gipolwg diddorol iawn ar yr holl broses ar daith y tu ôl i’r llenni ac yn y ganolfan ymwelwyr.
Adventure Parc Snowdonia
Dyma un o atyniadau mwyaf arbennig Cymru: mae Adventure Parc Snowdonia wedi creu ton mor uchel â’ch pen sy’n ymwthio’n berffaith ar hyd lagŵn 300m o hyd yng nghanol cefn gwlad Dyffryn Conwy - a hynny'n gwbl rheolaidd, bob 90 eiliad. Mae yma gwrs ymosod dyfriog, y Lagŵn Crash a Sblash, glampio ar y safle a digonedd o ddigwyddiadau hudolus hefyd.

Yr Ysgwrn
Efallai nad yw pawb yn gwybod yn syth pwy yw'r bardd-filwr Ellis Evans – ond mae ei ffug-enw Hedd Wyn yn holl-gyfarwydd. Lladdwyd y bugail o Drawsfynydd ym mrwydr Passchendaele rai wythnosau cyn y dylai fod wedi ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917. Bellach mae’r Ysgwrn, fferm ei deulu, yn ganolfan ymwelwyr sy’n cynnwys arddangosfeydd am ei fywyd a’i etifeddiaeth, y Gymraeg a’i diwylliant, y traddodiad barddol, hanes gwledig a’r Rhyfel Byd Cyntaf.