Dewch i weld pa mor gyfforddus ydych chi ag uchder gyda phrofiad dringo gwefreiddiol ar glogwyni’r gorllewin. O ddringo clogwyn garw sy’n ddigon i godi gwallt eich pen, i lefydd dringo dan do ym mhob tywydd, mae opsiynau da i bawb, o’r profiadol a’r hyderus i’r newydd-ddyfodiaid nerfus.

Dechrau arni

Ym Morfa Bay Adventure yn Sir Gâr, fe gewch chi gychwyn ar y dringfeydd bach chwe throedfedd uwch y llawr cyn mentro, yn y pen draw, ar y tŵr abseilio sy’n ymestyn ddeg troedfedd ar hugain i’r awyr. Bydd cyfle wedyn i brofi’ch sgiliau newydd ar greigiau’r môr. Mae ganddyn nhw hefyd lety byncws os byddwch chi awydd aros dros nos.

Gwychder Gŵyr

Dysgwch bopeth am rigio a dechrau mireinio’ch sgiliau yng nghwmni’r arbenigwyr o Gower Adventures, a fydd yn mynd â chi ar daith fertigol ryfeddol drwy ysblander Bae y Tri Chlogwyn.

Mae Rip n Rock yn cynnig cyrsiau dringo ac abseilio byr yng Ngŵyr a chwm Nedd – gyda chyfle i ddringo clogwyni uchel Gŵyr cyn gwibio i lawr eto i gloi’r diwrnod mewn steil.

Dringo gyda Rip N Rock a gwersylla ym Mae y Tri Chlogwyn, Gŵyr.

Yn barod am Sir Benfro?

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ydy un o lefydd hyfrytaf Prydain (ynghyd â’r unig barc cenedlaethol sy’n gwbl arfordirol). Pa ffordd well o werthfawrogi’r golygfeydd godidog na thrwy hongian oddi ar glogwyn ar gyfres o raffau?

Mae anturiaethau dringo i’w cael ar hyd a lled y fro, diolch i gwmnïau fel Tenby Adventure a TYF Adventure and Coasteering. Mae’r naill a’r llall yn gweithio ledled Sir Benfro ac yn adnabod pob twll a chornel o’r ardal. Byddan nhw’n dewis lleoliad a chwrs sy’n gweddu i amrywiaeth o sgiliau. Yn eu plith mae sesiynau i’r teulu a chyflwyniadau rhwydd, cyrsiau dringo mwy technegol gyda sawl dringen, a chyrsiau sy’n dysgu pobl sut i arwain. Rydych chi’n sicr o gael diwrnod bendigedig a fydd yn aros yn hir yn y cof.

Yng Nghildraeth Llanion, mae modd dringo dan do ar wal bwrpasol lle bydd hyfforddwyr profiadol yn cyflwyno technegau sylfaenol i ddechreuwyr, a’r cyfan mewn awyrgylch cyfeillgar.

Dringwr yn gwisgo helmed yn ymestyn ar wyneb craig, ac yn cael cyfarwyddyd gan hyfforddwr, gyda phobl sy’n gwisgo helmedi’n gwylio.
Dringwr yn gwisgo helmed wrth ddringo clogwyn môr.
Dringwr a hyfforddwr, a’r ddau’n gwisgo helmedi, yn taro’u dyrnau yn erbyn ei gilydd ar wyneb craig gyda’r môr islaw.

Climbing with TYF Adventure and Coasteering, Pembrokeshire, West Wales

credited to @mothergoosefilms @visitwales @walescoastpath

TYF Adventure

Activity
St Davids
A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig