Pethau i'w gwneud

Ar ben Cymoedd Cynon a Rhondda mae Mynydd y Rhigos. Yn Zip World Tower, gelli roi cynnig ar Phoenix, y wifren sip eistedd gyflymaf yn y byd, gan hedfan o ben Mynydd y Rhigos a mwynhau golygfeydd aruthrol dros dirweddau Cymoedd Rhondda a Chynon.

Bydd y Tower Coaster yn ddigon i godi curiad y galon wrth iddo wibio i lawr y llethr, ac mae antur sip fach ar gael i anturiaethwyr iau hefyd. Mae’r caffi ar y safle’n cynnig golygfeydd gwych, ynghyd â bwyd a diod.

Mae Mynydd y Rhigos hefyd yn gyrchfan boblogaidd i feicwyr ac mae wedi’i gynnwys fel dringfa ar Gam Tri Tour de France 2027, y cymal cyntaf erioed o’r ras i gael ei gynnal yn gyfan gwbl yng Nghymru. 

Dwy ferch mewn harneisiau a hetiau yn barod i fynd ar y wifren sip

Zip World Tower, Pontypridd 

Ar dy feic

Yn ogystal â dilyn llwybr y Tour de France dros Fynydd y Rhigos a thrwy Aberdâr ac RCT, mae dewis gwych o lwybrau eraill i feicwyr.

Mae Llwybr Cynon yn dilyn afon Cynon o Hirwaun i Abercynon - cyfuniad braf o bentrefi cyfeillgar a llwybrau wedi’u hamgylchu â choed o tua 11 milltir.

Mae Llwybr Taf yn rhedeg drwy Rhondda Cynon Taf gan ddechrau yn Ffynnon Taf, ac yn mynd trwy Drefforest a Phontypridd ac ymlaen i Abercynon. I’r rhai heini yn eich mysg mae modd beicio'r holl ffordd i Fae Caerdydd! Am lwybr byrrach i goesau bach, rhowch gynnig ar lwybr Cymunedol Pentre'r Eglwys, sy’n mynd trwy goetiroedd a dolydd braf.

Gelli wneud rhan fer o’r llwybr a dychwelyd ar feic neu ar y trên. Neu, os wyt ti awydd taith hirach o lawer, beth am feicio'r holl ffordd i Aberhonddu ar un pen, neu Fae Caerdydd ar y pen arall?

oedolyn a plentyn yn reidio beic ar hyd llwybr gyda choed y naill ochr.

Beicio ar hyd Llwybr Taf

Profiad y Bathdy Brenhinol

Mae'r Bathdy Brenhinol yn atyniad unigryw sy’n brofiad difyr i blant a theuluoedd. Mae gweithgareddau addysgiadol a rhyngweithiol sy'n apelio'n arbennig at blant, gan gynnwys cyfle i ddylunio eu darnau arian eu hunain a dysgu am hanes arian mewn ffordd hwyliog. Lle da i ddysgu a chwarae ar yr un pryd.

Cerflun Shaun y Sheep wrth mynedfa Profiad y Bathdy Brenhinol.
Mini wedi'i orchuddio â darnau arian yn y Profiad y Bathdy Brenhinol.

Profiad y Bathdy Brenhinol

Darganfod hanes a diwylliant unigryw

Taith Pyllau Glo Cymru - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad unigryw sy'n cyflwyno hanes diwydiannol y cymoedd a Chymru. Bydd plant yn mwynhau taith i’r pwll glo gyda chyn-löwr a theithio ar dram glo mewn profiad sinematig 4D.  Rhaid gorffen y daith gyda chacen yng Nghaffi Bracchi, sydd hefyd yn gwerthu danteithion Chocolate House. 

Amgueddfa Cwm Cynon a Pharc Gwledig Cwm Dâr

Mae gan Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr dair oriel, siop a chaffi, ac mae’n lle braf i ddod am dro ac i glywed mwy am hanes y cwm. Dwy filltir o’r amgueddfa mae Parc Gwledig Cwm Dâr - parcdir 200 erw gyda llwybrau a thraciau beicio, llynnoedd pysgota a pharciau chwarae i blant. Mae'r parc yn safle awyr dywyll hefyd, gyda’r sêr a’r cytserau i’w gweld yn glir ar noson ddigwmwl. Mae safle carafanio yn y parc hefyd.

Amgueddfa Crochendy Nantgarw

Yn Nghrochendy Nantgarw y lluniodd William Billingsley borslen gorau'r byd. Ynghyd ag amgueddfa ddiddorol yn llawn cwpanau, soseri cywrain a mwy, mae gweithdai cerameg ac arddangosfeydd celf. Galwch draw i'r ystafell de glyd am baned a chacen hefyd.

Amgueddfa Pontypridd

Wedi'i lleoli mewn hen gapel sy'n dyddio'n ôl i 1861, mae Amgueddfa Tref Pontypridd yn wledd o ddarganfyddiadau hynod sy'n dangos hanes cyfoethog y dref. Yn eu plith mae eiddo personol Evan a James James - y tad a'r mab a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru.

Parciau a Theithiau Cerdded

Mae digonedd o barciau i ddewis ohonyn nhw. Ym Mhontypridd, mae Parc Coffa Ynysangharad, sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, ynghyd â chyrtiau tennis, llwybrau cerdded a chaffi.

Mae Parc Bronwydd ym Mhorth, i’r gorllewin o Bontypridd, yn hafan dawel sy’n llawn coed, blodau a bywyd gwyllt. Os ei di ychydig ymhellach i Gwm Rhondda o Bontypridd, gelli fwynhau Barry Sidings ym Mhorth, gyda’i faes chwarae antur a’i lwybrau i’r mynyddoedd o’i gwmpas, neu Gwm Clydach ger Tonypandy, gyda’i lynnoedd a’i raeadrau.

Ymhellach draw, mae Parc Gwledig Cwm Dâr, sydd hefyd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, ger Aberdâr. Mae ganddo dros 200 erw o lwybrau, maes chwarae antur a llynnoedd lle gelli logi canŵod a chaiacau.

Os wyt ti am aros dros nos, mae gan y parc ei faes carafanau ei hun, gyda 36 o leiniau ar gyfer carafanau teithiol, rhai ohonyn nhw â bachyn trydan.

Mae dewis eang o deithiau cerdded yn RCT, o droeon byr sy’n addas i’r teulu cyfan i deithiau mynydd mwy heriol.

Am ddiwrnod da o gerdded, rho gynnig ar Fynydd Pen Pych, taith fynydd drawiadol o 7 milltir (9km) gyda rhaeadrau, cylchoedd cerrig o’r Oes Haearn a golygfeydd eang.

Am gipolwg hynod ddiddorol ar hanes lleol yr ardal, rho gynnig ar un o’r chwe thaith fideo, sy’n arbennig o addas i blant chwilfrydig.

Awydd her fwy? Mae taith gylchol Pontypridd yn 12 milltir o hyd ac yn llawn mannau gwylio trawiadol. Neu cerdda yn ôl troed seintiau’r gorffennol ar Lwybr Pererindod Penrhys. Mae’r llwybr cyfan o Gaerdydd i Benrhys yn y Rhondda yn 21 milltir, ond mae wedi’i rannu’n chwe rhan hawdd, gyda phob un yn cymryd rhyw ddwy awr.

Cerflun efydd o ddyn yn chwarae’r delyn a menyw yn sefyll wrth ei ochr.
Llun o'r awyr o lido a pharc

Cofeb Evan James a James James, Parc Ynysangharad, Llwybr Treftadaeth Pontypridd a Lido Cenedlaethol Cymru, Pontypridd.

Bwyd rhyngwladol rhagorol

Awydd camu yn ôl mewn amser? Cer i gaffi eiconig Princes ym Mhontypridd. Teulu’r Gamborinis sydd wrth y llyw ers 1948 yn gweini cacennau enfawr a chroeso hyd yn oed yn fwy. Mae Café Fresco yn dda hefyd ac yn adlais o ddylanwad mewnfudwyr o’r Eidal i’r cymoedd ar ddiwedd y 19g. 

Mae bwyty Janet's ym Mhontypridd yn cynnig profiad bwyta unigryw a chofiadwy. Mae’r fwydlen yn wledd o brydau o bob rhan o dde-ddwyrain Asia. Mae wedi ei leoli yng nghanol Pontypridd a’n boblogaidd iawn felly mae’n well archebu bwrdd ymlaen llaw. 

Iechyd da!

Mae digon o lefydd i ymlacio a mwynhau awyrgylch Pontypridd, gan gynnwys Clwb y Bont, Llanofer Arms ac Alfred's. Mae tafarn hanesyddol y Llanofer Arms yn lle da i fwynhau awyrgylch clyd a chwrw lleol.

Mae cerddoriaeth fyw a pherfformiadau’n cael eu cynnal yn aml yng Nghlwb y Bont, clwb Cymraeg Ponty, tra bod tafarn hanesyddol y Llanofer Arms, lle roedd Beirdd Clic y Bont yn arfer cwrdd, yn cynnig awyrgylch clyd a chwrw lleol.

I dorri syched tu hwnt i’r Maes beth am daith i fyny’r cwm i ddistyllfa Penderyn? Mae’r wisgi enwog , sydd ar gael mewn dros 40 o wledydd, yn cael ei greu ger Hirwaun yng ngogledd Cwm Cynon. Mae taith ddistyllfa awr o hyd yn cynnwys sesiwn flasu ar y diwedd.

Grŵp o bobl yn mynd ar daith o amgylch ddistyllfa, yn sefyll drws nesaf i ddwy gerwyn aur.

Distyllfa Penderyn, Aberdâr

Prynu’n Lleol - cefnogi'r cymoedd

Yn Storyville ym Mhontypridd mae amrywiaeth o lyfrau a gemau bwrdd ar gyfer bob oedran. Mae The Toy Emporium yn lle da i danio dychymyg plant hefyd. I brynu nwyddau amrywiol ac am groeso cynnes y cymoedd ewch i siop Pete's ym Mhontypridd, mae’n enwog yn yr ardal!

Mae’r Siop Groggs ym Mhontypridd hefyd yn eiconig - dyma’r lle i brynu ffigurau cerameg sy'n portreadu chwaraewyr rygbi, cerddorion, a chewri Cymru. 

Fe enillodd Treorci teitl Stryd Fawr Gorau’r DU yn 2019 a hawdd yw gweld pam. Mae bron i 100 o siopau ar y stryd fawr gyda chanran uchel yn siopau annibynnol.

Darganfod mwy

Croeso Rhondda Cynon Taf

Am fwy o wybodaeth am yr ardal ewch i wefan Croeso Rhondda Cynon Taf.

Tro rhai o gymoedd enwocaf de Cymru oedd i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru nol yn 2024. Oedd Parc Ynysangharad yng nghanol Pontypridd yn gartref i dros 1,000 o weithgareddau a digwyddiadau o bob math, gydag ambell beth hefyd yn cael eu cynnal yn y dref ei hun.

Gydag Eisteddfod drefol daw cyfleodd lu i ddarganfod y fro tu hwnt i ffiniau’r Maes. Dyma ardal sydd â chyfoeth o hanes diwydiannol a diwylliant Cymreig cryf. Gyda’r Eisteddfod yn cael ei hariannu i raddau helaeth gan y cymunedau sy’n cynnal yr ŵyl, manteisiwch da chi ar y cyfleoedd i grwydro tu hwnt i’r Maes a chwrdd â chymeriadau’r cymoedd.

Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig