Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Mae Cymoedd De Cymru yn ymestyn o’r ffin â Lloegr yr holl ffordd i Abertawe a thu hwnt. Ar un adeg, dyma galon y diwydiannau glo a gweithgynhyrchu ond bellach Parc Rhanbarthol y Cymoedd ydyw – cyrchfan awyr agored yn llawn o goedwigoedd a pharciau sy’n darparu awyr iach ac antur o bob math.

Ymysg yr holl wyrddni, fe ddewch o hyd i ddigon i’ch atgoffa am orffennol diwydiannol a hanesyddol yr ardal fel amgueddfa dreftadaeth UNESCO’r Big Pit ym Mlaenafon a thyrau a muriau caerog Castell Caerffili.

Cyflwyniad i Barc Rhanbarthol y Cymoedd

Parc Coedwig Afan, Port Talbot

Dim ond herc, cam a naid o brysurdeb Port Talbot, lleolir Parc Coedwig Afan, llecyn coediog a heddychlon. Mae digonedd i’w wneud yma, o gerdded ling-di-long drwy’r coed i ruthro ar eich pen i lawr llwybrau beicio mynydd. Mae’r beicio’n addas i bob lefel. Bydd beicwyr hamddenol yn mwynhau mynd ar hyd llwybrau’r teulu sy’n dilyn hen drac y rheilffordd, tra bo rhai sy’n chwilio am gyffro’n gallu rhoi cynnig ar chwe llwybr o safon pencampwriaeth y byd ac ymarfer eu sgiliau ym Mharc Beic Afan. Gallwch logi beiciau mewn sawl lle yma hefyd.

Ar ôl i chi godi chwant am fwyd, mae modd cael tamaid yn Cedar's tearoom neu yng nghanolfan feicio Glyncorrwg ac os hoffech ddysgu am orffennol diwydiannol yr ardal, ewch i Amgueddfa Glowyr De Cymru. Mae lle i wersylla yma hefyd ynghyd â digon o lety gwely a brecwast a gwestai bach gerllaw.

 Beiciwr mynydd yn mynd i lawr llwybr.
Golygfa ddibeilot o lyn a dyffryn gwyrdd a llwybrau ym Mharc Coedwig Afan.
Dau mewn dillad beicio mynydd yn dal beiciau mynydd. Ffocws y camera ar olwyn ôl un o’r beiciau. Parc Coedwig Afan, Abertawe.

Parc Coedwig Afan, De Cymru

Parc Gwledig Bryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae dros 100 erw o goedwigoedd, gwlyptiroedd, dolydd a gerddi i’w darganfod ym Mharc Gwledig Bryngarw.

Gallwch ddilyn tri llwybr penodol i gerdded yn hamddenol a heddychlon drwy goedwigoedd, ar hyd yr afon a thrwy’r ddôl yn llawn blodau. Mae yma lecynnau i gael picnic a barbeciw hefyd.

Bydd plant wrth eu bodd yn ymuno ag un o’r parcmyn ar gyfer antur bywyd gwyllt a sesiwn pysgota’r pwll, tra bydd pawb sy’n caru garddio wrth eu bodd yn heddwch yr Ardd Ddwyreiniol. Dyma gyfres ffurfiol o lwybrau a phyllau dŵr wedi’u hamgylchynu â magnolia, rhododendron ac azalea llachar, gyda phont addurniadol a thŷ te cyfleus yn y canol. Mae canolfan ymwelwyr gyfleus yma hefyd ynghyd â chaffi i gael tamaid o ginio.

Pompren dros nant fechan mewn coedwig ddeiliog.
Pompren ddeniadol dros lyn gyda choeden goch hydrefol yn y cefndir.

Parc Gwledig Bryngarw

Coedwig Cwmcarn, Cwmcarn

Mae’r hyn a fu unwaith yn ardal brysur yn llawn o byllau glo bellach yn goedwig gyfoethog – plannwyd coed yma ers 1922!

Gallwch ddilyn sawl llwybr cerdded hawdd sy'n addas i draed bach ymysg y coed hardd a’r nentydd byrlymus, ac mae sawl dringfa fwy serth i godi curiad eich calon! Mae’n werth dringo i gael y golygfeydd ysblennydd o’r copa! Cewch gyfle i ddilyn llwybrau beicio mynydd go heriol hefyd – traciau coch ac oren yn bennaf.

Mae’r ganolfan ymwelwyr gyfleus yn cynnwys caffi ac ardal chwarae i blant, a cheir dewis o lety – gan gynnwys llety moethus newydd a phodiau gwersylla, ynghyd â llecynnau ar gyfer pebyll a charafanau. Mae Lôn y Goedwig yn cynnwys pob math o lefydd gan gynnwys parth straeon, mannau i eistedd a llecynnau picnic.

Darllen mwy: 10 parc gwledig yng Nghymru.

Parc a Chastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful

Mae 160 erw o barcdir i’w fwynhau ym Mharc Cyfarthfa gyda llwybrau natur, coedwigoedd hygyrch i gerdded ynddyn nhw a gerddi synhwyraidd.

Ochr yn ochr â’r uchafbwyntiau o fyd natur, mae llwyth o atyniadau diwylliannol. Dyma safle hanesyddol Gwaith Haearn Cyfarthfa. Mae tyrau cryfion Castell Cyfarthfa, cyn-gartref y Meistr Haearn cyfoethog, William Crawshay II yn llenwi’r gorwel. Bellach mae’n amgueddfa ac oriel wych, yn llawn o arteffactau diddorol sy’n darlunio dwy fil o flynyddoedd o orffennol Merthyr.

Gallwch hefyd ddarganfod hen fwthyn gweithiwr haearn, man geni’r cyfansoddwr Joseph Parry, mynd am dro ar reilffordd fechan, pysgota yn y llyn ac ymweld â’r ystafell de i fwynhau teisennau a brechdanau blasus.

Darllen mwy: Crwydro Merthyr Tudful gyda Eädyth Crawford.

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Mae’n anodd credu fod Parc Gwledig Cwm Dâr a gerfiwyd gan rewlif hynafol, oesau maith yn ôl, yn arfer bod yn ganolfan lofaol o bwys. Erbyn hyn dyma gartref y parc gwledig 500 erw hwn, sy’n llawn o goed, dolydd a gweundir.

Dechreuodd y prosiect i ailwylltio’r ardal mor bell yn ôl â 1971 ac mae’n cael ei ystyried fel enghraifft gwerth chweil o sut mae adfywio cyn-ardal ddiwydiannol yn ofalus a naturiol. Gallwch weld llynnoedd sy’n gartref i adar dŵr, rhostir gwyllt a choedwigoedd yn gyforiog o fywyd gwyllt.

Mae llawer o lwybrau cerdded hawdd i deuluoedd, gan gynnwys un ag arwyneb tarmac sy’n ddelfrydol ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn. Os oes chwant bod yn fwy mentrus arnoch, gallwch logi canŵ neu gaiac a throi am y llyn neu reidio un o’r llwybrau beicio mynydd newydd. Mae nifer o opsiynau llety yma hefyd – gan gynnwys maes gwersylla, llecynnau parcio carafan a gwesty sydd newydd ei adnewyddu.

Llwybr cerdded o gwmpas cae gyda tharren werdd y tu cefn.

Cwm Dâr

Llyn Llech Owain, Gorslas

Fydd hi ddim yn sioc i chi ddarganfod fod llyn enfawr yng nghanol Llyn Llech Owain. Dyma darddiad dwy afon Gwendraeth ac mae cors fawn enfawr yn amgylchynu’r llyn. Mae’r cynefinoedd hyn yn gynyddol brin a dyna’r rheswm pam y cafodd y parc ei ddynodi’n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

O gwmpas y llyn fe gewch erwau o rostir a choedlannau cysgodol – amgylchedd hyfryd o wyllt a naturiol sy’n berffaith ar gyfer antur. Mae yma rwydwaith o lwybrau gan gynnwys nifer sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau. Mae llwybr a adeiladwyd yn arbennig i’ch tywys yn nes at y gors hefyd er mwyn gweld y cynefinoedd gwyllt unigryw.

Gwnewch yn siŵr i alw mewn i’r ganolfan ymwelwyr i gael llawer o wybodaeth ddefnyddiol a golygfeydd ysblennydd dros y llyn. Galwch am damaid i’w fwyta yn y caffi hefyd, os oes chwant bwyd arnoch chi.

Parc Bryn Bach, Tredegar

Mae Parc Bryn Bach llawn cyffro a gweithgareddau – sy'n addas i bawb - yn bedair oed neu'n wyth deg pedwar oed! Erwau o borfa a choedwigoedd i ymgolli ynddyn nhw, a llyn enfawr hefyd.

Yn ogystal mae’n ganolfan weithgaredd brysur gyda dewis enfawr o weithgareddau ar gael hefyd. Gallwch dreulio wythnos yma a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol bob dydd: crefftau’r goedwig, archwilio ogofeydd, dringo, beicio, canŵio, rhwyf-fyrddio a rafftio. Mae’r rhestr yn ddi-ben-draw – glywsoch chi am golff-droed? Mae’r cyfan yn digwydd dan olwg craff hyfforddwyr arbenigol, wrth gwrs. Dyw pob un o’r gweithgareddau ddim yn digwydd yn y parc – cewch eich gyrru am ychydig i wneud ambell un.

Wrth gwrs, does dim rhaid cael antur fawr bob tro – mae llawer o fwynhad hamddenol i’w gael o grwydro o gwmpas y parc ei hun. Mae yma ganolfan ymwelwyr a chaffi hefyd sy’n berffaith ar gyfer cael saib haeddiannol!

Darllen mwy: Darganfod cymoedd De Cymru

Mainc bren yn edrych dros lyn gyda choed yn y cefndir.
Gwyddau’n arnofio ar lyn glas eang.

Parc Bryn Bach

Parc Penalltau, Ystrad Mynach

Ceir golygfeydd ysgubol ym Mharc Penallta. Mae yma dri llwybr hawdd yn arwain drwy’r parc a’r cyfan yn dechrau yn y prif faes parcio.

Ar y copa, mae Arsyllfa High Point – pod dur trawiadol â phigyn arallfydol ar ei ben o ble gwelwch olygfeydd 360 gradd am filltiroedd i bob cyfeiriad. Mae llawer o gerfluniau diddorol eraill yma gan gynnwys sgwarnog enfawr ac wy metel mawr.

Y cerflun mwyaf trawiadol yw Sultan, Merlen y Pwll. Ffurfiwyd y gwaith celf enfawr hwn ar siâp ceffyl o 60,000 tunnell o wastraff glo wedi’i orchuddio â phorfa byw, ac mae’n fwy na 200m o hyd a 15m o uchder. Crëwyd Sultan i gofio am gyfraniad diflino’r merlod a arferai weithio dan ddaear i lewyrchu'r ardal yn y dyddiau a fu. Roedd Sultan ei hun yn un o ferlod olaf y pwll glo. Er ei fod wedi hen ymddeol, roedd yn dal yn fyw pan orffennwyd y cerflun yn 1999.

Gwarchodfa Natur Parc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Gwarchodfa Natur Parc Slip yn gartref i bob math o rywogaethau prin, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer plant (a rhieni!) chwilfrydig. Dyma lecyn delfrydol ar gyfer ymgolli ym myd natur. Os byddwch chi’n ffodus, gallech weld madfallod cribog, cornicyllod chwim, tegeirianau gwenynog lliwgar yn y gwyllt ac ieir bach yr haf. 

Mae 300 erw yma i’w darganfod ac i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas mae pedwar llwybr cerdded sy’n dilyn themâu, a llwybr beicio heddychlon hefyd. Ewch heibio’r ganolfan ymwelwyr i ddysgu am deithiau cerdded dan arweiniad arbenigwyr ble gallwch wneud gweithgareddau fel hel trychfilod a darganfod creaduriaid y pyllau dŵr. Efallai y gallech droi eich llaw at wneud blychau adar hefyd.

Gall gwylwyr adar archebu un o blith sawl cuddfan o gwmpas y warchodfa a leolir yn berffaith ar gyfer cael cip ar rywogaethau prin. Mae yma gaffi hefyd gydag ardal eistedd awyr agored a lle i barcio beiciau.

Darllen mwy: Dod lygad yn llygad â’r gorau o fyd natur Cymru

Llwybr hydrefol dan ddail drwy goedwig.
Cerflun o ddyn yn cysuro bachgen yng nghanol dôl wyllt.
Adeilad canolfan ymwelwyr fodern gyda phwll dŵr a gwyrddni yn y blaendir.

Parc Slip

Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol, Pontypridd

Mae Parc Ynysangharad yn llecyn gwyrdd a choediog yng nghanol tref Pontypridd. Ers 1923 bu’n lle ar gyfer ymlacio a chael hwyl i’r bobl leol ac mae’r bandstand crand, y grîn bowlio a’r golff pitsho a phytio yn dal ar gael yma i dreulio amser teuluol henffasiwn.

Ond does dim amheuaeth mai’r prif atyniad yma yw’r Lido Cenedlaethol Gradd II. Cafodd ei adnewyddu’n ofalus, ac mae’n dal i gadw’r nodweddion traddodiadol gan gynnwys y clwydi tro, yr ystafelloedd bach newid a’r caffi a chanolfan ymwelwyr arddull Art Deco deniadol. Mae’r holl gyfleusterau’n hollol gyfoes – tri phwll nofio â dŵr cynnes, ffynhonnau a gwelyau haul , ac ardal chwarae antur newydd – mae'n ddelfrydol ar gyfer plant sydd eisiau chwarae a nofwyr o ddifri fel ei gilydd.

Mae'r afon Taf a Llwybr Taf yn dilyn cyrion y parc, felly gallwch ymestyn ychydig mwy ar eich coesau os y dymunwch.

Darllen mwy: Antur yng Nghymoedd de Cymru

Menyw yn cerdded ar hyd llwybr tarmac rhwng hen goed yn yr hydref, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Parc Ynysangharad, Pontypridd

Mwy o wybodaeth

Ewch i wefan Parc Rhanbarthol y Cymoedd i ddysgu mwy am yr ardal a chynllunio eich ymweliad neu ewch i'r cyfryngau cymdeithasol:

Ariennir Parc Rhanbarthol y Cymoedd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.

Straeon cysylltiedig