Pysgota Tag, Llyn Brenig
18 Mawrth - 03 Tachwedd 2023. Cymerwch ran yng Nghystadleuaeth Pysgota Tag Llyn Brenig, Conwy. Mae ffermwyr pysgod Llyn Brenig yn tagio deg pysgodyn yr wythnos ac yn eu rhyddhau ar wasgar ar draws y llyn. Po fwyaf o dagiau rydych chi'n eu casglu wrth i chi bysgota, gorau oll yw'r siawns o ennill! Mae cyfle i ennill £1,000 neu docyn tymor llawn neu hanner tymor.
Llunio Cymru: Arddangosfa'r Curadur Bell ac Armistead, Oriel Celf Glynn Vivian, Abertawe
13 Mai - 12 Tachwedd 2023. Mae arddangosfa curadur Bell ac Armistead yn cael ei chynnal yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe. Mae'r arddangosfa'n dathlu dau guradur llawn amser cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian ac mae'n cynnwys nifer o weithiau gan artistiaid gan gynnwys Syr Kyffin Williams, J D Innes ac Evan Walters.
For the Love of Laura Ashley, MOMA Machynlleth
24 Mehefin - 06 Medi 2023. Cynhelir arddangosfa For the Love of Laura Ashley ym MOMA Machynlleth gan ddathlu gwaith y dylunydd ffasiwn enwog o ganolbarth Cymru a ddaeth yn frand byd-eang.
Llyfr Gwyn Llaregyb, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
14 Mai 2023 – 28 Ionawr 2024. Cynhelir arddangosfa Llyfr Gwyn Llaregyb yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe. Dyma ddathlu 70 mlynedd ers cynhyrchiad llwyfan llawn cyntaf Under Milk Wood yn Efrog Newydd.
Gŵyl yr Haf ac Antur Deinosoriaid, Parc Fferm Manorafon, Abergele
22 Gorffennaf - 02 Medi 2023. Mae llawer o hwyl ym Mharc Fferm Manorafon Abergele yn ystod gwyliau'r haf. Mae yna hwyl ar y traeth gyda Gŵyl yr Haf, gyda phartïon ewyn, chwarae tywod, cerddoriaeth, a Chlwb adloniant Griff y Gafr. Ceir Antur Deinosor gyda deinosoriaid symudol, pabell gloddio mawr, sioe hud, cyfarfod â T-Rex, llwybr archwiliwr, adeiladu deinosor a mwy.
fforest Gather, Aberteifi
Wythnos 2: 31 Gorffennaf - 06 Awst 2023. Mae fforest Gather yn fath newydd o ŵyl. Dyma ŵyl leiaf Cymru, gyda dim ond 300 o docynnau yr wythnos. Mae'n ŵyl deuluol gyfeillgar o anturiaethau ym myd natur, cerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd, gwneud, tyfu a phleserau syml. Arhoswch mewn llety parhaol unigryw ynghyd â gwersylla, os dymunwch. Dyddiadau Wythnos 1 yw 24-30 Gorffennaf 2023.
Digwyddiadau Cadw ar draws Cymru
Dyddiadau Amrywiol Awst 2023. Mae llwyth o ddigwyddiadau ar safleoedd Cadw drwy gydol y mis, gan gynnwys Jim y Jyglwr yng Nghastell Cydweli (01 a 02 Awst), Amddiffyn Blaenafon, yr Ail Ryfel Byd Gwaith Haearn Blaenafon (05 a 06 Awst) a Dawnsio i Amser yn Llys a Chastell Tretŵr (05 a 06 Awst).
Mae 'na Straeon a Chaneuon i Ddysgwyr Cymraeg yng Nghastell Harlech (17 a 18 Awst), Ffuredau a Hebogau yng Nghastell Rhuddlan (20 Awst), Hwyl ganoloesol Gŵyl y Banc Awst yng Nghastell Dinbych (27 a 28 Awst) a Helfa Sborion y Castell yng Nghastell Coch (26 - 28 Awst) a llawer o ddigwyddiadau eraill.
Digwyddiadau Canolbarth Cymru
01 - 31 Awst 2023. Mae digon yn digwydd yng Nghanolbarth Cymru drwy gydol y mis, gan gynnwys Sunset Steam Special Rheilffordd Talyllyn (bob dydd Mercher a dydd Sul ym mis Awst), Barbeque Specials Rheilffordd Llyn Tegid (03, 10 a 17 Awst) a Regata Bae Ceredigion (23 - 25 Awst).
Gweler gwefan Canolbarth Cymru am fwy o ddigwyddiadau.
Gŵyl y Green Gathering, Cas-gwent
03 - 06 Awst 2023. Mae'r Green Gathering yn ddigwyddiad pedwar diwrnod sy'n defnyddio ynni oddi-ar-y-grid. Llwyfannau solar sy'n blatfform i'r artistiaid, DJs a beirdd ac fe geir pob math o weithgareddau eco-gyfeillgar.
Teithiau'r Fferm Bysgod, Llyn Brenig
05 Awst 2023. Ewch ar Daith Fferm Bysgod yn Llyn Brenig. Dewch i gwrdd â'r ffermwyr pysgod a dysgu am wahanol gyfnodau twf pysgod a'r hyn sy'n gysylltiedig â chynnal stoc o frithyll seithliw a brithyll llwyd. Mae teithiau ar gael bob dydd Sadwrn cyntaf o'r mis o 06 Mai 2023 hyd at 02 Medi 2023.
Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, Boduan
05 – 12 Awst 2023. Tro Llŷn ac Eifionydd yw hi i groesawu yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd dathliadau o ddiwylliant, iaith a chelfyddyd Cymru yn llenwi Boduan a'r fro am wythnos.
Darllen mwy: Ein Eisteddfod Genedlaethol
Theatr awyr agored, Castell Oystermouth, Abertawe
09 a 10 Awst 2023. Mwynhewch theatr awyr agored mewn lleoliad gwych yn Abertawe. Mae Castell Oystermouth yn cynnal Twelfth Night Shakespeare ar 9 Awst a gall aelodau ifanc o'r teulu fwynhau clasur Beatrix Potter The Tale of Peter Rabbit ar 10 Awst.
Treilaon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru, Coleg Llysfasi, Rhuthun
10 - 12 Awst 2023. Cynhelir Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru 2023 yng Ngholeg Llysfasi, Rhuthun, gyda hyd at 150 o gŵn yn cystadlu am 15 lle yn nhîm Cymru wrth symud ymlaen i'r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol ym mis Medi. Mae stondinau masnach, gwerthwyr bwyd a fan hufen iâ hefyd.
Gŵyl Lenyddol Llangwm, Sir Benfro
11 - 13 Awst 2023. Cynhelir 6ed Gŵyl Lenyddol Llangwm yn y pentref hardd hwn yn Sir Benfro. Bydd sesiynau ysgrifennu creadigol a gweithdai celf ar gyfer plant ac oedolion ac amrywiaeth o themâu, gan gynnwys Baledi'r Clwb Rygbi.
Gŵyl Fwyd Arberth, Gorllewin Cymru
12 Awst 2023. Mwynhewch gaws Cymreig lleol a llawer mwy yng Ngŵyl Caws Arberth, sy'n digwydd yn Neuadd y Frenhines Arberth. Mae amrywiaeth o fwyd poeth ac oer, gyda chadwraeth, olewydd, piclau, yn ogystal â diodydd gan gynnwys cwrw, gwin a seidr.
Taith Feicio Seidr Haf, Llanwrtyd, Powys
13 Awst 2023. Mwynhewch daith feicio hwyliog, gyda Thaith Feicio Seidr yr Haf, yng nghefn gwlad hardd canolbarth Cymru, gan ddewis pellter o rhwng 14 a 25 milltir. Rhowch gynnig ar seidr a mwynhewch gerddoriaeth fyw gyda'r nos. Mae'n un o'r nifer o Green Events sy'n cael eu cynnal yn Llanwrtyd.
Sioe Môn, Ynys Môn
15 - 16 Awst 2023. Mae Sioe Môn yn ôl gyda'u dathliad gwledig sy'n cynnwys bwyd, crefftau, ffair, cystadlaethau amaethyddol a hwyl i'r teulu oll.
Sioe Sir Benfro
16 - 17 Awst 2023. Sioe Sir Benfro yw sioe sir fwyaf Cymru. Mae hefyd yn un o'r goreuon o'i fath ym Mhrydain, boed eich diddordeb mewn ceir, bwyd neu anifeiliaid. Mae yna gystadlaethau da byw, ceffylau a neidio, stondinau masnach, neuaddau bwyd, ffair a llawer mwy.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog
17 – 20 Awst 2023. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ddigwyddiad blynyddol ar Stad Glanusk ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae rhai o enwau mwyaf sin gerddoriaeth Cymru, Prydain a'r byd yn chwarae ar draws nifer o lwyfannau. Yn ogystal â cherddoriaeth mae sesiynau comedi, sgyrsiau, ardaloedd ymlacio a meddwlgarwch a nifer o opsiynau bwyd.
Darllen mwy: Gŵyl y Dyn Gwyrdd – beth i’w ddisgwyl
Sinema Awyr Agored, Parc Margam, Port Talbot
18 - 20 Awst 2023. Mwynhewch Sinema Awyr Agored ym Mharc Margam, Port Talbot. Mae yna ddewis o Elvis (18 Awst), Dirty Dancing (19 Medi) neu Top Gun: Maverick (20 Medi).
Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi
19 Awst 2023. Mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi yn ôl am y 23ain blwyddyn. Mae gan y digwyddiad amrywiaeth o stondinau sy'n gwerthu bwyd a diod Gymreig yn unig, ynghyd â chrefftau lleol. Mae cymysgedd o weithdai ac arddangosfeydd, ynghyd â rhaglen amrywiol o gerddorion a pherfformwyr lleol.
Rasio'r Trên, Tywyn
19 Awst 2023. Ymunwch a'r her o geisio curo'r trên stêm hanesyddol ar Reilffordd Talyllyn. Mae ras blynyddol Clwb Rotari Tywyn yn digwydd ochr yn ochr â'r trên ar ei daith i Abergynolwyn ac yn ôl. Mae'r tir yn amrywiol, gan gynnwys tir amaethyddol, felly byddwch yn barod i fod yn fwdlyd! Mae sawl ras o hyd gwahanol, gan gynnwys ras 14 milltir a 3.5 milltir.
Gŵyl Machynlleth, Powys
20 - 27 Awst 2023. Mae Gŵyl Machynlleth yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymreig a rhyngwladol. Mae yna amrywiaeth o gerddoriaeth, ynghyd ag arddangosfeydd, barddoniaeth, darlithoedd a mwy.
Gŵyl Seiclo Abertawe a Gŵyr
24 - 28 Awst 2023. Mwynhewch awyr iach yr haf yng Ngŵyl Feicio Abertawe a Gŵyr, gyda reidiau sy'n addas ar gyfer pob gallu, gan gynnwys plant.
Gŵyl Llanandras
24 - 29 Awst 2023. Bydd chwe diwrnod o gerddoriaeth yng Ngŵyl Llanandras, gan gynnwys dros benwythnos gŵyl y banc. Mwynhewch gymysgedd o weithiau cyfoes a chlasuron yr ugeinfed ganrif.
Rhwng y Coed, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr
25 - 27 Awst 2023. Cynhelir Rhwng y Coed ym Mharc Candleston, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr, ger Pen-y-bont ar Ogwr dros benwythnos Gŵyl y Banc. Fe'i cynhelir mewn coetiroedd hynafol, gyda cherddoriaeth werin indie, gyfoes a thraddodiadol, celf, sgyrsiau, a sesiynau natur.
Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, Llanwrtyd, Powys
27 Awst 2023. Mae Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd Rude Health yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn Llanwrtyd. Mae pobl yn dod o bell i gystadlu yn y digwyddiad unigryw - sy'n un o’r 50 o bethau sy'n ‘rhaid eu gwneud’ gan y Lonely Planet.
