Cynnau goleuadau Nadolig Caerdydd
Dewch i Gaerdydd unrhyw dro ar ôl (dyddiad yw gadarnhau) i weld yr addurniadau godidog a’r llwybrau goleuadau o amgylch canol y brifddinas. Mae llwybr Goleuni’r Gaeaf yn llawn goleuadau a gosodiadau sain rhyfeddol, a’r cyfan ar gael i’w fwynhau yn rhad ac am ddim. Codwch fap y llwybr er mwyn mynd i’w gweld nhw i gyd. Mae’r cyfan yma tan ddechrau mis Ionawr.
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
Dewch i fwynhau asbri’r ŵyl yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd. Gŵyl yw hon sydd wedi’i lleoli ar lawnt Neuadd y Ddinas ac yng ngerddi Castell Caerdydd. Fe gewch chi sglefrio yn yr awyr agored, mwynhau cyffro’r ffair, a swatio yn y Pentref Alpaidd gyda llymaid i’ch cynhesu a thamaid bach i’w fwyta. Bydd Gŵyl y Gaeaf ar agor o 13 Tachwedd tan 4 Ionawr 2026.
Marchnad Nadolig Caerdydd
Yn y cyfnod cyn y Nadolig, bydd canol dinas Caerdydd yn gweddnewid wrth i gytiau pren Marchnad Nadolig Caerdydd ymddangos. Mae gan y farchnad dros 200 o stondinau sy’n gwerthu crefftau, anrhegion a bwyd a diod unigryw. Mae yma bopeth o emwaith, serameg, canhwyllau a thecstiliau wedi’u creu â llaw i gaws, mêl, jin a siocled lleol. Bydd y stondinau ar agor bob dydd o 13 Tachwedd tan 23 Rhagfyr 2025, a hynny rhwng 10yb a 6yp dydd Llun - Sadwrn gyda noson hwyr tan 7pm bob nos Iau ym mis Rhagfyr a rhwng 10am a 5pm ar ddydd Sul.
Siopa Nadolig yng Nghaerdydd
Yn ogystal â chrwydro’r Farchnad Nadolig, mae Caerdydd ei hun yn lle perffaith i wneud eich siopa Nadolig , boed chi’n chwilio am y brandiau mawr, am siopau bwtîg annibynnol, neu am drysorau o’r oes a fu. Mae popeth yn agos at ei gilydd yng nghanol y ddinas, felly mae’n hwylus iawn mynd o siop i siop yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, ym Marchnad Dan Do Caerdydd, yn yr Aes ac ar Heol y Frenhines. Anelwch am yr arcedau lle cewch chi amrywiaeth hynod o gaffis a siopau annibynnol bach a hudolus.
Y Nadolig ym Mharc Bute
Er mwyn camu i ganol byd natur, ewch i Barc Bute. Yn ystod y dydd, crwydrwch drwy’r gerddi prydferth, drwy’r coetiroedd tawel, ac ar hyd glannau’r afon. Liw nos, mwynhewch yr addurniadau a’r goleuadau tymhorol ar hyd y llwybr goleuni anhygoel. Yn wir, gyda cherddoriaeth wych yn gyfeiliant, mae’r Nadolig ym Mharc Bute yn wledd i’r llygad ac i’r glust. Ymunwch ag un o’r teithiau tywys, gweithdai neu weithgareddau i’r teulu sy’n cael eu cynnal rhwng 21 Tachwedd a 31 Rhagfyr 2025.
Gŵyl Nadolig Caerdydd 2025
Dathlwch ysbryd y Nadolig yng Ngŵyl Nadolig Caerdydd, sy’n cael ei chynnal yn stadiwm Gerddi Sophia. Mae’r ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth fyw, comedi, theatr a pherfformiadau dawns, yn ogystal ag amrywiaeth o stondinau, faniau bwyd a bariau mewn Spiegeltent wedi’i gynhesu. Mae’r ŵyl yn rhedeg o 05 Rhagfyr - 31 Rhagfyr 2025, gyda sioeau fel Jack Frost (05 – 31 Rhagfyr 2025), A Christmas Carol (09–11 Rhagfyr 2025) ac arddangosfa amrywiol Festive Fantasy (19 – 20 Rhagfyr 2025) ar gyfer adloniant tymhorol gwahanol sy’n addas i deuluoedd.
Pantomeimiau a sioeau yn theatrau Caerdydd
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal nifer o sioeau Nadolig gwych, gan gynnwys y gomedi ddoniol 'Christmas Carol Goes Wrong', rhwng 18 – 22 Tachwedd 2025. Hefyd, Cameron Mackintosh a Mary Poppins gan Disney, rhwng 03 Rhagfyr 2025 - 10 Ionawr 2026, sef sioe gerdd moethus gyda choreograffi syfrdanol a chaneuon bythgofiadwy.
Mae 'Christmas No. 1' (20 – 22 Tachwedd 2025) yn gyngerdd pop-up beiddgar, addas i'r teulu, sy'n cynnwys caneuon tymhorol poblogaidd a chaneuon gwyliau gwreiddiol newydd.
'The Vaguely Deviant Not Quite Christmas — Christmas Show Cabaret' (28 Tachwedd 2025) yw cabaret direidus i oedolion sy'n herio traddodiadau Nadolig gyda chomedi finiog a disgleirdeb cerddorol.
'All I Want for Christmas is Cabaret' (03 – 06 Rhagfyr 2025) yw cabaret theatrig agos-atoch sy'n cyfuno carolau clasurol â throeon cyfoes a storiâu.
Ac mae 'Cardiff Cabaret Club' yn cyflwyno 'The Big Burlesque Panto' (17 – 31 Rhagfyr 2025), panto disglair a beiddgar, llawn rhifau burlesque, comedi slapstick, cyfranogiad cynulleidfa, a gwisgoedd trawiadol.
Yn y Theatr Newydd, mae’r tymor Nadolig yn dechrau ar 12 Tachwedd gyda’r cyngerdd Gwyddelig egniol, 'A Fairytale For Christmas'. 'That’ll Be Christmas' — parti Nadolig llawn hiraeth a hwyl gan gast That’ll Be The Day — yn cynnwys caneuon clasurol, sgetsys comedi a rhwydweithiau llawen, gan ddathlu 40 mlynedd ers dechrau’r sioe ar 23 Tachwedd 2025. Panto yw’r clasur 'Sleeping Beauty', yn rhedeg o 06 Rhagfyr - 04 Ionawr 2026. Yn serennu Gethin Jones fel Tywysog Gethin, Owain Wyn Evans fel Ysbryd y Panto, a Mike Doyle fel Nyrs Nellie, ynghyd â chast o hoff wynebau panto lleol — mae’n sioe ddisglair, llawn chwerthin.
Ymunwch â Rob Brydon a’i Fand Ffabwlus am noson o ganeuon Nadolig, straeon comig a dyheadau digrif yn Utilita Arena Caerdydd ar 16 Rhagfyr 2025.
Digwyddiadau Nadoligaidd ger Caerdydd
Yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau Nadoligaidd yng nghanol y ddinas, mae rhai o’n ffefrynnau ni o fewn tafliad carreg i Gaerdydd hefyd.
Mae Cadw’n wych am drefnu digwyddiadau a llwybrau teuluol yn ystod mis Rhagfyr. Ymhlith y digwyddiadau yn y de mae Penwythnosau Nadolig Caerffili, dathlu Saturnalia – Gŵyl Rufeinig yng Nghaerllion, Marchnad Aeaf Tretŵr, a Gweithdy Addurniadau Nadolig Canoloesol a Llwybr Goleuadau'r Ceirw yng Nghastell Cas-gwent. Mae rhagor o ddigwyddiadau ar dudalen Cadw sy’n rhestru digwyddiadau.
Mae Siôn Corn a’i goblynnod wrthi’n cael trefn ar eu gweithdy hudol ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Mae modd ymweld â’r Groto rhwng 23 Tachwedd a 23 Rhagfyr. I gael rhagor o fanylion ac i gadw lle, ewch i wefan y Bathdy Brenhinol.
Darllenwch fwy: Digwyddiadau a diwrnodau i’w mwynhau ym mis Rhagfyr ledled Cymru
Aros yng Nghaerdydd
Os ydych chi’n bwriadu trefnu taith i Gaerdydd dros yr ŵyl, cymerwch gip a gwyliau byr yng Nghaerdydd i gael rhagor o ysbrydoliaeth. Mae ein canllaw gan arbenigwr lleol i lefydd bwyta Caerdydd yn sôn am rai o’r bwytai gorau, ac mae yma ddigonedd o lefydd annibynnol sy’n gwneud bwydydd figan hefyd.