Bwytai cwbl fegan
45 Heol yr Eglwys Newydd
Beth: Becws a chaffi sy'n gwerthu bwyd sy’n seiliedig ar blanhigion.
Yn gweini: Pasteiod fegan blasus, cryffins, byns sinamon, ffocaccia, sleisys pitsa, bara a mwy.
26 Stryd Clare
Beth: Caffi fegan sy'n ystyriol o awtistiaeth.
Yn gweini: Prydau ysgafn, gan gynnwys brechdanau, tost, baguettes a phryd poeth y dydd.
26 Heol Wellfield
Beth: Caffi fegan yn coginio bwyd o ar draws y byd.
Yn gweini: Powlenni Bwdha, tofish a sglodion, saladau soffistigedig, cawl, byrgyrs a mwy.
Bwytai cwbl lysieuol
115-117 Heol Penarth
Beth: Bwyty a siop tecawê Indiaidd llysieuol teuluol.
Yn gweini: Amrywiaeth enfawr o brydau Gogledd India, De India a dwyreiniol, gan gynnwys detholiad gwych o gyris fegan, losin Indiaidd a lassi.
Bwytai annibynnol gydag opsiynau fegan a llysieuol gwych
Er nad yw'r bwytai hyn yn gwbl fegan nac yn gwbl lysieuol, mae'n werth eu hystyried am eu hystod o ddewisiadau llysiau a fegan.
Hard Lines: Siop goffi yn Nhreganna gyda digon o ddewisiadau melys a sawrus fegan blasus. Yn gwneud coffi gwych gyda llaeth ceirch hefyd.
Hot Pot Spot: Bwyty Tsieineaidd yn arbenigo mewn hotbot. Mae ganddo fwydlen fegan ac mae'n paratoi bwyd fegan ar wahân.
In Cafe: Bwyty Tsieineaidd a siop tecawê gyda fersiynau fegan o'r clasuron (hwyaden grenshlyd aromatig, peli cyw iâr felys a sur a phorc rhost Szechuan i enwi rhai).
New York Deli: Caffi wedi'i ysbrydoli gan America gydag ystod eang o frechdanau fegan, cŵn poeth, bagelau a hoagies - i gyd wedi'u stwffio gyda chynhwysion ffres.