Dwi erioed wedi bod yn nwmismatydd (sef casglwr darnau arian i chi a fi), felly doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl o’m hymweliad â’r Royal Mint Experience yn Llantrisant. Fel y bu hi, mae’r holl glod i’r amgueddfa ddiddorol hon o’r arian yn ein pocedi, ers iddi agor yn 2016, yn gwbl haeddiannol.

Arddangosfa darnau arian

The Royal Mint Experience, Llantrisant

Gwneud arian

Yn dilyn archwiliad diogelwch trwyadl (wedi’r cyfan, mae’r cadw-mi-gei hwn ymhlith y mwyaf yn y DU) dechreuodd y profiad gyda fideo byr. Wedi’i gyflwyno gan yr hanesydd teledu Dan Snow, mae'r fideo yn rhoi cyflwyniad cryno i waith a hanes y Bathdy, yn frith o ffeithiau a ffigurau syfrdanol. A wyddech chi fod y Bathdy’n cynhyrchu bron pum biliwn o ddarnau arian y flwyddyn, a’r rheini i’w defnyddio yn y DU ac mewn mannau fel Jamaica, Tanzania a Gwlad Thai? Wel, rydych chi'n gwybod nawr!

Ymlaen â ni wedyn i lawr y ffatri i gael gweld yn union sut mae darnau arian yn cael eu gwneud. Fel mae’n digwydd, mae cynhyrchu arian yn broses weddol gymhleth sy’n mynnu technegau gweithgynhyrchu rhyfeddol o fanwl gywir, peiriannau a fyddai’n gweddu’n iawn i ffilm ffuglen wyddonol, a chrefftwaith ddifrifol o arbenigol. Wrth wylio staff y Bathdy wrth eu gwaith, cewch weld yn union sut mae gwneud arian. Mae gwybod bod pob un darn arian yn y DU wedi’i wneud yma yn gwneud i chi ystyried y mân newid yn eich poced o safbwynt hollol newydd.

Peiriant darnau arian yn Royal Mint Experience
Peiriant gwneud arian yn the Royal Mint Experience
Peiriant arian yn Royal Mint Experience

The Royal Mint Experience, Llantrisant

Craig o arian

Ond nid staff y Bathdy sy’n cael yr hwyl i gyd. Ar ddiwedd y daith, rhoddwyd y cyfle i ni fathu ein darn arian ein hunain, yn gofrodd barhaol o’n hymweliad. Roedd yn nodwedd arbennig o boblogaidd ymhlith yr ymwelwyr ieuengach yn fy ngrŵp, ac felly hefyd y cyfle i gael tynnu eu llun ymhlith cewyll tryloyw yn llond o £1 miliwn mewn darnau punt sgleiniog. Craig o arian yn wir.

Ond nid oedd y profiad ar ben ar ôl i’r daith orffen. Roedd arddangosfa’r Bathdy i’w harchwilio o hyd. Ochr yn ochr ag arddangosiadau o rai o ddarnau arian hynaf a mwyaf gwerthfawr y byd, cawsom weld ychydig o’r darnau arian tramor a wneir ar y safle, yn ogystal â medalau Gemau Olympaidd Llundain 2012 (un o gynyrchiadau eraill y Bathdy Brenhinol). Ceir hefyd lu o arddangosion a gemau rhyngweithiol eraill i ddiddanu’r plant (a’r oedolion). Fy hoff un i oedd clorian arbennig sy’n mesur y disgrifiad o fod yn werth eich pwysau mewn aur. Os sefwch arno, dywedir wrthych eich union werth mewn aur. Rwy’n dal i geisio deall a oeddwn i’n siomedig neu’n falch o’m gwerth ariannol i.

Ar ôl seibiant cyflym yn y caffi, a phori yn y siop roddion, roeddwn ar fy ffordd adref gyda meddyliau am ddarnau arian yn tincial yn fy mhen. Mae'n brofiad arbennig sy'n medru gwneud i chi edrych eto ar rhywbeth roeddech cynt yn ei ystyried yn ddigon cyffredin (os oeddech chi'n meddwl amdano o gwbl, hynny yw), ond mae hyn yn gamp sy'n cael ei gyflawni gan y Royal Mint Experience. Ers fy ymweliad, dwi ddim wedi gallu talu am goffi neu bapur newydd heb graffu ar y darnau arian yn fy llaw. Efallai y gwnawn nhw nwmismatydd (arbennigwr darnau arian) ohona i eto.

Llun o ddarnau punt

The Royal Mint Experience, Llantrisant

Straeon cysylltiedig