Archebwch docynnau

Am syniadau ar gyfer eich egwyl heb gar. Sgroliwch i lawr am ysbrydoliaeth neu neidiwch yn syth i’r adran sydd â diddordeb mwyaf i chi:

Antur gogleddol ar drên neu fwsGogledd

Mae Gogledd Cymru yn enwog am ei thirweddau dramatig, ei chestyll hanesyddol a’i threfi arfordirol bywiog. O gerdded mynyddoedd a dyddiau ar y traeth i anturiaethau awyr agored ac atyniadau diwylliannol, mae digon i’w wneud, a digonedd o lefydd i aros! Gyda digonedd o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, gall gwyliau heb gar fod yn antur hawdd i'w drefnu!

chaise lounge and view of hotel courtyard.
exterior of hotel.
sea and castle view in distance.

Gwesty a Sba Quay yn Deganwy, Gogledd Cymru.

Noson o gwsg yn y gogledd

Mae amrywiaeth o lefydd i aros sy'n hawdd eu cyrraedd ar fws neu drên yn y gogledd. 

Mae Parc gwyliau Pines ar yr arfordir yn Nyserth yn addas i deuluoedd, gyda golygfeydd o'r môr a chyfleusterau arbennig i deuluoedd.

Am wyliau moethus, mae'r Gwesty a Sba Quay yn Neganwy yn cynnig golygfeydd trawiadol o Ddeganwy a Chonwy, triniaethau sba gwerth chweil a bwyd o safon. 

I'r rhai anturus mae'r Sunsets and Stars Shepherd's Hut ym Mae Colwyn yn cynnig podiau glampio ble galli syllu ar y sêr mewn lleoliad tawel a thrawiadol.

Ac ar gyfer gwyliau dinas, mae'r Ramada Plaza yn Wrecsam yn cynnig cyfleusterau modern o fewn tafliad carreg i'r Cae Ras.

Sut i gyrraedd yno:

  • Parc gwyliau Pines: Cer ar fws 36 o Orsaf fysiau Y Rhyl (Stondin D) i Ffordd Ffrainc, Dyserth. Mae'r daith yn cymryd tua 20 munud ac yn mynd bob hanner awr.
  • Gwesty a Sba Quay: Cer ar drên Trafnidiaeth Cymru o Landudno i Ddeganwy. Mae gwasanaethau'n rhedeg bob awr, ac o orsaf Deganwy mae'n daith gerdded fer i'r gwesty.
  • Sunsets and Stars Shepherd's Hut: Mae llinell drên Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg ar hyd arfordir Gogledd Cymru, ac yn stopio ym Mae Colwyn. O'r fan honno, cer ar fws lleol o orsaf Bae Colwyn tuag at Mochdre. Mae'r gwasanaethau'n cael eu gweithredu gan Arriva a Stagecoach.
  • Ramada Plaza gan Wyndham: Mae'r gwesty tua deg munud ar droed o orsaf gyffredinol Wrecsam.

Gweithgareddau ac atyniadau Gogledd Cymru

Mae digonedd o atyniadau cyffrous yn y gogledd, sy'n hawdd eu cyrraedd ar fws neu drên.

Beth am wibio dros chwarel lechi yn Zip World Penrhyn, cartref y zip cyflymaf yn y byd? Neu fynd ar daith gwch cyflym ar hyd arfordir Môn gyda Rib Ride Adventure Boats?

I gael blas o hanes Cymru, mae Erddig ger Wrecsam yn blasty mawreddog sydd â gerddi hyfryd, sy'n adrodd hanes bywyd y perchnogion a'u gweision, i fyny ac i lawr y grisiau! 

Yn Nistyllfa Penderyn, Lloyd Street yn Llandudno, gall ymwelwyr ddysgu am y grefft o wneud wisgi enwocaf Cymru, atyniad sydd wedi ennill sawl gwobr, a sy'n cynnig teithiau tywys a sesiynau blasu. 

Sut i gyrraedd yno: 

  • Zip World Chwarel Penrhyn: O orsaf fysiau Bangor (Stondin F) cer ar fws Arriva Cymru i Gapel Bethesda, sy'n mynd bob hanner awr a sy'n daith o 28 munud. Gofynnwch i stopio yn safle Glanffryddlas, sy'n agos at yr atyniad.
  • RibRide Adventure Boats: Cer ar y trên i orsaf Bangor, yna ewch ar fws X4 o stondin C tuag at Pont Menai. O’r orsaf fysiau, mae’n daith gerdded 5 munud i’r iard cychod Porth Daniel. Neu galli ddal trên i Lanfairpwll ac mae'n daith gerdded dri chwarter awr, braf, o Lanfairpwll i Borthaethwy.
  • Erddig: Galli gerdded o ganol Wrecsam, neu cer ar Fws Llinell 3 sy'n gadael o Cobden Road ac yn cyrraedd o fewn 4 munud. Fel arall, mae bws rhif 5 (Arriva Cymru) yn mynd heibio hefyd.
  • Distyllfa Penderyn, Llandudno (Lloyd Street): Cer ar drên i orsaf Llandudno, ac mae'r ddistyllfa 10 munud ar droed o'r orsaf. 
Tri pherson ar bedair weiren wib dros lyn glas dwfn mewn chwarel.
Taith gwch ar Afon Menai
Plasty mawreddog o frics coch gyda blodau lliwgar o’i flaen.

Velocity 2, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Erddig, Wrecsam a Ribride ar yr Afon Menai. 

Crwydro'r Canolbarth heb y carCanolbarth

Mae canolbarth Cymru, gyda'i thirwedd gyfoethog, bywyd gwyllt syfrdanol a threfni marchnad bendigedig, yn lleoliad perffaith i ymlacio ac ail-gysylltu â byd natur. Yma mae digonedd o gyfle i ymlacio, yn ogystal â darganfod gwarchodfeydd natur, mwynhau teithiau trên bach a chrwydro llwybrau cerdded trwy gefn gwlad ar ei gorau.

Dros nos yn y Canolbarth

Mae'r canolbarth yn cynnig amrywiaeth o lety sy'n hawdd eu cyrraedd ar fws neu drên. Gall teuluoedd fwynhau gwyliau hamddenol ym Mharc Penrhos Bythynnod, Cabannau a Charafanau, gyda chyfleusterau hamdden a theithiau cerdded arfordirol.

Neu am wyliau moethus mae Gwesty a Sba Metropole yn Llandrindod yn westy Fictorianaidd trawiadol sy'n cynnig profiadau lles modern.

Am brofiad o fyd natur a'r awyr agored go iawn cer i Nyth Robin ger Aberdyfi, sy’n cynnig glampio eco-gyfeillgar wedi’i leoli mewn coetir tawel.

Ac am hoe yn nhref y coleg ger y lli, mae gwesty'r Glengower yn Aberystwyth yn cynnig golygfeydd arfordirol, bwyd gwych a mynediad hawdd at atyniadau lleol a chysylltiadau trafnidiaeth.

Sut i gyrraedd yno:

  • Parc Penrhos: Teithia i Aberystwyth ar drên; o’r fan honno mae gwasanaethau bws T5, T1, T1C, T1X yn pasio Parc Penrhos.
  • Gwesty a Sba Metropole: Teithia i Orsaf Reilffordd Llandrindod ar Linell Calon Cymru o Abertawe, Llanelli, a’r Amwythig. Mae’r gwesty ychydig funudau ar droed o’r orsaf.
  • Nyth Robin: Teithia i Fachynlleth ar Linell Arfordir y Cambrian o’r Amwythig ac Aberystwyth. Mae gwasanaeth bws lleol rheolaidd o Fachynlleth yn stopio tua 5 munud ar droed o’r safle.
  • Y Glengower: Teithia i Aberystwyth ar drên neu fws. Mae’r gwesty tua 10 munud ar droed o’r orsaf drên a’r orsaf fysus.
Tu allan i westy mawr wedi'i baentio'n wyrdd mewn tiroedd â lawntiau.

Gwesty Metropole, Llandrindod, Canolbarth Cymru

Atyniadau a gweithgareddau yng Nghorllewin Cymru

Mae'r canolbarth yn llawn anturiaethau annisgwyl – ac yn berffaith ar gyfer cyplau a theuluoedd! Cer â'r teulu o dan y ddaear yn Labyrinth y Brenin Arthur yng Nghorris, am daith chwedlonol drwy ogofâu hynafol i glywed rhai o straeon enwocaf Cymru.

Mwynha raeadrau dramatig Rhaeadr Pontarfynach, gyda’i phontydd hanesyddol a’i llwybrau coediog.

Neu cer tua’r gorllewin i Harbwr Cei Newydd am dro ar lan y môr Dolau a Thraeth Gwyn. P’un ai wyt ti'n gwirioni ar hud a lledrith chwedlau o'r gorffennol, yn cael dy swyno gan dirluniau trawiadol neu'n hoff o ddysgu am hanes a threftadaeth lleol, mae digon i’w ddarganfod yn y rhan yma o Gymru – i gyd ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Sut i gyrraedd yno:

  • Labyrinth y Brenin Arthur: Teithia ar y gwasanaeth TrawsCymru T2.
  • Rhaeadr Pontarfynach: Teithia mewn steil ar Reilffordd Dyffryn Rheidol o Aberystwyth.
  • Harbwr Cei Newydd, Dolau a Traeth Gwyn: Defnyddia'r gwasanaeth TrawsCymru T5.
     
People wearing hard hats entering a cave with a large stone dragon above the entrance.
Cwpl yn sefyll ar bont bwa gwyrdd yn edrych allan ar raeadr. Mae coed hydrefol o'u hamgylch.
New Quay harbour from above.

Labyrinth y Brenin Arthur, Rhaeadr Pontarfynach a Harbwr Cei Newydd, Dolau a Traeth Gwyn.

Taith fer ar fws neu drên i'r DeDe

Mae de Cymru yn fwrlwm o ddinasoedd bywiog, ardaloedd arfordirol a chyfoeth cefn gwlad. Gyda chysylltiadau rhagorol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae’n hawdd mwynhau gwyliau byr trwy deithio ar fws neu drên – ac mae amrywiaeth eang o lefydd i aros a phethau i’w gwneud, i gyd heb fod angen y car.

An aerial view of all the attractions and waterfront at Cardiff Bay.
Two people in an infinity pool looking out of the window at a cityscape view with setting sun.

Bae Caerdydd a Gwesty Parkgate, Caerdydd

Ysbrydoliaeth llety yn ne Cymru

Mae de Cymru yn cynnig dewis eang o lefydd i aros, yn berffaith ar gyfer gwyliau heb gar. Gall teuluoedd fwynhau cyfleusterau hamdden a digon i'w wneud yn Fontygary Leisure Park ym Mro Morgannwg.

Neu mae dewis di-ri o westai sba moethus, gan gynnwys Gwesty Voco St David’s ym Mae Caerdydd.

Mae'r caban glampio eco-gyfeillgar The Roost ym Merthyr Tudful yn ddelfrydol i brofi byd natur ar ei orau, ac o fewn tafliad carreg at lwybrau cerdded a beicio.

Neu am hoe yn y ddinas mae Gwesty'r Parkgate yng Nghaerdydd yn lleoliad gwych i fanteisio ar siopau, atyniadau a chysylltiadau trafnidiaeth y brifddinas.

Sut i gyrraedd yno:

  • Fontygary Leisure Park: Bws First South & West Wales (llwybr 304) o ganol y ddinas.
  • Vocco St David's Sba, Bae Caerdydd: Bws Baycar o ganol y ddinas (gwasanaeth rhif 6), neu trên i orsaf Bae Caerdydd a Bws Caerdydd (gwasanaeth rhif 1).
  • Y Roost, Merthyr Tudful: Mae gorsaf drenau Troedyrhiw tua 5 munud ar droed, ac yn cysylltu’n uniongyrchol â Merthyr Tudful, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a’r Barri.
  • Gwesty'r Parkgate: Mae’r gwesty wedi’i leoli yng nghanol dinas Caerdydd, ychydig funudau o orsaf drenau Caerdydd Canolog a’r gyfnewidfa fysiau.
view of inner castle and modern buildings from keep with woman looking at the view.

Gweithgareddau ac atyniadau de Cymru

Mae gan dde Cymru ddewis eang o bethau i’w gweld a’u gwneud i'r rhai sy'n aros yn y ddinas neu’n mentro ymhellach ar fws neu drên. Yn y brifddinas, mae atyniadau eiconig fel Castell Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, teithiau o amgylch Stadiwm y Principality, a Theithiau BBC – sy’n cynnig cipolwg y tu ôl i’r llen ar ddarlledu yng Nghymru – i gyd o fewn ychydig funudau ar droed o’r orsaf drenau a’r gyfnewidfa fysiau.

Y tu hwnt i’r ddinas, ar gyfer hwyl ar lan y môr, ewch ar daith fer ar y trên o Gaerdydd i draeth bae Whitmore ar Ynys y Barri, i fwynhau'r arcêd, traeth a ffair i'r plant.

Mae castell Caerffili yn hawdd ar fws neu drên, neu cer i'r gogledd i dref enwog Merthyr Tudful, i grwydro Parc Cyfarthfa a’r Amgueddfa a’r Oriel yng Nghastell Cyfarthfa.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddelfrydol i gerddwyr ac anturwyr - mentra i ben Pen y Fan am olygfeydd godidog o gopa uchaf de Cymru. Mae’r profiadau hyn i gyd yn hawdd i'w cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus. 


Sut i gyrraedd yno:

  • Ynys y Barri: Teithia yn uniongyrchol i orsaf drenau Ynys y Barri o Gaerdydd mewn tua 30 munud.
  • Castell Caerffili: Cer o Gaerdydd i orsaf Caerffili ar drên uniongyrchol, neu ar fws Stagecoach De Cymru (rhif 26).
  • Parc Cyfarthfa ac Amgueddfa’r Castell: Teithia o Gaerdydd i orsaf Merthyr ar drên uniongyrchol, yna cer ar fws Stagecoach De Cymru (rhif 25) i Barc Cyfarthfa.
  • Bannau Brycheiniog: Teithia o Gaerdydd i orsaf Merthyr ar drên uniongyrchol, yna cer ar wasanaeth bws TrawsCymru T4 sy’n stopio yn Storey Arms, wrth droed Pen y Fan

Mae digon o ddewis gwyliau heb gar – os wyt ti'n chwilio am antur, hoe i ymlacio neu gymysgedd o’r ddau! Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus cyfleus a rheolaidd yn gwneud trefnu gwyliau heb gar yn haws nac erioed! 

Cylchlythyr Croeso Cymru

Dyma Gymru. Gwlad â chalon gynnes, hanes cyfoethog a dyfodol cyffrous. Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i glywed ein straeon diweddaraf, syniadau gwyliau neu seibiannau byr a mwy am ddigwyddiadau diddorol sy'n digwydd yng Nghymru.

Ymunwch a'r canwr a'r cyfansoddwr Al Lewis wrth iddo deithio o amgylch sefydliadau cerddorol Cymru - ar drên. Mewn partneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru.

Dolenni defnyddiol i'w gwirio cyn teithio

Rwyt ti'n gallu teithio i'r llefydd sy'n cael eu grybwyll yn yr erthygl yma ar drên neu fws, ond mae gwasanaethau ac amserlenni'n gallu newid – weithiau ar fyr rybudd. Sicrha bob amser gyda'r darparwr gwasanaeth cyn archebu neu deithio.

Traveline Cymru – Gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i gynllunio taith yng Nghymru
Trafnidiaeth Cymru – Llwyfan archebu ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus

Aerial shot of a wide sandy beach with houses to the right behind of the beach and the sea to the left