Ewch i blymio sgwba i weld olion hen longddrylliad, ewch i syrffio mewn caiac, neu syrthiwch - i gysgu! - oddi ar ochr clogwyn. A chofiwch, os yw’r profiad ‘bwced a rhaw’ clasurol yn eich denu, yn yr hen ddull glan môr traddodiadol, wnawn ni ddim gweld bai!
Os ydych chi'n chwilio am antur arfordirol, rydym yn awgrymu ymuno â chlwb lleol, neu fynd gyda arweinydd neu weithredwr cydnabyddedig. Darllenwch mwy o awgrymiadau ar sut i aros yn ddiogel ar arfordir Cymru a sut i fwynhau tonnau Cymru'n ddiogel.
Syrffio
Mae syrffio’n newyddion mawr yng Nghymru ac mae’r wlad wedi sefydli’i Ffederasiwn Syrffio Cymru ei hun yn ddiweddar. Does ryfedd fod syrffio mor boblogaidd yma - mae traethau Cymru’n darparu’r amodau delfrydol ar gyfer ymarfer. Mae gan Borthcawl yn Ne Cymru gymuned syrffio fywiog ac mae Adventures Outdoor Activity Centre yn cynnig popeth o wersi i ddechreuwyr i llogi bwrdd a offer.

Barcut-syrffio
Ffrwynwch ynni’r gwynt mewn lleoliadau arfordirol o gwmpas Cymru er mwyn teimlo ias ddigymar barcut-syrffio. Gall y rheiny sy’n berchen ar yr offer a’r gallu anelu’n syth am rai o draethau gorau’r wlad i gymryd rhan yn y gamp hon, yn Niwgwl, Sir Benfro, er enghraifft, neu Langennydd ar Benrhyn Gŵyr, Porth Neigwl ar Ben Llŷn a Rhosneigr ar Ynys Môn – heb anghofio’r brifddinas syrffio ym Mhorthcawl. Dechreuwr? Mae’r Big Blue Experience, a leolir yn Niwgwl, yn cynnal cyrsiau diwrnod neu ddeuddydd i’r rheiny sydd eisiau dechrau barcut-syrffio, ac maen nhw’n addas i unrhyw un 13 oed a hŷn.
Arfordira
Does bosib mai’r ffordd orau i brofi glan y môr yw drwy daflu eich hunan yn hollol rydd i ryferthwy’r môr – wel, dyna feddyliodd arloeswyr arfordira, yn amlwg, pan wnaethon nhw ddyfeisio’r gamp yn Sir Benfro. Mae arfordira’n cynnwys neidio oddi ar glogwyni, sgramblo a hyd yn oed nofio gyda morloi’r Iwerydd, os ydych chi’n ffodus, wrth i chi ddod o hyd i’ch ffordd o gwmpas yr arfordir. Gallwch arfordira mewn sawl lle ar hyd yr arfordir, ac mae darparwyr fel Preseli Venture neu Anglesey Adventures yn cynnig anturiaethau arfordira hanner diwrnod neu hyd yn oed benwythnosau cyfan, i bawb o wyth oed i fyny.


Rafftio
Gwyddom fod Caerdydd yn brifddinas fywiog sy’n llawn o holl atyniadau’r ddinas fawr, ond wyddech chi ei bod hi hefyd yn cynnig antur i gyffroi pawb sy’n caru’r amgylchedd naturiol hefyd? Lleolir Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ym Mae Caerdydd ac mae’n cynnig cyfle i rafftio yn y ddinas, dafliad carreg o ddŵr agored Môr Hafren, ar gwrs dŵr llawn hwyl, gyda hyd at bump o ffrindiau! Maen nhw hefyd yn cynnig rafftio i’r teulu, canŵio a chaiacio a ‘hot-dogging’, gweithgaredd hwyliog i ddau o bobl sy’n cynnwys caiac gwynt a llawer o ddŵr garw cyffrous!


Padlfyrddio
Mae padlfyrddio (‘stand-up paddleboarding’ neu SUP) wedi bod yn aflonyddu’r dyfroedd(!) ymysg dŵr-garwyr dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnig cyfle i godi uwchlaw lefel y môr ar eich bwrdd SUP eich hun, a llywio cwrs drwy’r dŵr fel anturiaethwr eofn. Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn cynnig sesiynau SUP, neu os well ganddo chi archwilio ein arfordir, mae Island SUP Ltd yn Barry, De Cymru, yn cynnig gwersi ar gyfer dechreuwyr, gwellwyr, a padlfyrddio uwch. Mae Adventure Tours UK yn cynnig gwyliau gweithgareddau lluosog a thyniadau lles naturiol yn Gogledd Cymru. Mae chwaraeon dŵr Bae Ceredigion yn Cei Newydd, Canolbarth Cymru, yn cynnig sesiynau ar hyd y glannau a hyd yn oed dosbarthiadau ffitrwydd ar padlfwrdd!
Gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi’n iawn ar gyfer eich diwrnod gan ddilyn cyngor AdventureSmart ar badlfyrddio’n ddiogel


Ymgolli yn y Gymraeg
Efallai nad ydych chi’n byw mewn ardal ble clywir y Gymraeg yn rheolaidd. Os hoffech ymgolli mewn cymuned sy’n gyfan gwbl Gymraeg, anelwch am Ben Llŷn. Yno, rhaid i chi ymweld â phentref unigryw Nant Gwrtheyrn, cartref y Ganolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol. Mae llawer mwy na gwersi Cymraeg ar gynnig yma, gan gynnwys llety pum seren yn hen fythynnod chwarelwyr y llecyn diarffordd a hardd hwn, bwyty da, a chyfle i ddeall hanes y Nant, ddoe a heddiw.

Celf a diwylliant
Mae arfordir Cymru’n atyniad enfawr i’r llygad ac yn ysbrydoliaeth ddi-ben-draw i’r bobl sy’n byw ar ei hyd ac yn ymweld â hi. Bob mis Medi, bydd yr Helfa Gelf yn digwydd yng Ngogledd Cymru, wrth i lawer o stiwdios artistiaid a chrefftwyr a leolir ger y môr agor eu drysau i’r cyhoedd am fis. Ewch ar antur i ymweld â gweithdai arlunwyr, gemyddion, crochenwyr, artistiaid tecstilau, a llawer mwy.
I ymgolli mewn theatr, cerddoriaeth a dawns, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yw’r lle i chi – mae ‘canolfan fwyaf blaenllaw’r celfyddydau’n genedlaethol’ yn cynnig rhaglen gyfoethog o ddigwyddiadau a golygfeydd diguro dros Fae Ceredigion. Neu beth am gymryd rhan yn un o weithdai niferus Craft in the Bay yng Nghaerdydd. Gallwch hefyd fynd ar daith drwy stori diwydiant a menter yng Nghymru yn Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe, ac wedi’r holl waith ymenyddol, ymlaciwch ar lan y Marina gyda theisen a choffi yn y caffi awyr agored, â’i golygfeydd hyfryd dros fastiau’r cychod.

